Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ymchwil yn ceisio gwella’r ddealltwriaeth o’r berthynas rhwng cyflenwad tai, enwebiadau, dyraniadau a gweithrediad effeithiol y dull Ailgartrefu Cyflym.

Prif ganfyddiadau

Dyraniadau ar draws Cymru

  • Mae nifer yr aelwydydd sy'n cael eu dyrannu i dai cymdeithasol yn amrywio ledled Cymru ac, yn gyffredinol, mae'r cyfraddau dyrannu mewn awdurdodau lleol sydd â stoc dai yn uwch nag mewn awdurdodau sydd heb stoc dai.
  • Mae'r cyfraddau dyrannu ar gyfer aelwydydd nad oes dyletswydd statudol ar yr awdurdodau i ddarparu llety ar eu cyfer yn uwch nag ar gyfer aelwydydd lle mae yna ddyletswydd statudol ar yr awdurdodau i ddarparu llety.

Prinder stoc tai cymdeithasol

  • Mae prinder difrifol o stoc tai cymdeithasol, yn enwedig eiddo ag un ystafell wely.
  • Roedd gorlenwi mewn tai cymdeithasol yn cael ei ddisgrifio'n ''argyfwng cudd''.
  • Yn ôl rhai o'r rheini a holwyd, ar sail y stoc sydd ar gael y pennir pryd y mae pobl, neu a yw pobl yn cael eiddo o restrau aros tai cymdeithasol ai peidio, yn hytrach nag ar sail dewisiadau rhesymol na pholisïau dyrannu lleol.

Anghenion grwpiau demograffig penodol

  • Nododd y rhai a holwyd fod pobl ddigartref yn wynebu cyfnodau hir mewn llety dros dro.
  • Nodwyd bod diffyg stoc yn un o'r ffactorau allweddol sydd i gyfrif am restrau aros arbennig o faith i bobl sengl, pobl anabl, a theuluoedd mawr.
  • Nododd y rhai a holwyd fod cynnydd yn nifer bobl sydd â nifer o anghenion cymorth, a bod hynny'n rhoi mwy a mwy o bwysau ar bolisïau dyrannu a gwasanaethau cymorth.

Y Berthynas rhwng yr awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC)

  • Roedd y rhai a holwyd yn cytuno'n gryf ei bod yn hanfodol bwysig cynnal perthynas agos a chydweithredol rhwng yr awdurdodau lleol a'r LLC.

Gwrthod ceisiadau am dai cymdeithasol

  • Nid oedd y rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol yn awgrymu bod “dewis a dethol” yn broblem yn eu hardal. Fodd bynnag, roedd yr awdurdodau lleol hynny a gododd bryderon o'r farn bod hynny'n gwaethygu'r pwysau ar eu stoc bresennol.
  • Mae anghysondeb rhwng yr awdurdodau lleol a'r LLC wrth gasglu data, rhannu gwybodaeth a rheoli, ac mae hynny'n rhwystr o ran mabwysadu'r arferion gorau a gwneud penderfyniadau effeithiol.

Adroddiadau

Archwilio’r dyraniad tai cymdeithasol yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Benjamin Lewis

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.