Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chynghorau Castell-nedd Port Talbot a Phowys, wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant rheilffyrdd i helpu i fireinio cynigion ar gyfer Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru.
Cynhaliwyd 'profion marchnad sylfaenol' helaeth ar y cyd â rhanddeiliaid o'r diwydiant rheilffyrdd yn gynharach eleni i archwilio'r angen busnes a chynnwys cyngor ac adborth technegol mewn dyluniad uwchgynllun cychwynnol, oedd yn sylfaen i waith ymgysylltu â'r gymuned leol yn yr haf.
Meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
“Mae llawer o gefnogaeth a brwdfrydedd wedi bod ar gyfer y prosiect ac rydym yn parhau i ddatblygu'r achos busnes a symud ymlaen â chynlluniau i gyflwyno cais cynllunio yn gynnar yn 2020. Nodwyd llawer o gyfleoedd cadarnhaol drwy drafodaethau ac mae tîm y prosiect yn ystyried ffyrdd o fwyafu potensial y prosiect.
Mae trafodaethau'n parhau â'r diwydiant rheilffyrdd i sicrhau prosiect dichonadwy a chynaliadwy y gellir buddsoddi ynddo sy'n gallu mynd rhagddo hyd at y cam cyflawni. Fel rhan o'r broses hon, mae amrywiaeth o arweinwyr o'r diwydiant rheilffyrdd wedi dod ynghyd i sefydlu Grŵp Gwerthuso Prosiect i archwilio'r gwaith a wnaed hyd yma, dadansoddi dichonoldeb y prosiect ac asesu'r ffordd orau ymlaen.
Disgwylir i’r Grwp ymateb yn fuan yn y flwyddyn newydd a bydd yr adborth yn helpu i ddiffinio cynlluniau terfynol.
Ochr yn ochr â hynny, ac i helpu i roi buddsoddiad ac arloesedd ar garlam, mae gwaith yn parhau i sefydlu Cyflymydd Arloesedd fel rhan annatod o'r prosiect. Bydd hyn yn dod â'r diwydiant rheilffyrdd, academia a chanolfannau Ymchwil a Datblygu ynghyd i arloesi, datblygu, profi a dilysu atebion newydd ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd a fydd yn cefnogi ac yn cyflymu'r broses fasnacheiddio a mynediad at y farchnad technolegau sy'n dod i'r amlwg.
Bydd adborth o'r gwaith ymgysylltu cynnar, sef gweithdy'r Grŵp Gwerthuso Prosiect a'r Cyflymydd Arloesedd, yn ogystal â chanlyniadau'r Asesiad o Effaith Amgylcheddol yn llywio'r cynigion terfynol ar gyfer Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru.
Meddai'r Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys:
“Mae'r prosiect arloesol hwn, a fyddai'n cynnig cyfleuster profi cerbydau o bwysigrwydd rhyngwladol mawr ei angen ac yn denu buddsoddiad ar lefel uchel, a fyddai'n arwain at fuddion ar gyfer y rhanbarth, i'w groesawu'n fawr. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at fynd rhagddo gyda'r prosiect hwn hyd at ei gyflawni'n llwyddiannus, gan sicrhau ein bod yn sicrhau'r canlyniadau economaidd gorau posib o ganlyniad i'r cynnig gwbl unigryw hwn.
Meddai'r Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
"Mae gan y prosiect hwn gefnogaeth lawn ein Cyngor ac mae'n rhan bwysig o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru a'r Cyngor i adfywio'r Cymoedd drwy ddenu swyddi o safon a buddsoddiad sylweddol i'r ardal.
Bydd cynigion ar gyfer yr uwchgynllun terfynol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn sail i ymgynghoriad statudol cyn cyflwyno cais cynllunio am Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru yn gynnar yn 2020.
Mae'r cynigion yn rhan ychwanegol bwysig o strategaeth adnewyddu'r safle a gynigir gan Celtic Energy, gan weithredu fel sbardun i arloesedd, buddsoddiad yn y diwydiant rheilffyrdd a'i ehangu yng Nghymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol.