Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith blaenorol wedi awgrymu y byddai manteision posib o ddefnyddio dull mwy strwythuredig a systematig o gasglu data cyflenwi am ddysgu.

Yng Ngwanwyn 2004, comisiynwyd CRG Research Cyf - mewn cydweithrediad â Miller Research UK Cyf a Dateb - gan gyn Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (ELWa) i gynnal prosiect a oedd wedi'i gynllunio i gynorthwyo ELWa i ddatblygu ei syniadaeth am y dull o asesu'r cyflenwad dysgu.

Disgwyliwyd i werth penodol ddeillio o fodel priodol mewn cyfnod lle'r oedd newidiadau sylweddol yn amlwg eisoes, yn ELWa ac ymhlith ei bartneriaid. Yn benodol, disgwyliwyd i Fframwaith Cynllunio a System Gyllido Cenedlaethol (NPFS) unigol ELWa, a oedd yn cael ei ddatblygu'n frwd, arwain at benderfyniadau llawer mwy agored ac eglurder wrth ddewis y llwybrau dysgu mwyaf priodol a chost-effeithiol. Disgwylir i'r Cynghorau Sgiliau Sector newydd hefyd sbarduno cwestiynau llawer mwy hygyrch a strategol ynghylch trefniadau blaenorol mewn perthynas â'r cyflenwad dysgu. Er enghraifft, mae trefniant newydd y Sgiliau Sector rhwng ELWa a chynllun braenaru Cynghorau Sgiliau Sector yn cynnwys asesu'r ddarpariaeth ddysgu gyfredol ar gyfer eu sectorau unigol. Roedd llawer o ddarparwyr dysgu (yn enwedig colegau Addysg Bellach) wedi cynyddu eu gallu'n gyflym i gynllunio a dadansoddi'n strwythuredig faterion fel mantais gystadleuol a'r galw tebygol yn y dyfodol am ddysgu yn y blynyddoedd diwethaf: eto, disgwyliwyd archwiliad effeithiol o'r fframwaith cyflenwi i gyd-fynd â'r gweithgarwch hwn, gan arwain at enillion ansawdd a chost-effeithiolrwydd cyffredinol.

Adroddiadau

Auditing the supply of learning , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.