Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gwnaeth Ardaloedd Menter Cymru naill ai gwrdd â thargedau allweddol 2015 neu ragori arnynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dengys data bod 1,960 o swyddi wedi’u creu, eu diogelu neu eu helpu yn ystod 2015/16. Y targed oedd rhwng 1,400 a 1,900.

Hefyd, mae adroddiad blynyddol diweddaraf Dangosydd Perfformiad Allweddol Ardaloedd Menter Cymru yn dangos y cafodd £70 miliwn o fuddsoddiadau gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus eu sicrhau gyda Llywodraeth Cymru yn helpu dros 100 o fentrau.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi: 

“Mae’r adroddiad yn dangos bod yr Ardaloedd yn sicrhau canlyniadau ac yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi o safbwynt swyddi, buddsoddiad a’r seilwaith. 

“Ers i’r ardaloedd gael eu creu yn 2012/13 hyd ddiwedd 2015/16, mae bron 9,000 o swyddi wedi’u creu, eu diogelu neu eu helpu. Mae  £177 miliwn o fuddsoddiadau gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus wedi’u sicrhau ac mae dros 400 o fusnesau wedi elwa ar gymorth Llywodraeth Cymru. 

“Dros y deuddeg mis diwethaf, buddsoddwyd yn helaeth yn y ffyrdd, safleoedd datblygu swyddfeydd ac unedau gweithgynhyrchu. Wrth i fusnesau ehangu a thrwy sicrhau mewnfuddsoddiad, mae cannoedd o swyddi newydd wedi’u creu a’u diogelu. Mae’r Ardaloedd Menter hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau a gwaith Ymchwil a Datblygu. 

“Mae cynlluniau strategol wedi’u llunio ar gyfer pob ardal fenter gan fyrddau cynghori annibynnol o dan arweiniad y sector preifat ac maen nhw’n adlewyrchu’r modd yr eir i’r afael â’r heriau a’r cymhlethdodau gwahanol. Hefyd, mae gan bob Ardal amserlen gyflenwi wahanol. Mewn rhai ardaloedd, rydym yn gwybod y gellir cwrdd â nifer o amcanion drwy gyflwyno atebion tymor byr. Mae rhai o’r Ardaloedd Menter eraill yn cynllunio ac yn paratoi i wireddu’u hamcanion yn y tymor canolig i’r tymor hir. 

“Er nad oes modd cymharu’r Ardaloedd Menter, mae’n bleser gen i gynnwys manylion am lwyddiannau pob Ardal Fenter ar y wefan. Hoffwn ddiolch i’r byrddau cynghori am eu gwaith caled a’u hymroddiad ac rydw i’n falch fod pob un o’n Hardaloedd Menter yn llwyddo ac yn gosod y sylfeini ar gyfer creu swyddi, denu buddsoddiadau, cefnogi twf yn y sector ac, yn anad dim, yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cymunedau lleol”.

Mae’r Pum Dangosydd Perfformiad Allweddol yn cwmpasu:

  • Swyddi a gefnogwyd – naill ai swyddi wedi’u creu, eu diogelu neu eu helpu;
  • Buddsoddiad – gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat;
  • Mentrau a gafodd gymorth ariannol a chymorth arall gan Lywodraeth Cymru;
  • Nifer yr ymholiadau a gafwyd drwy Busnes Cymru a Thimau’r Sector; 
  • Tir a gafodd ei adfer neu a ddaeth ar gael ar gyfer datblygiadau a swyddfeydd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys ffigurau ar wahân ar draws y saith ardal. Bydd manylion y canlyniadau, fesul Ardal, yn cael eu cyhoeddi ar ffurf naratif pan fydd y  Cynlluniau  strategol ar gyfer pob Ardal yn cael eu diweddaru ar y wefan. Nid yw Ardal Fenter Glannau Port Talbot, a sefydlwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i’r argyfwng yn y diwydiant dur, wedi’i chynnwys yn yr adroddiad. 

Mae’r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn  (2015-2016) yn dangos:

  • rhoddwyd cymorth i greu 1,960 o swyddi  ̶  1,400-1,900 oedd y targed; 
  • cafodd £70.1 miliwn ei fuddsoddi  ̶  £30 miliwn-£50 miliwn oedd y targed;
  • cafodd 109 o fentrau gymorth ariannol a chymorth arall– rhwng 100-200 oedd y targed; 
  • cafwyd 378 o ymholiadau – 150-300 oedd y targed; 
  • cafodd 1.12 hectar o dir ei adfer fel ei fod ar gael i’w ddatblygu – doedd dim targed ar gyfer hwnnw. 
  • crëwyd neu ailwampiwyd 120 m.sg – y targed oedd hyd at 9,000 m.sg. Roedd y targed yn cynnwys  swyddfeydd 7,000 m.sg yn 2 Cwr y Ddinas yn Ardal Fenter Canol Caerdydd. Mae hynny wedi’i wneud a bydd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad nesaf.