Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bore da gyfeillion.

Pan ddes i i siarad yng nghynhadledd conffederasiwn y GIG y llynedd, dywedais fy mod i'n credu bod angen inni gael dwy sgwrs gyda'r Gwasanaeth Iechyd a'r cyhoedd. 

Y cyntaf oedd bod angen gwella perfformiad y GIG yn gyflym er mwyn gweld a thrin pobl yn gyflymach. Ac yn ail, sut ry'n ni'n cefnogi'r GIG i addasu i heriau heddiw a heriau'r dyfodol.

Gyda blwyddyn i fynd nes diwedd cyfnod y Senedd hon, sut ydyn ni'n mynd i'r afael â'r ddau nod hynny?

Perfformiad yw’r flaenoriaeth

Gadewch inni ddechrau gyda pherfformiad.

Ry'n ni wedi cael cyfnod dwys o gydweithio i leihau'r amseroedd aros hiraf. 

Mae nifer y bobl sy'n aros dros ddwy flynedd wedi lleihau yn aruthrol. Fydd y ffigyrau terfynol ddim ar gael am ychydig o fisoedd eto, ond mae'r byrddau iechyd wedi fy sicrhau y byddwn ni’n eithaf agos at y ffigwr o 8000 y soniodd y Prif Weinidog amdano.

Mae'r cyllid ychwanegol gennym ni wedi helpu, ond mae'r ffocws di-baid ar berfformiad wedi chwarae rhan enfawr hefyd. 

Dw i am ddiolch i chi i gyd am eich ymdrechion.

Ond byddai pob un ohonom yn cytuno bod y broses hefyd wedi dangos inni ble mae angen i'r GIG ganolbwyntio ei egni'n well os yw e am wella perfformiad yn gynaliadwy – ac mae gan y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl hynny. 

Fe wnes i benodi Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar berfformiad a chynhyrchiant ym mis Hydref, sy’n cael ei arwain gan Syr David Sloman.

Mae'r grŵp hwn bellach wedi gorffen ei waith. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad, a'r camau y byddwn yn eu cymryd, ar ddiwedd y mis. Bydd cyfle i drafod ein hymateb ar y cyd i'r her o ran perfformiad yn syth ar ôl hynny. 

Bydd y drafodaeth honno, a'r hyn rwy’ eisiau siarad amdano heddiw, yn ein harwain dros y flwyddyn i ddod.

Y 5 blaenoriaeth allweddol er mwyn “newid”

Felly beth ydw i eisiau siarad amdano heddiw? Rwy’ eisiau siarad am y pethau ry’n ni i gyd yn gwybod bod angen inni eu gwella os yw'r GIG yn mynd i allu addasu ar gyfer y dyfodol.

Rwy’ eisiau siarad am y pum maes sy'n rhan o bopeth ry’n ni'n ei wneud ac sy’n cyffwrdd ar bob agwedd ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl ar gyfer pob rhan o'r boblogaeth:

  • mwy o ffocws ar atal
  • symud at wasanaethau sylfaenol a chymunedol
  • GIG digidol
  • symud at weithio rhanbarthol
  • ac yn olaf, gwella arweinyddiaeth a datblygu gweithlu'r GIG

Yn syml, mae trawsnewid ein system iechyd yn golygu canolbwyntio mwy ar atal fel bod angen llai o driniaethau.

Dyw e ddim yn realistig i unrhyw system iechyd yn unman allu ymdopi â'r twf yn y galw gan boblogaeth hŷn sydd â mwy o gyflyrau cronig, heb symud yn sylweddol tuag at wasanaethau ataliol.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwy’ wedi cyhoeddi ymrwymiad i gynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael ag achosion ehangach salwch corfforol a meddyliol, gan adeiladu ar y gwaith ry’n ni wedi’i weld yng Ngwent – a gwneud Cymru yn ‘genedl Marmot’. 

Yn y flwyddyn i ddod, bydd estyniad i'n rhaglenni sgrinio. 

Ond efallai mai'r newid mwyaf sylfaenol y bydd angen inni ei wneud yw dod o hyd i ffordd o adnabod y grŵp hwnnw o bobl fregus ac agored i niwed yn ein cymuned. Os na fydd y rhain yn cael gofal a chymorth effeithiol nawr, mae’n debygol y byddan nhw angen aros yn yr ysbyty am gyfnod hir.

Os ydyn ni’n gwybod bod angen help ar bobl, fe allwn ni eu helpu nhw.

Mae angen inni fod yn well am eu hadnabod yn gynnar ac yna ymyrryd yn gyflym.

Fe wnaethom ni gynnydd da cyn y pandemig wrth ddatblygu offer a systemau i gefnogi meddygon teulu i adnabod y grŵp hwn sy'n wynebu risg, ond mae'r cynnydd wedi arafu.

Dros y flwyddyn i ddod rwy’ am inni fynd yn ôl ar y trywydd iawn – fel y gallwn ni ddal i fyny yn gyflym. Un enghraifft yn unig yw hwn o'r math o drawsnewid sydd ei angen mewn gofal ataliol – gofal rhagweithiol, wedi'i dargedu, sy'n helpu cleifion i gadw'n iach a helpu'r GIG i ymdopi â'r galw.

Mae symud gwasanaethau i leoliadau sylfaenol a chymunedol yn ganolog i sut mae angen inni drawsnewid gofal iechyd ar gyfer y dyfodol.

Mae consensws eang bod angen i hyn ddigwydd, ond dy’n ni ddim wedi gwneud y cynnydd sydd ei angen. Ry'n ni'n gwybod bod hyn yn well i gleifion ac yn well i wydnwch gwasanaethau hefyd. Felly dros y flwyddyn nesaf rwy’ eisiau dechrau adeiladu ar ein rhwydwaith o glystyrau gofal sylfaenol i ddechrau datblygu a chyflawni ein cynlluniau o ddifri i greu gwasanaeth diagnostig sylfaenol a chymunedol cryfach.

Ry’n ni hefyd yn gwybod bod angen inni gydlynu gofal a pharhad gofal yn well, oherwydd mae'n dda i gleifion, mae'n dda i ofal sylfaenol ac mae'n dda i'r system gofal eilaidd.

Felly cyn bo hir, byddwn yn lansio menter newydd i helpu meddygon teulu i sicrhau parhad gofal gyda dull gwella ansawdd. I ddechrau, bydd meddygon teulu yn adnabod y cleifion mwyaf agored i niwed a fyddai'n elwa o weld yr un gweithiwr gofal iechyd proffesiynol bob amser. 

Byddwn yn adeiladu ar hyn dros amser fel y bydd yn rhywbeth y gall pawb ei ddisgwyl. Bydd hyn yn helpu i wella canlyniadau i bobl â chyflyrau cronig ac yn helpu i gadw pobl yn iach gartref.

Mae gwasanaeth sy'n canolbwyntio'n fwy ar atal a darparu mwy o ofal yn y gymuned yn un sydd hefyd yn rhoi'r claf yn ganolog i'r gwasanaeth ac yn ei drin fel partner wrth reoli ei iechyd corfforol a meddyliol.

Ond rhywbeth sy'n hanfodol i allu cyflawni hyn yw GIG digidol.

Ry’n ni'n gwybod nad ydyn ni wedi gwneud digon, yn ddigon cyflym, i drawsnewid y system gofal iechyd. Mae hyn yn ein dal ni yn ôl.

Dros y flwyddyn i ddod, mae angen inni gyflawni rhai pethau digidol allweddol – ehangu e-bresgripsiynu, lansio'r ap mamolaeth newydd a lansio ap y GIG, fydd yn rhoi mwy o bŵer i gleifion.

Ond mae angen inni gael sgwrs fwy, a mwy agored am sut gallwn ni gydweithio'n well ar draws y system i wneud newid mawr wrth gyflawni’n ddigidol a symud tu hwnt i'r seilos ry’n ni wedi caniatáu iddyn nhw ddatblygu. 

Mae ein taith ddigidol wedi’i llesteirio gan dangyflawni a pherthnasoedd cynyddol heriol.

Dylai trawsnewid digidol fod yn rhan annatod o bob un penderfyniad ry’n ni’n ei wneud. Mae'n gyfrifoldeb ar bawb ond mae gan bob un ohonom rôl wahanol i'w chwarae.

Rwy’ wedi gofyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru wella ei allu i gynllunio, rheoli a chyflawni prosiectau digidol yn ein system yn gyflym.

Byddwn ni’n rhoi'r gefnogaeth sydd ei angen arno.

Mae angen inni fod â mwy o hyder yn y disgwyliad a'r gallu digidol yn genedlaethol nag sydd gennym ni heddiw. Ond yn yr un modd, ry’n ni angen llawer mwy o ymrwymiad i gydweithio rhwng sefydliadau iechyd nag o’r blaen. 

Does dim lle i adeiladu ymerodraeth, nac i newid er mwyn newid.

Mae angen inni gael dealltwriaeth glir o'r ffordd ymlaen yn genedlaethol, a beth sydd ei angen i sicrhau system genedlaethol gydlynol er mwyn penderfynu ym mhob rhan o'r system a ddylid datblygu, comisiynu neu brynu oddi ar y silff mewn ffordd sy'n cyfrannu at y cynllun cenedlaethol integredig hwnnw, yn hytrach na'i gwneud hi'n anoddach i'w gyflawni.

Mae angen inni wneud cynnydd go iawn eleni. Bydd cyfle i archwilio hyn ymhellach yn yr uwchgynhadledd ddigidol ym mis Mai.

Mae Gwasanaeth Iechyd sy'n darparu mwy o wasanaethau yn rhanbarthol yn un lle mae gwasanaethau bregus yn cael eu darparu’n fwy cynaliadwy a gwasanaethau sy’n trin llawer o achosion yn cael eu darparu’n fwy effeithlon.

Yn y pen draw, mae hyn yn arwain at well canlyniadau i gleifion.

Mae yna rai enghreifftiau da ond dy’n ni ddim wedi gwneud digon o gydweithio yn rhanbarthol.

Rwy’ am weld newid mawr mewn gwaith rhanbarthol yn y flwyddyn sydd i ddod.

Yn ystod y misoedd diwethaf, ry’n ni wedi gweld pa mor effeithiol yw’r gwasanaethau cataract rhanbarthol yn y de-ddwyrain. Felly, rhaid i'n gwelliannau ni mewn gofal wedi’i gynllunio ganolbwyntio ar atebion rhanbarthol i roi mynediad amserol i gleifion at ofal o'r safon y maen nhw'n ei haeddu. Fe ddweda’ i fwy am hyn yn nes ymlaen.

Ac yn olaf, arweinyddiaeth a gweithlu'r GIG.

Mae arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel ac ym mhob rhan o'r system – ymhlith clinigwyr a rheolwyr – yn hanfodol i wella perfformiad ein GIG.

Byddwn yn creu'r amodau cywir i sicrhau bod gofal effeithlon, o safon, yn ffynnu, trwy greu'r diwylliant cywir ac ysgogi ein gweithlu. A dylai datblygu sgiliau arweinwyr a'r gweithlu ehangach fod yn ddisgwyliad sylfaenol o weithio yn y GIG.

Dros y flwyddyn i ddod, rwy’ am roi hwb i'r gefnogaeth ry’n ni'n ei rhoi o ran sgiliau arwain yn y GIG – fel bod gennym ni fwy o arweinwyr sy'n gallu arwain gyda thosturi, creadigrwydd ac uchelgais i wella. 

Fe fyddwn ni’n cymryd camau i gryfhau sgiliau gweithredol a chlinigol trwy roi hyfforddiant wedi'i dargedu ym meysydd mwyaf hanfodol y gwasanaeth, trwy academïau sgiliau’r GIG fydd yn cael eu lansio yn y misoedd nesaf.

Pum blaenoriaeth allweddol i wella mynediad a gwasanaethau.

Mewn ffordd, gallech ddweud nad yw’r meysydd blaenoriaeth hyn yn ddim byd newydd.

Pum blaenoriaeth allweddol lle mae cytundeb eang o ran y ffordd ymlaen – da i gleifion, da i wasanaethau.

Felly pam ydyn ni wedi cael trafferth cyflawni'r nodau hyn?

Beth sy'n ein rhwystro? Sut ry’n ni'n mynd i wneud yn siŵr bod gennym ni well siawns o drawsnewid y GIG yn y ffordd rydyn ni ei angen?

Beth sy'n ein rhwystro a beth sy'n mynd i newid?

Y man cychwyn mewn unrhyw drafodaeth am yr her o newid y GIG yw pwysau adnoddau.

Mae hyn yn real.

Mae'r flwyddyn i ddod yn well nag yr oedden ni wedi ei ofni, gyda mwy o gyllid gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, a mwy o arian cyfalaf, sydd wedi bod yn her ers peth amser oherwydd agwedd Llywodraethau blaenorol y Deyrnas Unedig at fuddsoddi – neu ddiffyg buddsoddi.

Er y bydd y flwyddyn nesaf yn well, bydd yn dal i fod yn anodd. Allwn ni ddim gwneud iawn am bedair blynedd ar ddeg mewn un flwyddyn.

Yr hyn allwn ni ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n defnyddio pob punt ry’n ni'n ei gael yn y ffordd fwyaf effeithiol. 

Ar hyn o bryd, allwn ni ddim dweud ein bod ni’n gwneud hynny.

Fel y rhan fwyaf o systemau gofal iechyd yn y byd datblygedig, mae Cymru’n wynebu her enfawr o ran cynhyrchiant ac o ran gwario adnoddau mewn ffordd nad yw bob amser yn rhoi'r budd mwyaf. 

Gadewch i mi fod yn glir, nid galwad ar ein staff i weithio'n galetach yw hyn. Rwy’ wedi gweld gyda fy llygaid fy hun enghreifftiau di-ri o staff y GIG yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y dylem ei ddisgwyl, er mwyn gofalu'n well a gwneud mwy i'w cleifion.

Nid dyna'r broblem. Ond mae gennym ni system ddryslyd, sy’n rhwystro'r hyn y mae ein staff yn gwybod sydd angen digwydd, a hynny'n llawer rhy aml.

Rwy’n edrych ymlaen at weld argymhellion grŵp cynghori'r gweinidog yn y maes hwn. Dyma gyfle – ac rwy’n gwybod y byddwn ni i gyd yn mynd ar drywydd hyn gyda'n holl egni dros y flwyddyn nesaf.

Ond does neb yn yr ystafell yma’n credu mai cyllid yn unig yw’r rheswm dros yr heriau ry’n ni'n eu hwynebu.

Allwn ni ddim disgwyl y gall cyllidebau ymateb i'r hyn sydd wedi dod yn alw anghynaliadwy am adnoddau.

Mae angen sicrhau sail gynaliadwy i wasanaethau ar unwaith. 

I wneud hynny mae angen ffordd newydd o weithio.

Ry’n ni wedi dod yn system sy'n dibynnu ormod ar reoli ar bob lefel ac sydd ddim yn ddigon cydweithredol.

System sy'n gyflymach i bwyntio'r bys nag i geisio datrys sefyllfa anodd, a system lle mae ein amharodrwydd i gymryd risg yn rhwystro ein hawydd i fod yn well.

Rwy’n credu mai’r ateb yw edrych o'r newydd ar dair agwedd allweddol ar y ffordd ry'n ni'n rhedeg y GIG yng Nghymru: 

  • Atebolrwydd,
  • Arweinyddiaeth y system,
  • A datblygu diwylliant mwy agored a thryloyw sy'n llawer gwell am ddysgu oddi wrtho'i hun ac oddi wrth eraill. 

Beth ydw i’n ei olygu wrth hynny? 

Yn rhy aml, dyw tanberfformio ddim yn golygu wynebu canlyniadau. Yn fy amser byr yn y rôl, rwy’ wedi gweld yr hyn sydd gyfystyr â chodi'r ysgwyddau pan fydda i’n herio pobl ynglŷn â pham nad ydyn nhw wedi cadw at gyllideb neu pam fod targed heb ei gyrraedd. 

Mae hyn yn sylfaenol annerbyniol. Fyddwn ni ddim yn goddef diwylliant lle does dim cosb pan nad yw ymrwymiadau'n cael eu bodloni.

Dyw’r atebolrwydd yn ein system ddim yn ddigon cryf.

Rwy' wedi bod yn glir ynglŷn â'm disgwyliadau o ran y blaenoriaethau sydd i'w cyflawni. 

Fis Rhagfyr, fe gyhoeddais i fframwaith cynllunio'r GIG ar gyfer y tair blynedd nesaf – ac fe gadwais yr addewid a wnes i chi, sef canolbwyntio ar lai o flaenoriaethau ac amlinellu ein prif ofynion o ran y system.

Mae 16 o fetrigau a rhestr o gamau galluogi, ynghyd â chydnabyddiaeth bod yr hyblygrwydd i flaenoriaethu yn eich dwylo chi tu hwnt i hynny. 

Rwy' am fod yn hollol glir – y quid pro quo wrth osod set o flaenoriaethau â mwy o ffocws yw fy mod i gant y gant yn disgwyl iddyn nhw gael eu cyflawni. Byddan nhw'n arwain at well gwasanaethau, a gwell gwerth, i'r cyhoedd. 

Ac fe fydda i'n cyhoeddi perfformiad pob sefydliad yn unol â'r metrigau a'r camau gweithredu hynny. 

Os byddwn ni'n darparu cyllid ychwanegol i'r GIG i berfformio'n well yn erbyn cynlluniau sydd wedi'u cytuno, ac os na fydd y mesurau'n cael eu bodloni, bydd y cyllid yn cael ei ddychwelyd. 

Ry'n ni'n gwneud hynny nawr gyda'r rhaglen gofal wedi'i gynllunio. Mae nifer o enghreifftiau lle na lwyddwyd i fodloni ymrwymiadau oedd wedi'u cytuno, er gwaetha perfformiad cyffredinol y system. Felly, bydd cyllid yn cael ei gymryd yn ôl i’w ddefnyddio mewn mannau eraill. 

Ond dw i ddim eisiau system sy’n gwneud dim ond cosbi.

Rwy' eisiau edrych hefyd sut gallwn ni ddefnyddio cyllid i ysgogi a gwobrwyo sefydliadau i gyflawni'n well a gwella'u cynhyrchiant.

Fe soniais i’n gynharach am yr angen i symud gwasanaethau allan o ysbytai ac i'r cymunedau lle mae pobl yn byw. Mae hyn yn hanfodol er mwyn atal derbyniadau brys i'r ysbyty. 

Wrth i fwy o wasanaethau diagnostig a gwaith arall symud o'r ysbyty i'r gymuned, bydd angen i adnoddau a ffyrdd o weithio symud hefyd. 

Er mwyn cael mwy o atebolrwydd ynglŷn â'r ffordd ry'n ni'n dyrannu cyllid fe fydda i'n disgwyl, fel man cychwyn, i bob bwrdd iechyd ddatgan faint mae'n ei wario ar ofal sylfaenol a chymunedol eleni, a diffinio hynny. Bydd hyn yn ein galluogi i weithio tuag at ddiffiniad cyffredin ledled Cymru, ac yn ein helpu i fod yn fwy systematig ynglŷn â sut ry'n ni'n gwneud y newid. 

Ry'n ni wedi bod yn poeni gormod am anawsterau diffinio, ac wedi gadael i hynny dynnu ein sylw oddi wrth un o'r materion strategol pwysicaf ry'n ni'n ei wynebu. 

All hynny ddim parhau.

Dim ond y dechrau yw'r gwaith o symud mwy o wasanaethau diagnostig i'r gymuned. Rwy am weithio gyda chi dros y misoedd nesaf i greu ymrwymiadau pendant, gyda chamau cyflawni clir a mesurau atebolrwydd ar gyfer symud gwasanaethau ac adnoddau yn systematig i gymunedau yn raddol dros y pum mlynedd nesaf.

Ac rwy' eisiau newid y berthynas sydd gyda ni ag arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd. 

Rwy' eisoes wedi ail-lunio'r amcanion a osodon ni ar gyfer cadeiryddion, i roi mwy o eglurder a ffocws i'r amcanion hynny. Ac fe fyddwn ni'n drylwyr wrth eu dwyn i gyfri. 

Llai o fiwrocratiaeth, llai o flaenoriaethau, mwy o eglurder, mwy o atebolrwydd.

Yn gysylltiedig â hyn, mae angen agwedd newydd at arweinyddiaeth yn y system yn gyffredinol.

Mae gan Gymru fantais enfawr – ry'n ni'n ddigon bach i redeg ein Gwasanaeth Iechyd fel un system gydlynol. Yn llythrennol, mae modd cael yr holl arweinwyr allweddol – llywodraeth Cymru a'r GIG – mewn un ystafell i symud ymlaen gyda'i gilydd. Byddai gwledydd mwy wrth eu bodd yn gallu gwneud hynny. 

Ond, yn rhy aml, ry'n ni'n gweithio mewn seilos a dy'n ni ddim yn gwneud digon o'r fantais honno.

Mae talent ein staff wedi creu argraff arna i.  Nid wedi peri syndod imi. Ond wedi fy nghalonogi a'm sicrhau. 

Rhyngom ni i gyd, does dim prinder syniadau da, dim prinder egni na brwdfrydedd i wneud pethau'n well, i herio ein hunain. 

Rhai o'r cyfarfodydd gorau rwy' wedi'u cael yw pan fydd y bobl fwyaf ysbrydoledig – meddygon, nyrsys a chlinigwyr eraill, rheolwyr ac arweinwyr eraill yn y GIG – yn dod ynghyd gyda fy swyddogion i ddatrys problem gyffredin. 

Ry’n ni’n dod o’r cyfarfod hwnnw wedi’n cryfhau gan gyd-ymdrech a chefnogaeth, ac ry’n ni’n gweld yr effaith.

Mae angen i hon ddod yn ffordd arferol o weithio inni.  

Bydd hynny'n ein herio i gryfhau arweinyddiaeth ym mhob rhan o'n system ac ar bob lefel. 

Rhaid i arweinyddiaeth fod yn fwy na chyrraedd ein targedau – er bod hynny'n hanfodol hefyd. Rhaid iddi fynegi uchelgais sy’n nodi sut gall ein gwasanaethau fod ar eu gorau, sut mae cynghreirio ar gyfer newid a sut mae grymuso staff i siapio’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.

Pan gwrddon ni fis Tachwedd, fe wnes i addo y bydden ni’n edrych ar rôl Gweithrediaeth y GIG. 

Mae'n chwarae rhan werthfawr o ran sbarduno gwerth a chynaliadwyedd ac o ran darparu gwybodaeth fanwl am berfformiad a gweithgarwch ar draws y gwasanaeth. 

Ond, ar sail y profiad o’i gweld ar waith am ddwy flynedd, mae'n amlwg bod yna ffyrdd o ddiwygio’r Weithrediaeth er mwyn i’w gwaith gyd-fynd yn well â'n blaenoriaethau a'n disgwyliadau wrth inni weithio ar berfformiad.

Felly, byddwn yn ailgyfeirio rôl y Weithrediaeth dros y misoedd nesaf. 

Byddwn yn cryfhau arweinyddiaeth weithredol y Weithrediaeth i symleiddio'r sefydliad, ac i sicrhau bod ganddo’r capasiti yn y meysydd cywir a'r cymysgedd o sgiliau sydd eu hangen arno i wneud yr amrediad llawn o bethau ry’n ni’n disgwyl iddo eu gwneud.

A byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'i chyllideb a'i chyllid i wneud yn siŵr bod yr adnoddau’n cyd-fynd â'n blaenoriaethau mwy penodol. 

Byddwn hefyd yn cryfhau llais arweinyddiaeth glinigol yn y system. 

Mae hynny’n hanfodol ar gyfer hyder, hygrededd a thrawsnewid. Does dim gwasanaeth iechyd llwyddiannus yn y byd lle nad oes gan glinigwyr rôl arweinyddol ganolog. 

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn edrych ar sut y gall y Weithrediaeth wneud mwy o gyfraniad at hynny. 

Mae gwaith y grŵp cynghori gweinidogol hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â hyn. Rwy’ eisiau sicrhau arweinyddiaeth glinigol sy'n gallu alinio ac ailffocysu gwaith y rhwydweithiau clinigol a'r rhaglenni trawsnewid a rhoi llais blaenllaw i arweinyddiaeth glinigol, gan dynnu sylw at ragoriaeth ac arloesedd clinigol. 

A byddwn yn gosod datganiad cenhadaeth newydd ar gyfer y Weithrediaeth fel bod ei rôl yn hollol glir. 

Yn syml, bydd yn gwneud dau beth ac yn eu gwneud yn dda: darparu cymorth i'r GIG i ddarparu gwell gwasanaeth i'r cyhoedd a chymorth i Lywodraeth Cymru i ddwyn y GIG i gyfri. 

Bydd yn canolbwyntio llawer mwy ar weithio ochr yn ochr â chyrff y GIG, gan eu cefnogi'n fwy uniongyrchol gyda gwelliant a pherfformiad. A fydd hi ddim yn cymhlethu atebolrwydd a sianeli cyfathrebu. 

Nid peth cenedlaethol yn unig yw arweinyddiaeth. Mae'n ranbarthol ac yn lleol hefyd. 

Mae cyflawni rhanbarthol yn gofyn am arweinyddiaeth ranbarthol sy'n gallu meddwl, dylanwadu ac arwain y tu allan i ffiniau bwrdd iechyd unigol. 

Byddwn felly yn ad-drefnu gwaith y Weithrediaeth i greu swyddogaeth cymorth cyflawni ranbarthol bwrpasol i weithio gyda’r byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd. 

Ac rwy’ bellach wedi rhoi cyfarwyddyd i sefydlu bwrdd cyflawni rhanbarthol sy'n cwmpasu tri bwrdd iechyd y De-ddwyrain. Y prosiect cyntaf mae'n gyfrifol am ei gyflawni yw’r ganolfan ragoriaeth newydd ar gyfer diagnosteg a llawfeddygaeth ddewisol yn Llantrisant. 

Mae cynnydd y prosiect hwnnw wedi bod yn rhy araf, a does dim rhagor o amser i'w golli – mae'r ffyrdd newydd, mwy effeithlon o weithio, y cyfleusterau blaengar a'r capasiti ychwanegol y bydd yn eu darparu yn hanfodol i'r ffordd ry’n ni’n trawsnewid y Gwasanaeth Iechyd.

Rwy’ am i'r bwrdd sicrhau bod y gwaith o adeiladu'r ganolfan newydd yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn.

Ac rwy'n disgwyl gweld cynnydd cyflym tebyg yn y rhanbarthau eraill. 

Arweinyddiaeth glir, dull cydweithredol, llais clinigol cryfach ac ysgogiad newydd ar gyfer gweithio rhanbarthol. Dyma'r dull ffres sydd ei angen arnom.

Y drydedd elfen i'n helpu i drawsnewid yw system fwy tryloyw – sy’n agored yn y ffordd y mae'n gweithio ac yn agored i ddysgu oddi wrth ei hunan ac eraill.

Felly, byddwn yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud i sicrhau bod data ar lefel bwrdd iechyd yn fwy hygyrch – bydda i’n gofyn i Weithrediaeth y GIG gyhoeddi mwy o wybodaeth am dargedau perfformiad allweddol, gan gynnwys: 

  • Pa mor effeithiol yw ysbytai o ran rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn gyflym
  • Pa mor gyflym maen nhw'n gweithredu mesurau effeithlonrwydd gwasanaeth yn y fframwaith cynllunio
  • Sut maen nhw'n delio â phwysau'r gaeaf
  • A mesurau eraill sy'n bwysig i'r cyhoedd. 

Ry’n ni’n casglu symiau enfawr o ddata pwerus iawn ond mae’r rhain yn aml yn cael eu tanddefnyddio. Felly bydda i’n cyhoeddi datganiad tryloywder yn yr hydref, fydd yn nodi pa ddata y byddwn yn ei gyhoeddi, a phryd. 

Mae gan y cyhoedd hawl i wybodaeth a all eu helpu i ddwyn y Gwasanaeth Iechyd a Llywodraeth Cymru i gyfri.

Mae angen dulliau ychwanegol arnom er mwyn bod yn gyflymach ac yn fwy uchelgeisiol o ran newid, ac er mwyn ysgogi newid o'r rheng flaen yn hytrach nag o'r brig i lawr.

Mae data cymaradwy yn offeryn sydd wedi gweithio'n dda ers amser maith mewn agweddau eraill ar ein bywydau, ond does dim digon o ddefnydd ohono yn system gofal iechyd Cymru.

Mae ein clinigwyr a'n rheolwyr eisiau darparu'r gofal gorau y gallan nhw.  Os ydyn nhw'n gweld data sy'n dangos bod eu gwasanaeth ar ei hôl hi – neu eu bod ar flaen y gad – gall fod yn gymhelliant pwerus i wneud i newid ddigwydd, neu i wella hyd yn oed yn fwy.  

Mae angen inni wneud hyn yn arfer cyffredin a grymuso staff y GIG i gymryd rheolaeth o ansawdd a chanlyniadau drostynt eu hunain, trwy ddangos iddyn nhw sut mae eu gwasanaethau yn perfformio. Does dim terfyn, bron, ar ba mor bell mae angen i hyn fynd. 

Lle bynnag mae gennym wybodaeth ddefnyddiol am ansawdd, canlyniadau a pherfformiad, mae angen inni i gyd ei gweld a'i defnyddio.

Ac rwy’ am i Llais allu tynnu ar ddata yn rhwyddach i gryfhau ei rôl. 

Ac o'r hydref ymlaen, bydda i hefyd yn cyflwyno fforwm atebolrwydd cyhoeddus blynyddol lle bydda i’n cwrdd â chyrff y GIG yn gyhoeddus, fel rhan o’r gwaith o ddwyn y GIG i gyfri am gyflawni ein blaenoriaethau. Bydd hyn yn ein helpu i gynyddu hyder yn y system atebolrwydd trwy agor drysau’r GIG. 

Mae tryloywder yn hanfodol i greu diwylliant agored sy’n gwella’i hun. Ond nid dyna ddiwedd y stori. Mae bod yn agored hefyd yn ymwneud â ffyrdd o weithio ac agwedd meddwl. Parodrwydd i gael eich herio o'r tu mewn a'r tu allan. 

Mae hynny'n arbennig o bwysig o ran rhoi hyder i'r cyhoedd mewn safonau gofal iechyd a pherfformiad sefydliadau iechyd. 

Ry’n ni wedi cymryd camau breision i wneud y trefniadau uwchgyfeirio ac isgyfeirio yn fwy tryloyw a rhagweladwy. Mae hyn yn bwysig i'r cyhoedd ond mae'n hanfodol i sefydliadau iechyd. 

Yn y gyfundrefn uwchgyfeirio, mae dealltwriaeth glir o’r diffygion – a'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw – yn dangos system sy'n canolbwyntio ar wella.

Y cam olaf rwy'n ei gyhoeddi heddiw yw adolygiad brys o'r trefniadau presennol, gyda'r bwriad o sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu gweld pa mor dda mae eu bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth GIG yn gweithio; bod asesiadau o berfformiad byrddau yn dryloyw ac yn ddealladwy i bawb; bod cyrff iechyd yn cael sgyrsiau aeddfed priodol gyda'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu ac yn gorfod esbonio’u hunain. 

Mae angen cyrff annibynnol cryf arnom i wneud yn siŵr nad ydyn ni’n hunanfodlon nac yn colli ffocws. 

Mae gennym ddyletswydd gonestrwydd statudol yng Nghymru am reswm. Gadewch inni roi hynny ar waith.

Mewn democratiaeth, ac ar gyfer gwasanaeth mor bwysig â'r GIG, does dim angen cyfiawnhau hyn. Ond mae llawer mwy iddi na hynny. 

Yn y pen draw, y ffordd gyflymaf o wella’r GIG yw wrth i bob tîm ddod yn hyrwyddwr newid ei hun. Mae pob tîm rwy’ wedi cwrdd â nhw yn y GIG yn ystod y misoedd diwethaf eisiau gwneud yn well i'w cleifion.  I wneud hynny, mae angen iddyn nhw wybod beth sy'n ddisgwyliedig ganddynt, a chael data cymaradwy defnyddiol sy'n dangos iddyn nhw sut maen nhw'n gwneud a beth yw ystyr ‘da’. Mae angen inni ddathlu'r rhai sy'n herio eu hunain i wella.

Mynediad at driniaeth dros y 12 mis nesaf

Fe ddwedais i ar y dechrau bod perfformiad yn flaenoriaeth.

Heb unrhyw amheuaeth, y maes pwysicaf i’w wella ar fyrder yw gofal wedi'i gynllunio. 

Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn gwbl glir bod gwella mynediad at ofal yn un o flaenoriaethau absoliwt Llywodraeth Cymru. 

Yn naturiol, mae’r cyhoedd am i ni – a chithau – roi sylw diwyro i hynny. Ac mae ganddyn nhw berffaith hawl i ddisgwyl iddo gael ei gyflawni.  

Ym mis Tachwedd, fe roddon ni £50 miliwn yn ychwanegol i'r GIG i ariannu cynlluniau’r byrddau iechyd i ddarparu mwy o apwyntiadau cleifion allanol, mwy o brofion diagnostig, mwy o asesiadau niwroddatblygiadol a mwy o lawdriniaethau i leihau'r arosiadau hiraf.

Ry’n ni’n gweld effaith bositif y buddsoddiad hwnnw wedi’i dargedu, a’r ymdrech benodol honno, wrth i amseroedd aros hir ddod i lawr.

Mae rhai byrddau iechyd wedi bod yn fwy llwyddiannus nag eraill – mae gormod yn aros mwy na dwy flynedd yn y Gogledd ac yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft.

Ry’n ni gwneud cynnydd positif ond mae ffordd bell i fynd ac mae'n rhaid inni weld gwelliant parhaus o fis i fis. 

Yn y flwyddyn i ddod byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag arosiadau hir – ac yn canolbwyntio ar leihau maint cyffredinol y rhestr aros. 

Byddwn yn ailosod ac yn lleihau maint cyffredinol y rhestr erbyn mis Mawrth 2026, gan ddod â hi yn ôl tuag at y lefelau cyn y pandemig.

Mae o fewn ein gafael i sicrhau bod y rhestr yn lleihau gymaint â 200,000 o lwybrau dros y flwyddyn nesaf.

Byddwn yn gwneud hyn trwy daclo apwyntiadau cleifion allanol yn yr arbenigeddau mwyaf heriol.

Erbyn mis Mawrth 2026, byddwn yn cyrraedd ac yn cynnal y targed wyth wythnos ar gyfer profion diagnostig.

A thrwy gydol y flwyddyn hon, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros hir. Dw i ddim eisiau i unrhyw un aros mwy na dwy flynedd am driniaeth eto yng Nghymru.

Bydd cyllid ychwanegol i wneud hyn. 

Ond rwy’ am fod yn glir. 

Dw i ddim yn barod i ariannu ffyrdd o ddarparu gwasanaethau nad ydyn nhw’n sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion a’r gwerth gorau am arian. 

Byddwn yn gosod tair egwyddor ar gyfer y cyllid i wella gofal wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Rwy'n disgwyl i‘r byrddau iechyd weithredu'r camau galluogi rwy’ wedi'u nodi yn y fframwaith cynllunio. Bydd y rhain yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol a bydd angen i fyrddau iechyd ddangos eu bod yn gweithredu'r camau, neu fyddan nhw ddim yn gallu cael mynediad at gyllid.

Yn ail, bydd byrddau iechyd yn gallu cael mynediad at gyllid dim ond os ydyn nhw’n gallu dangos eu bod yn cynnal eu gallu craidd yn yr arbenigedd perthnasol.

Bydd unrhyw gyllid ychwanegol a roddwyd ar gyfer gweithgareddau craidd yn cael ei gymryd yn ôl.

Yn drydydd, byddwn yn cyflwyno dull cenedlaethol a rhanbarthol cryfach o gomisiynu capasiti darparwyr annibynnol.

O ystyried ble ry’n ni heddiw, mae defnyddio'r sector annibynnol yn rhan angenrheidiol o'r trawsnewidiad 12 mis hwn yn ôl i GIG mwy cynaliadwy ac effeithlon, os ydyn ni am lwyddo i leihau arosiadau a maint y rhestr. 

Bydd comisiynu rhywfaint o gapasiti ar lefel genedlaethol yn ein galluogi i fod yn fwy strategol ynglŷn â ble mae'n cael ei ddefnyddio, ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i ategu ac nid i gystadlu â'r GIG cyhoeddus.

Mae hyn i gyd yn rhan o'n hymrwymiad i'r cyhoedd y byddwn yn sicrhau GIG cryfach. 

Ond fe fyddwn ni’n mynd hyd yn oed ymhellach yn ein hymrwymiad i'r cyhoedd.

Byddwn yn cyflwyno hawl i gleifion gael gwybod wrth ymuno â rhestr aros am ba mor hir y byddan nhw’n gorfod aros. 

Bydd hyn yn wybodaeth benodol iddyn nhw. 

A phan fydd ap y GIG yn cael ei lansio, bydd cleifion yn gallu gweld faint o amser sydd ar ôl tan eu triniaeth. 

Yn unol â'n polisi ‘3A’, bydd y byrddau iechyd yn helpu pobl i fod mor iach a ffit a phosib i gael llawdriniaeth. 

Ac yn y dyfodol, fydd cleifion ddim yn cael eu rhoi ar restr i gael llawdriniaeth oni bai eu bod yn ddigon ffit i gael eu triniaeth ac i elwa arni. Mae hyn yn llawer gwell i'r claf – ry’n ni’n gwybod bod pobl y mae eu hiechyd gystal â phosib yn debygol o wella’n gyflymach ar ôl llawdriniaeth, yn cael llai o gymhlethdodau, ac yn gallu gadael yr ysbyty yn gynt.

Ac mae hyn yn well i gleifion eraill ar y rhestr gan y bydd yn lleihau nifer y triniaethau ac apwyntiadau sy'n cael eu canslo neu eu colli, gan helpu i gyflymu mynediad yn gyffredinol.

Dyna ein hymrwymiad i'r cyhoedd.

Yn gyfnewid am hynny, ry’n ni’n gofyn i’r cyhoedd wneud popeth o fewn eu gallu i flaenoriaethu eu hapwyntiadau a mynd iddyn nhw, fel y gallwn ni, gyda’n gilydd, wneud y defnydd gorau posib o adnoddau prin y Gwasanaeth Iechyd.

Ac mae hyn yn wirioneddol hanfodol, oherwydd ar hyn o bryd ry’n ni’n yn colli nifer enfawr o apwyntiadau yn y GIG – cannoedd o filoedd bob blwyddyn. 

Mae 14% o'r holl apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu colli am nad yw pobl yn dod iddyn nhw, neu am nad ydyn nhw’n gallu dod.

Dyw hynny ddim yn iawn, dyw e ddim yn gynaliadwy, a dyw e ddim helpu i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael mynediad cyflymach at y gofal maen nhw ei angen.

Felly, yn y dyfodol, byddwn yn rhoi dau gynnig o ddyddiadau i gleifion ar gyfer apwyntiad y GIG. Os nad yw'r apwyntiadau hynny'n cael eu cadw heb reswm da, bydd yr unigolion yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr er mwyn i rywun arall gael eu lle.

Bydd amgylchiadau pob person yn cael eu hystyried – bydd cleifion sy'n agored i niwed a phlant yn cael eu diogelu, ond ry’n ni am i gleifion gadw eu hapwyntiadau neu eu canslo mewn da bryd fel y gall rhywun arall gymryd eu lle. 

Dw i ddim eisiau i gleifion orfod aros yn hirach am nad yw rhywun arall yn dod i’w apwyntiad. Mae gennym ddyletswydd i’n gilydd i wneud yn siŵr bod apwyntiadau ar gael i'r rhai sydd eu hangen ac i’r rhai wnaiff eu cymryd.

Wrth gloi, gydweithwyr, ga’ i ein hannog i gyd i godi ein golygon. Gadewch inni fanteisio ar y cyfle i wneud y newidiadau ry’n ni i gyd yn gwybod bod angen eu gwneud. 

Rwy’ wedi ceisio nodi heddiw nid yn unig beth sydd angen ei newid, ond sut i’w newid. Mae'n gofyn inni herio ac ysbrydoli ein hunain a'r bobl o’n cwmpas. Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth arwain a chyflawni'r newid hwnnw, a rhoi i bobl Cymru y gwasanaeth iechyd maen nhw’n ei haeddu.