Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Awst 2012.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 208 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn archwilio'r opsiynau ar gyfer darparu swyddogaethau Byrddau Draenio Mewnol yng ngoleuni Cymru Fyw a darparu diwygiadau gwasanaethau cyhoeddus.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Byrddau Draenio Mewnol yn gwneud gwaith pwysig ar ddraenio tir a rheolaeth lefel y dŵr. Mae eu gwybodaeth a’u swyddogaethau yn ganolog i ddarparu'r dull holistaidd hwn.
Rydym eisiau eich barn ar dri dewis ar gyfer cyflawni swyddogaethau’r Byrddau Draenio Mewnol yn y dyfodol yng Nghymru. Y rhain yw:
- Dewis 1 – Cyflawni drwy Fyrddau Draenio Mewnol fel ar hyn o bryd;
- Dewis 2 – Cyflawni drwy Fyrddau Draenio Mewnol gyda newidiadau i drefniadau strwythurol; a
- Dewis 3 - Cyflawni drwy unrhyw gorff unigol newydd ar gyfer rheolaeth adnoddau naturiol yng Nghymru.
Fe fyddem yn croesawu eich barn ar y cynigion hyn ac unrhyw faterion eraill yr ydych chi’n credu sy’n berthnasol i’n penderfyniad ar gyflawni swyddogaethau’r Byrddau Draenio Mewnol yn y dyfodol yng Nghymru.