Heddiw, mae Ken Skates, wedi atgoffa partïon â diddordeb y bydd gorchmynion drafft ar gyfer ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yr A487 yn cael eu harddangos yr wythnos hon.
Mae’r gorchmynion drafft yn nodi’r tir sydd ei angen a’r pwerau sy’n angenrheidiol i adeiladu’r ffordd. Hefyd, mae modd gweld yr asesiadau a gynhaliwyd, gan gynnwys Datganiad Amgylcheddol. Mae’n gyfle i’r bobl leol graffu ar y dogfennau ac i dîm y prosiect esbonio’r cynigion.
Bydd yr arddangosfeydd i’w gweld yng:
- • Ngwesty’r Celtic Royal, Caernarfon – dydd Mawrth a dydd Mercher 20 a 21 Medi 10:00-20:00
- • Gwesty Gwledig Meifod – dydd Iau 22 Medi 14:00-20:00 a dydd Gwener 23 Medi 10:00-14:00
“Mae hwn yn brosiect mawr er mwyn mynd i’r afael ag un o’r mannau gwaethaf yn yr ardal o ran tagfeydd traffig. Bydd y cynllun arfaethedig yn darparu priffordd newydd 9.70km o hyd gan ddechrau ar y pwynt mwyaf gogledd-orllewinol o gylchfan cefnffordd bresennol yr A487, ac yn dod i ben wrth gylchfan Plas Menai.
“Y gost arfaethedig ar gyfer Ffordd Osgoi Caernarfon i Bontnewydd yr A487 yw £91 miliwn a disgwylir i’r gwaith ddechrau ddiwedd 2017. Bydd o gymorth i wella amseroedd teithio a diogelwch ar yr A487 a bydd hefyd yn gwella ansawdd bywyd trigolion lleol. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd arfaethedig i ymweld â’r arddangosfa.”
Mae taflenni dwyieithog wedi’u dosbarthu yn y cyffiniau ac maent yn rhoi manylion am yr arddangosfeydd a lle y gellir cael rhagor o wybodaeth. Bydd hysbysiadau yn y papurau lleol hefyd.
Hefyd, mae’r dogfennau ar gael ar-lein: http://gov.wales/topics/transport/roads/schemes/a487/caernarfon-bontnewydd-bypass/?lang=cy