Neidio i'r prif gynnwy

Nodau ymchwil a methodoleg

Comisiynwyd Alma Economics gan Lywodraeth Cymru i archwilio i’r modd y mae dyraniadau tai cymdeithasol yn cael eu gwneud ar draws awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCCiaid) yng Nghymru. Roedd yn cynnwys dwy brif biler – un yn ymwneud â chasglu data ansoddol trwy 49 o gyfweliadau ag awdurdodau lleol, LCCiaid, a sefydliadau rhanddeiliaid ehangach, ac un arall yn ymwneud â chasglu data meintiol gan awdurdodau lleol.

Er mwyn ehangu’r sylfaen dystiolaeth feintiol, roedd yr ymchwil hwn yn cynnwys ymarfer casglu data sylfaenol gydag awdurdodau lleol ynghylch eu cofrestrau tai, enwebiadau, dyraniadau, a chynigion i ymgeiswyr tai cymdeithasol. Cawsom ddata gan 16 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd y sampl yn fras yn gynrychioliadol o’r boblogaeth wirioneddol o ran natur wledig yr ardal a p'un a oedd awdurdodau lleol yn dal stoc ai peidio [troednodyn 1], fel y gwelir isod yn Nhabl 1 a Thabl 2 [troednodyn 2].

Tabl 1. Sampl o gasgliad data: awdurdodau lleol sy’n dal stoc
Math o awdurdod lleolNifer o awdurdodau lleolSampl templed data
Yn dal stoc11 (50.0%)8 (50.0%)
Ddim yn dal stoc11 (50.0%)8 (50.0%)
Tabl 2. Sampl o gasgliad data: dosbarthiad gwledig-trefol [troednodyn 3]
Math o awdurdod lleolNifer o awdurdodau lleolSampl templed data
Gwledig9 (41.0%)6 (37.5%)
Trefol3 (13.6%)3 (18.75%)
Cymoedd5 (22.7%)3 (18.75%)
Arall5 (22.7%)4 (25.0%)

Roedd heriau gydag ansawdd data, yn enwedig o ran casglu data ar nodweddion demograffig. Ni chwblhaodd llawer o awdurdodau lleol y data hwn, gan nodi y byddai’n ormod o waith i chwilio am nodweddion demograffig ar y lefel hon. Lle mae nodweddion demograffig ar gael, mae’r data fel arfer yn ymwneud â’r ymgeisydd, ac nid yr aelwydydd ehangach y maent yn gwneud cais drostynt. O ganlyniad, nid oes fawr ddim data demograffig aelwydydd, os o gwbl, ar y gofrestr dai, gan gynnwys data sy’n ymwneud â phlant. Gan fod y data hwn yn dod o ddata gweinyddol sylfaenol a gasglwyd gan Alma Economics oddi wrth awdurdodau lleol, dylid bod yn ofalus iawn oherwydd anghysondebau posibl yn y modd y mae awdurdodau lleol yn casglu ac yn adrodd ar ddata tai cymdeithasol a ddefnyddir ar gyfer yr ymchwil hwn. Er enghraifft, mae'n debygol y bydd amrywiadau rhwng awdurdodau lleol o ran rheoli data, gofynion a phrosesu, yn ogystal â pha mor dda y caiff y data ei gynnal o fewn y gofrestr dai a'r dyraniadau. Serch hynny, mae’r data hwn yn cynnig mewnwelediad nad oedd ar gael o’r blaen i sut y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu ledled Cymru.

Er mwyn cael mewnwelediadau ansoddol manwl a nodi enghreifftiau o arfer gorau, cynhaliwyd cyfweliadau gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, 17 LCC, a 10 sefydliad rhanddeiliaid. Dadansoddwyd cyfweliadau trwy gynllun codio. Roedd hyn yn caniatáu canfod themâu cyffredin, yn ogystal ag ystyried y gwahanol systemau dyrannu a ddefnyddir gan awdurdodau lleol unigol.

Prif ganfyddiadau

Canfu ein data meintiol fod y galw am dai cymdeithasol wedi cynyddu 16% ers blwyddyn ariannol 2022-23. Mae’r cynnydd hwn yn arbennig o amlwg mewn awdurdodau lleol sy’n dal stoc ac mewn awdurdodau lleol gwledig, gan arwain at amseroedd aros estynedig am dai cymdeithasol a mwy o ddibyniaeth ar lety dros dro. Roedd cyfweliadau ag awdurdodau lleol, LCCiaid a sefydliadau rhanddeiliaid yn adleisio hyn, ond hefyd yn pwysleisio bod nifer yr ymgeiswyr ag anghenion cymorth lluosog wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae nifer yr aelwydydd sy’n cael eu dyrannu i dai cymdeithasol yn amrywio ledled Cymru, gydag awdurdodau lleol sy’n dal stoc yn gyffredinol yn dangos cyfraddau dyrannu uwch nag awdurdodau nad ydynt yn dal stoc, ac aelwydydd heb ddyletswydd statudol yn cael tai cymdeithasol ar gyfraddau uwch nag aelwydydd â dyletswydd, ond oherwydd rhai pryderon ynghylch ansawdd data, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r canlyniadau hyn.

Roedd y cyfweleion yn cytuno bod prinder difrifol o stoc tai cymdeithasol, yn enwedig eiddo un ystafell wely. Canfu ein dadansoddiad meintiol fod eiddo un ystafell wely yn cyfrif am dros 50% o’r galw ar gofrestrau tai ledled Cymru, gyda’r diffyg yn fwyaf difrifol mewn awdurdodau lleol gwledig, lle maent yn cyfrif am 59% o’r galw ar gofrestrau tai. Mae diffyg eiddo tair a phedair ystafell wely, yn enwedig mewn ardaloedd trefol lle maent yn cyfrif am 20% o'r galw, wedi arwain at orlenwi cynyddol. Disgrifiodd rhai cyfweleion orlenwi mewn tai cymdeithasol fel “argyfwng cudd” a nodwyd bod y tâl tanfeddiannu yn arwain at waethygu gorlenwi. Yn ôl rhai cyfweleion, mae’r diffyg stoc tai cymdeithasol gyda phrinder difrifol o rai meintiau eiddo wedi arwain at system ddyrannu sy’n golygu mai argaeledd stoc sy’n pennu pryd ac a yw pobl yn cael eiddo oddi ar restrau aros tai cymdeithasol, yn hytrach na dewisiadau rhesymol neu bolisïau dyrannu lleol.

Er bod data meintiol cyfyngedig ar gael ar anghenion grwpiau demograffig penodol, tynnodd y cyfweleion sylw at y rhwystrau y mae rhai grwpiau yn eu hwynebu. Nododd cyfweleion fod pobl sy’n profi digartrefedd yn wynebu cyfnodau hir o amser mewn llety dros dro, gyda chanlyniadau i iechyd meddwl, anghenion cymorth, a chyfleoedd addysgol a gwaith. Nodwyd bod diffyg stoc – yn enwedig eiddo un ystafell wely, eiddo wedi’i addasu, ac eiddo mawr – yn ffactor allweddol yn y rhestrau aros arbennig o faith i bobl sengl, pobl anabl, a theuluoedd mawr. Gall diffyg eiddo mawr arwain at orlenwi mewn tai cymdeithasol, gydag un sefydliad rhanddeiliaid yn dweud bod pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn llawer mwy tebygol o brofi gorlenwi yng Nghymru na phobl Wyn. Nododd y cyfweleion fod nifer y bobl sydd ag anghenion cymorth lluosog yn rhoi pwysau cynyddol ar bolisïau dyrannu a gwasanaethau cymorth.

Roedd pob grŵp o gyfweleion yn cytuno'n gryf ynglŷn â phwysigrwydd canolog cynnal perthnasoedd agos a chydweithredol rhwng awdurdodau lleol a LCCiaid. Roedd awdurdodau lleol a oedd yn gallu ymhelaethu ar y ffyrdd y maent yn blaenoriaethu ac yn buddsoddi yn eu perthynas ag LCCiaid yn tueddu hefyd i fod yr awdurdodau lleol hynny a oedd yn dweud fod ganddynt ddyraniadau mwy amserol i'r rhai sydd â’r angen mwyaf, ac atebion effeithiol i argyfyngau Mae’r adroddiad hwn felly’n cynnwys arfer gorau i gryfhau partneriaethau, gan gynnwys cynnal deialog agored a thrafodaethau cyn-denantiaeth, cynnal cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd, a swyddogion awdurdodau lleol yn gweithio o swyddfeydd LCCiaid yn achlysurol.

Roedd cyfweleion yn cydnabod y risg y byddai LCCiaid yn gwrthod rhai ymgeiswyr yn afresymol (cyfeirir at hyn weithiau fel “dewis a dethol”). Dim ond lleiafrif o gyfweleion awdurdodau lleol a oedd yn ystyried hyn yn her yn eu hardal. Mewn rhai achosion, dywedodd awdurdodau lleol yn benodol nad oedd unrhyw achosion o “ddewis a dethol” wedi digwydd yn eu hardal. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion i gryfhau prosesau gwrthod ymgeiswyr. Mae'r argymhellion yn cynnwys sicrhau bod lefel y manylder sy'n ofynnol gan LCCiaid i egluro gwrthodiadau yn cael ei safoni ledled y wlad, a bod awdurdodau lleol yn cadw cofrestrau tai yn gyfredol gyda gwybodaeth fanwl.

Mae argymhellion eraill a dynnwyd o'r gwaith maes yn yr adroddiad hwn yn cynnwys argymhellion i gynyddu'r stoc tai cymdeithasol, gan gynnwys rhyddhau tir a ddelir gan y sector cyhoeddus ar gyfer datblygu tai cymdeithasol a diwygio systemau cynllunio; cryfhau cydweithio rhwng dyraniadau, tai, a gwasanaethau cymorth i ddiwallu anghenion grwpiau agored i niwed; a hyrwyddo dull sy’n ystyriol o drawma wrth ddyrannu tai cymdeithasol.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn canfod bod casglu, rhannu a rheoli data anghyson rhwng awdurdodau lleol a LCCiaid yn rhwystro arfer gorau a gwneud penderfyniadau effeithiol. Mae bylchau mawr yn y data o ran y wybodaeth sydd ar gael am nodweddion cymdeithasol-ddemograffig aelwydydd. Yn ogystal, nid oes gan lawer o systemau data a ddefnyddir gan awdurdodau lleol a LCCiaid y gallu i adolygu data hanesyddol yn fanwl; er enghraifft, manylion rhestrau aros fel yr oeddent ddoe, neu rai blynyddoedd yn ôl. Gellir gwneud gwelliannau trwy safoni casglu data, rheoli data yn well a gwell mecanweithiau rhannu data.

Troednodiadau

[1] Nid yw awdurdodau lleol nad ydynt yn dal stoc yn berchen ar eu stoc tai cymdeithasol eu hunain nac yn eu rheoli. Mae LCCiaid yn berchen ar ac yn rheoli tai cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn. Mae awdurdodau lleol sy'n dal stoc yn berchen ar eu stoc tai eu hunain ac yn eu rheoli, ond mae LCCiaid yn dal i fod yn berchen ar rywfaint o stoc yn yr ardaloedd hyn ac yn eu rheoli.

[2] Ffynhonnell ar gyfer Tabl 1 a Thabl 2: Data tai cymdeithasol sylfaenol a gasglwyd gan Alma Economics o sampl o 16 awdurdod lleol yng Nghymru.

[3] Cymru wledig: diffiniadau a sut i ddewis rhwyg hwy

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Alma Economics

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Benjamin Lewis
Ebost: HousingResearchTeam@Llyw.Cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 85/2024
ISBN digidol 978-1-83625-976-3

Image
GSR logo