Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r crynodeb hwn yn amlinellu datblygiad cysyniadol y Mynegai Bregusrwydd Cymharol Pontio Teg, offeryn i helpu Llywodraeth Cymru a llunwyr penderfyniadau yng Nghymru i ddatblygu eu dull o liniaru canlyniadau negyddol posibl mesurau lliniaru newid hinsawdd a’u helpu nhw i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd pontio i economi carbon isel.

Nod y Mynegai hwn yw adnabod ardaloedd daearyddol a chymunedau sydd fwyaf bregus i effeithiau economaidd-gymdeithasol polisïau lliniaru newid hinsawdd, megis colli swyddi mewn diwydiannau allyriadau uchel, a helpu llunwyr penderfyniadau i liniaru’r risgiau hyn wrth hyrwyddo cyfleoedd yn yr economi carbon isel.

Cefndir a sail resymegol

Mae pontio i Sero Net, fel yr amlinellir yng nghynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws sectorau. Er bod hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, gall y pontio hwn effeithio’n anghymesur ar rai cymunedau penodol, yn enwedig y rheini sydd â chrynodiadau uchel o swyddi mewn diwydiannau carbon-ddwys, graddau is o sicrwydd ariannol, neu fynediad cyfyngedig at addysg a datblygu sgiliau.

Mewn ymateb i’r her hon, comisiynodd Llywodraeth Cymru Miller Research i ddatblygu dull cysyniadol o ddeall y mathau hyn o fregusrwydd, ac a allai helpu llunwyr polisi i sicrhau nad oes unrhyw grŵp na rhanbarth yn cael eu gadael ar ôl yn ystod y pontio. Yn benodol, roedd gan yr ymchwil ddau brif amcan cyffredinol, sef canfod newidynnau sy’n ffactorau effaith ar fregusrwydd unigolion neu grwpiau i liniaru newid hinsawdd, a datblygu dull ar gyfer modelu bregusrwydd i darfu cysylltiedig â lliniaru newid hinsawdd.

Methodoleg

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth cynhwysfawr, cyd-drafod â rhanddeiliaid, a datblygu mynegai arloesol i asesu bregusrwydd cymharol rhwng awdurdodau lleol Cymru a’i gilydd.

Roedd camau allweddol o’r fethodoleg yn cynnwys:

  • cyfweliadau cwmpasu gyda swyddogion polisi a rhanddeiliaid perthnasol i ganfod meysydd polisi lliniaru newid hinsawdd a allai arwain at darfu economaidd-gymdeithasol, neu effeithio ar gymuned benodol, canfod ffactorau a oedd yn eu barn nhw yn benderfynyddion allweddol bregusrwydd, a ffactorau a oedd yn cynrychioli bylchau mewn gwybodaeth, sef y rheini y gallent eu ystyried ond lle bo tystiolaeth annigonol i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau
  • adolygiad pwrpasol o lenyddiaeth yn cychwyn gyda throsolwg eang o fregusrwydd a gwytnwch, a ddilynwyd gan adolygiad penodol o’r dystiolaeth ar gyfer pob math o fregusrwydd a ganfuwyd
  • gweithdai cyd-drafod cymunedol i ddilysu canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth a chasglu tystiolaeth o brofiad bywyd gan y rheini sy’n byw mewn cymunedau bregus yng Nghymru
  • datblygu’r Mynegai gan ddefnyddio data ar 10 o ffactorau bregusrwydd allweddol, megis dwysedd swyddi allyriadau uchel, sicrwydd ariannol, sgiliau ac addysg a chyfalaf cymdeithasol
  • dadansoddi senarios i archwilio effaith ymyraethau polisi penodol, megis y symud at gerbydau trydan ac ôl-osod tai ar gyfer effeithlonrwydd ynni
  • archwilio sut y gellid defnyddio’r Mynegai ar y cyd â dadansoddiad gofodol GIS i roi gwybodaeth ar gyfer meysydd polisi penodol megis twf mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Canfyddiadau

Canfu’r ymchwil hwn ei bod yn bosibl gyda’r sail bresennol o dystiolaeth asesu bregusrwydd cymharol i liniaru newid hinsawdd ar lefel yr awdurdod lleol. Trwy’r adolygiad llenyddiaeth, cymharu mynegeion tebyg, a’r gwaith maes, canfuwyd deg o ffactorau sy’n cael effaith fawr ar fregusrwydd cymharol unigolyn neu grŵp i liniaru Newid Hinsawdd o fewn Cymru y gellir eu mapio’n ofodol. Canfuwyd ffactorau ychwanegol megis rhywedd, ethnigrwydd ac oedran fel rhai sy’n debygol o effeithio ar fregusrwydd, fodd bynnag, nid oeddent yn addas i’w mapio, neu roedd yr effeithiau’n ffurfio rhan o’r sail dystiolaeth o fewn ffactorau eraill megis sicrwydd ariannol.

Canfuwyd bod ffactorau megis dwysedd swyddi mewn diwydiannau allyriadau uchel, lefelau isel o sicrwydd ariannol, a chyrhaeddiad addysgol cyfyngedig yn gwaethygu bregusrwydd lle’r oeddent fwyaf cyffredin. Ar y llaw arall, roedd rhanbarthau sydd ag economïau mwy amrywiol, lefelau uwch o sgiliau ac addysg, a chyfalaf cymdeithasol cryfach mewn gwell sefyllfa i elwa o’r pontio.

Yn y broses o ddatblygu’r dull, canfu’r prosiect nifer o gyfyngiadau gyda’r Mynegai sy’n debygol o ddod i’r amlwg pan geisir datblygu’r Mynegai yn fodel neu fap o fregusrwydd cymharol yn y dyfodol. Roedd y graddau mae data ar gael yn broblem, gyda lefel yr awdurdod lleol y raddfa isaf lle gelllid canfod data o ansawdd uchel sydd ar gael i’r cyhoedd. Er bod iddo sail gadarn o ran y data sydd ar gael, caiff y Mynegai ei gyfyngu gan natur oddrychol y dewis a phwysoli’r ffactorau a oedd yn cael eu penderfynu yn y pen draw gan ganfyddiad tîm y prosiect o’r dystiolaeth. Roedd cyfyngiadau pellach yn cynnwys amrywiaeth eang offerynnau polisi lliniaru newid hinsawdd y gallai pob un ohonynt effeithio ar unigolion mewn gwahanol ffyrdd, a’r angen am sail dystiolaeth fwy cadarn gan gynnwys ymgynghori cynrychioliadol gydag aelodau o’r cyhoedd.

Er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r cyfyngiadau hyn, dangosodd yr ymchwil y gellid penderfynu pwysoliad cymharol pwysoliad bregusrwydd gan y cyd-destun polisi ac y gellid gwella ymhellach y defnydd o’r Mynegai mewn penderfyniadau polisi trwy fabwysiadu’r mynegai cyffredinol fel ei fod yn addas ar gyfer y senario penodol.

Casgliadau ac argymhellion

Mae’r dull o asesu bregusrwydd i bolisi lliniaru newid hinsawdd a ddatblygwyd yn y prosiect ymchwil hwn yn rhoi offeryn posibl i lunwyr penderfyniadau cenedlaethol i’w galluogi i ystyried atebion penodol seiliedig ar le a chymorth wedi’i dargedu. Mae’n ddull a fydd yn gofyn am ei ailadrodd yn barhaus wrth i ddata newydd a thystiolaeth newydd gael eu casglu, ac wrth i heriau newydd ddod i’r amlwg ar y llwybr at Sero Net. Yn ogystal, bydd angen iddo gael ei drin yn hyblyg wrth i lunwyr penderfyniadau ryngweithio ag ef a rhoi adborth ar ei effeithiolrwydd.

Mae’r ymchwil yn cloi gyda chyfres o argymhellion a luniwyd i sicrhau bod y Mynegai Bregusrwydd Cymharol Pontio Teg yn parhau’n offeryn deinamig, cynhwysol ac effeithiol ar gyfer galluogi pontio teg a chyfiawn at economi carbon isel yng Nghymru. Mae’r argymhellion hyn wedi eu rhannu’n dri chategori.

Data ac ymchwil

Sy’n cynnwys argymhellion yn ymwneud â chynnwys pwyntiau data pellach, gwell manylder, ffactorau ychwanegol a defnyddio’r mynegai wrth werthuso polisi.

Cyd-drafod â rhanddeiliaid

Sy’n cynnwys yr angen i gyd-drafod ag awdurdodau lleol a grwpiau a ymyleiddir.

Gwelliannau methodolegol

Gydag argymhellion ar sut i ddatblygu’r offeryn trwy fynd i’r afael â chyfyngiadau’r prosiect ymchwil a gwybodaeth ar gamau nesaf y dull gan gynnwys treialu’r defnydd ohono.

Manylion cyswllt

Awduron: Dom Oliver, Emilio Solis, Katie Lloyd, Sean Heron a Susannah Lynn

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Neil Waghorn
Is-Adran Ymchwil Cymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 15/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-231-5

GSR logo