Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies, bod rhagor o ardaloedd ledled Cymru ar fin cymryd rhan yng nghynllun peilot Llywodraeth Cymru, sef y cynnig gofal plant, sy'n torri tir newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan fydd y cynnig ar waith ledled Cymru, bydd yn cynnwys 30 awr o addysg gynnar a gofal plant ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed ac sy’n gweithio, a hynny am  48 wythnos y flwyddyn.

Ym mis Medi 2017, cychwynnodd Llywodraeth Cymru roi'r cynnig peilot ar waith mewn nifer o ardaloedd yn Ynys Môn, Gwynedd, Caerffili , Sir y Fflint , Rhondda Cynon Taf ac Abertawe ac ar draws Blaenau Gwent. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl i Lywodraeth Cymru brofi amrywiaeth o elfennau a phroblemau sy'n cael effaith ar y gwaith o gyflwyno'r cynllun ac ar y nifer sy'n ei ddefnyddio.

Heddiw, mae'r Gweinidog yn cyhoeddi bod y cynnig ar gael dros Ynys Môn, Gwynedd a Chaerffili  o mis yma. Fydd hefyd ar gael yn Rhondda Cynon Taf i gyd o ddechrau mis Medi 2018. Mae trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chynghorau Sir y Flint ac Abertawe gyda’r gobaith o ymestyn y cynnig i holl ardaloedd sy’n weddill o fewn yr awdurdodau hynny cyn gynted â phosib. 

Yn ogystal, bydd y cynnig yn cael ei ymestyn ar unwaith i’r ardaloedd canlynol yn Rhondda Cynon Taf: Brynna, Llanharan, Llanharri, Tonysguboriau, Hawthorn, Graig, Rhydyfelin Canolog, Ffynon Taf a Threforest.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Mae'n cynnig gofal plant ni yn torri tir newydd. Mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i rieni o bob cwr o Gymru. Mae'n lleihau’r straen ar incwm teuluoedd ac yn helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr sy'n atal rhieni rhag ceisio am waith neu gynyddu eu horiau.

“Rwy'n falch o gadarnhau bod y cynnig yn cael ei gyflwyno mewn rhannau newydd o Gymru, wrth i ni barhau â'r gwaith o gyflwyno’r cynnig ledled y wlad erbyn 2020.”

Fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19, bydd swm y cyllid i gefnogi’r cynnig gofal plant yn cynyddu i £25m yn 2018-19, ac i £45m yn 2019-20.

Bydd y cynnydd hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru  wario ar ehangu a phrofi rhai agweddau ar ddarparu’r cynnig mewn rhai awdurdodau lleol ychwanegol o fis Medi 2018 ymlaen.