Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwaith ymchwil hwn yn cyfrannu at y dystiolaeth ar y berthynas rhwng llesiant a mynychu digwyddiadau diwylliannol, treftadaeth a chelfyddydol neu gymryd rhan ynddynt yng Nghymru.

Yn y gwaith ymchwil hwn, defnyddiwyd ystod o ddulliau, gan gynnwys: adolygiad cwmpasu llenyddiaeth, a dulliau dadansoddi ystadegol a oedd yn cynnwys dadansoddiad dosbarth cudd o ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn ychwanegu at y dystiolaeth bod mynediad i'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn dibynnu'n fawr ar ffactorau economaidd-gymdeithasol croestoriadol megis: deiliadaeth, cyflogaeth, iechyd ac anabledd. Mae'r gwaith ymchwil hwn hefyd yn adlewyrchu tystiolaeth flaenorol bod llesiant pobl sy'n byw mewn tlodi yn llawer gwaeth.

Mae creu teipoleg yn awgrymu bod patrwm o ymgysylltu â diwylliant sydd, yn rhannol, yn cael ei bennu gan anfantais economaidd-gymdeithasol.

  • Mae gan Grŵp 1, sef y grŵp mwyaf, statws economaidd-gymdeithasol uwch ac maent yn ymgysylltu'n dda â diwylliant. Fodd bynnag, mae'r tri grŵp arall yn ymgysylltu i raddau llai.
  • Nid oes gan Grŵp 2 unrhyw rwystrau amlwg i ddiwylliant, celfyddydau a threftadaeth ond dywedodd pobl yn y grŵp hwn nad oedd ganddynt ddiddordeb.
  • Mae Grŵp 3 yn wynebu ystod o rwystrau, yn amrywio o ddiffyg trafnidiaeth i brinder arian, sy'n eu hatal rhag ymgysylltu.
  • Mae Grŵp 4 yn wynebu rhwystrau amlwg yn gysylltiedig ag iechyd sy'n eu hatal rhag ymgysylltu â'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.

At ei gilydd, canfu'r gwaith ymchwil hwn fod mynychu ystod eang o weithgareddau diwylliannol neu gymryd rhan ynddynt yn chwarae rôl wrth ragweld a fydd rhywun yn nodi lefelau uchel o lesiant. Roedd ymatebwyr a fynychodd weithgareddau diwylliannol neu a gymerodd ran ynddynt 23% yn fwy tebygol o nodi lefel uchel o foddhad â bywyd. Roedd hyn yn wir hyd yn oed pan ystyriwyd ffactorau esboniadol angenrheidiol eraill.

 

Adroddiadau

Archwilio'r berthynas rhwng diwylliant a llesiant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Archwilio'r berthynas rhwng diwylliant a llesiant: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 608 KB

PDF
608 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Hannah Browne Gott

Rhif ffôn: 0300 062 8016

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.