Canllaw i helpwch chi i gadw at y gyfraith wrth profi offer chwistrellu plaladdwyr.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid profi offer gwasgaru Cynnyrch Diogelu Planhigion (PPP). Rhaid i chi brofi’r holl offer (heblaw chwistrellwyr cefn neu law) sy'n bum mlwydd oed neu'n hŷn. Mae gennych tan ei bumed pen-blwydd i brofi offer newydd am y tro cyntaf.
Y rhestr lawn o'r mathau o offer y mae angen eu profi yw:
- chwistrellwr cnwd daear (wedi’i godi/ar y ddaear) gyda braich llai na 3m
- cymhwysydd gronynnau neu belenni
- gosodwyr ar gwch (braich llai na 3m)
- gosodwyr gronynnau ar gwch
- offer cymylu, creu anwedd a mygu
- offer dipio swp
- offer trin hadau
- cludwr, bwrdd rholio, offer symud arall
- cymhwysydd hylif oddi tano’r wyneb
- weed wipers
- chwistrellwyr braich â geometreg amrywiol (gan gynnwys fertigol) wedi’u gosod ar blannwr (llai na 3 metr)
Mae'r Cynllun Profi Chwistrellydd Cenedlaethol (NSTS) sy'n gyfrifol am gynnal profion offer. Mae'r dolenni isod yn nodi'r gofynion ar gyfer profi offer, megis:
- profi chwistrellwyr (ar nsts.org.uk)
- profi offer micro-gronynnog (ar nsts.org.uk)
- profi offer gwasgaru pelenni gwlithod (ar nsts.org.uk)
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr. Mae yna hefyd ddetholiad o restrau gwirio defnyddiol ar gyfer y gwahanol fathau o offer.
Nid oes angen cynnal prawf ar offer segur nac offer nad yw’n cael ei ddefnyddio i wasgaru plaladdwyr.