Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i edrych ar yr opsiynau a ffefrir i newid yr unig gylchfannau ar yr A55.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates Opsiwn D fel y llwybr a ffefrir i newid y gylchfan yng Nghyffordd 15 Llanfairfechan ac Opsiwn A ar gyfer Cyffordd 16 ym Mhenmaenmawr a Dwygyfylchi.
Ar gyfer Cyffordd 15, byddai Opsiwn D yn caniatáu symud ar ac oddi ar yr A55 mewn pedwar cyfeiriad, dau tua'r dwyrain a dau tua'r gorllewin, trwy ddefnyddio trosbont gyda chyffordd T i'r gogledd o'r A55 a chyffordd flaenoriaeth i'r de o'r gylchfan bresennol. Byddai'r ffyrdd ymadael i'r gogledd yn cael eu codi yn lleol i ganiatáu i'r bont fynd dros yr A55.
Byddai Opsiwn A ar Gyffordd 16 yn rhoi symudiad pedwar ffordd, gan ddisodli cyffordd 16A. Byddai'r gylchfan ar gyffordd 16 yn cael ei disodli gan ffyrdd ymadael ac ymuno tua'r gorllewin. Byddai trefniadau cyffordd 16A yn cynnwys trosbont a byddai'r ffyrdd ymuno ac ymadael yn cael eu hadeiladu ar argloddiau wedi'u codi. Byddai ffordd gyswllt newydd yn cael ei hadeiladu, yn rhedeg yn gyfochrog â'r A55, gan gysylltu yn ôl at Ffordd Ysguborowen.
Daeth gwerthusiad yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru i'r casgliad mai y ddau ddewis oedd yn perfformio orau wrth eu mesur yn erbyn amcanion y prosiect a meini prawf Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru.
Gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod haf 2021 a'u cwblhau erbyn diwedd 2022.
Mae'r sesiynau gwybodaeth, ble y gall pobl weld rhagor o fanylion a dysgu mwy am yr opsiynau a ffefrir yn cael eu cynnal:
- ddydd Mawrth 25 Mehefin yn Neuadd Plwyf Sant Gwynan yn Nwygyfylchi
- dydd Mercher 26 Mehefin yng Nghanolfan Gymunedol Maen Alaw ym Mhenmaenmawr a
- dydd Iau 27 Mehefin yng Nghanolfan Gymunedol Llanfairfechan.
Bydd pob arddangosfa yn cael ei chynnal rhwng 10:00 ac 20:00 ac mae croeso i bawb.
Meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
"Bydd newid y cylchfannau ar Gyffordd 15 ac 16 gyda chyffyrdd ar lefelau gwahanol yn gwella amseroedd teithio ac yn gwneud y rhan yma o'r A55 yn fwy diogel i bob defnyddiwr.
"Mae hyn yn rhan bwysig o'n cynigion i wella seilwaith trafnidiaeth Gogledd Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf, a bydd y cynllun yn caniatáu i draffig lifo'n fwy esmwyth heb orfod arafu ar y gylchfan yn ogystal â golygu y bydd y ffordd yn gallu ymdopi yn well.
"Bydd yr opsiynau yr wyf wedi'u dewis yn cyflawni ein hamcanion i sicrhau y bydd y rhan yma o'r A55 yn addas at y dyfodol.
“Mae arddangosfeydd fel hyn yn gyfle da i bobl ddysgu am y cynigion sydd o dan ystyriaeth ac i ddweud eu dweud.”