Beth yw’r Ardal Triniaeth Ddwys, ac ym mhle y mae'r Ardal hon?
Beth yw'r Ardal Triniaeth Ddwys?
Mae'r Ardal hon yng ngorllewin Cymru lle'r ydym wedi cyflwyno mesurau ychwanegol i ymdrin â TB buchol.
Rydym yn mynd i'r afael â phob achos o TB buchol mewn rhywogaethau domestig ac anifeiliaid gwyllt. Ein nod yw cael gwared ar y clefyd mewn gwartheg lleol.
Ble mae'r Ardal Triniaeth Ddwys?
Mae'r Ardal hon yng ngogledd Sir Benfro, ond mae'n cynnwys ardaloedd bach yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Mae gan yr ardal:
- un o'r cyfraddau uchaf o achosion o TB buchol yng Nghymru
- cyfran uwch o wartheg sy'n ymateb i brawf TB
- ffermydd gwartheg sy'n dueddol o fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau symud hirach nag ardaloedd eraill
- moch daear sy'n dioddef o TB
- ac mae’r ardal yn gyfrifol am gyfran sylweddol o’r costau iawndal cenedlaethol ar gyfer TB.
Mae ffermio cig eidion a llaeth yn ddiwydiannau pwysig yn yr ardal hon, felly gall TB buchol fod yn niweidiol iawn.
Beth rydyn ni’n ei wneud?
Rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i leihau lefel yr haint ym mhob rhywogaeth yn yr ardal. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:
- dulliau llymach o reoli gwartheg
- gwell mesurau bioddiogelwch
- cynnal profion ar eifr a chamelidau
- brechu moch daear
Cyflwynwyd mwy o ddulliau rheoli a chadw gwyliadwriaeth ar 1 Mai 2010. Mae pob un sy'n cadw gwartheg yn yr ardal hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect i wella bioddiogelwch ar eu ffermydd. Mae dros 5,000 o frechlynnau wedi'u rhoi i foch daear.