Yn esbonio sut y gallwch archebu gwasanaeth band eang ffeibr.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae gan y mwyafrif helaeth o gartrefi a busnesau ledled Cymru fynediad at gysylltedd digidol o ansawdd da. Rydym wedi buddsoddi arian cyhoeddus sylweddol i helpu i gyflawni hyn drwy gyflwyno technoleg band eang ffeibr.
Os oes gan eich eiddo fynediad at wasanaeth band eang ffeibr, bydd angen i chi uwchraddio er mwyn elwa ar gyflymderau uwch. Gallwch wneud hyn drwy osod archeb gyda darparwr band eang.
Defnyddir dwy brif dechnoleg i ddarparu band eang ffeibr, sef:
- Cysylltiad ffeibr i'r cabinet (FTTC), y cyfeirir ato hefyd fel band eang cyflym iawn. Yn gyffredinol, gall FTTC ddarparu cyflymderau o hyd at 80 Mbps gan ddibynnu ar y darparwr band eang a lleoliad yr eiddo.
- Ffeibr i'r adeilad (FTTP), y cyfeirir ato hefyd fel band eang ffeibr gwibgyswllt neu fand eang ffeibr llawn. Mae FTTP yn gallu darparu cyflymderau o hyd at 1000Mbps, a elwir yn dechnoleg ‘band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit’.
Defnyddiwch declyn Wiriwr argaeledd band eang Ofcom i ddarganfod a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym. Gallwch hefyd edrych ar wybodaeth a chanllawiau Think Broadband, sy'n cynnwys gwiriwr argaeledd band eang a mapiau argaeledd. Mae yna nifer o gyflenwyr sy’n darparu rhwydweithiau band eang yng Nghymru. Gallwch hefyd wirio'n uniongyrchol gyda darparwyr band eang neu defnyddiwch wefannau cymharu prisiau.
Archebu band eang ffeibr i’r cabinet (FTTC)
I archebu gwasanaeth band eang cyflym iawn, cysylltwch â darparwr band eang i osod archeb.
Gallwch gysylltu â darparwyr band eang yn uniongyrchol neu os yw'n well gennych gallwch ddefnyddio gwefan cymharu prisiau i gymharu gwahanol becynnau.
Archebu band eang ffeibr i’r adeilad (FTTP)
Os oes gan eich eiddo fynediad at dechnoleg FTTP gallwch fwynhau rhai o'r cyflymderau band eang uchaf yn y DU.
Er mwyn elwa o'r math hwn o gysylltiad, bydd angen i chi ddefnyddio darparwr band eang sy'n cynnig y math hwn o wasanaeth.
Nid yw pob darparwr gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth FTTP ar hyn o bryd ac efallai na fydd eich darparwr presennol yn rhoi gwybod i chi ei fod ar gael.
Pan fyddwch yn cysylltu â darparwr gwasanaeth newydd, efallai y dywedir wrthych nad oes band eang ffeibr ar gael. Gall hyn ddigwydd hefyd os ydych yn defnyddio gwefan cymharu prisiau lle nad yw cyflenwyr FTTP bob amser wedi'u rhestru. Dyma ddewis y darparwr gwasanaeth neu'r wefan cymharu prisiau.
I archebu gwasanaeth FTTP, rhaid i chi gysylltu â chyflenwr yn uniongyrchol. Gallwch wirio pa wasanaethau a rhwydweithiau a allai fod ar gael drwy ddefnyddio gwiriwr argaeledd band eang Ofcom. Gallwch hefyd edrych ar wybodaeth a chanllawiau Think Broadband. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â nifer o ddarparwyr i gymharu cost ac argaeledd.