Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau twristiaeth sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr dros nos o rannau eraill o Brydain Fawr i Gymru a'u gwariant yn ystod 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Deillia'r ffigurau o'r prif arolygon twristiaeth swyddogol ar gyfer Cymru yn ystod y cyfnod o fis Ionawr hyd fis Rhagfyr 2018. Mewn cyferbyniad i'r cynnydd sylweddol mewn ymwelwyr domestig a'r gwariant cysylltiedig oedd y nifer is o ymwelwyr rhyngwladol - er i'r gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol gynyddu.

Yn ystod y deuddeg mis rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2018 cafwyd 10.21 miliwn o deithiau dros nos i Gymru gan drigolion Prydain Fawr, sy'n gynnydd o 11 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Gwelwyd gwariant o £1,853 miliwn yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn, sy'n gynnydd o 13.8 y cant o'i gymharu â'r llynedd.

Gwelwyd lleihad bychan yn nifer y teithiau dydd yng Nghymru a'r gwariant a ddeilliodd ohonynt yn ystod 2018 o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, a chafwyd 95.7 miliwn o deithiau a gwariant o £4 biliwn.

Yn ystod 2018 cafwyd 941,000 o deithiau yng Nghymru gan ymwelwyr rhyngwladol a gwariant o £405 miliwn. Gwelwyd lleihad yn nifer yr ymweliadau gan ymwelwyr rhyngwladol â Chymru (12.8 y cant) ond gwelwyd cynnydd o 9.7 y cant yng ngwariant ymwelwyr tramor â Chymru i £405 miliwn.

Caiff y ffigurau hyn eu cyhoeddi wrth i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis Thomas, agor yn swyddogol ddatblygiadau newydd fel rhan o brosiect newydd gwerth £2.2 miliwn yn Aberystwyth. Mae'r prosiect yn Rheilffordd Cwm Rheidiol wedi'i gyllido drwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru a ariennir gan yr UE. Cam cyntaf y prosiect yw agor Gorsaf Dreftadaeth Great Western sydd yn y dull Edwardaidd. Fel rhan o gam nesaf y prosiect bydd hen safle Aberystwyth yn cael ei ailddatblygu er mwyn creu swyddfa docynnau newydd a sied storio cerbydau. Bydd hyn yn diogelu'r casgliad amhrisiadwy o gerbydau rheilffordd hanesyddol ac yn eu gwarchod at y dyfodol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Heb unrhyw amheuaeth y farchnad ddomestig yw marchnad bwysicaf Cymru - gan gyfrif am tua 90% o'r ymwelwyr â Chymru. Gwych felly yw clywed bod y gwariant  a chyfran Cymru o’r farchnad hon wedi cynyddu'n sylweddol yn 2018. Mae Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru ar gyfer y Pasg hefyd yn dangos y gallai'r tuedd yma barhau yn 2019 - wrth i fwy a mwy o bobl ddewis treulio eu gwyliau gartref.

“Er bod y cynnydd hwn yn y farchnad ddomestig i'w groesawu, ni ellir anwybyddu pwysigrwydd y farchnad ryngwladol ac mae pwysau Brexit yn amlwg yn cael effaith, nid yn unig yng Nghymru ond ar deithiau rhyngwladol i'r DU gyda'r rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr profi gostyngiad mewn ymwelwyr rhyngwladol yn 2018. Mae angen, fodd bynnag, groesawu'r cynnydd yng ngwariant ein hymwelwyr tramor o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

Wrth edrych tua’r dyfodol, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Bydd ein gwaith mewn partneriaeth â'r diwydiant er mwyn sicrhau bod Cymru'n gyrchfan gystadleuol ac allweddol yn parhau - ac mae'r buddsoddiad drwy brosiectau fel y Cyrchfannau Denu Twristiaeth yn un enghraifft o hyn. Y nod yw sicrhau bod y cyrchfannau hyn yn rhoi rheswm cryf i bobl ymweld â Chymru neu aros yn y wlad ar eu gwyliau. Drwy ddenu ymwelwyr i'r safleoedd allweddol hyn bydd yr ardaloedd ehangach hefyd yn elwa ar fuddsoddiad pellach mewn busnesau a bydd yn sicrhau canlyniadau allweddol o ran swyddi ac adfywio.

Dywedodd Robert Gambrill Prif Weithredwr rheilffordd Dyffryn Rheidol:

"Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf i'r pwynt lle bu angen i ni wella ein cyfleusterau.  Rydym yn falch iawn o fod wedi cwblhau cam cyntaf rhaglen TAD. Mae pawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd dros y gaeaf hwn, clod mawr i bawb sy'n gysylltiedig. Edrychwn ymlaen at weld pawb ar gyfer yr agoriad a rhannu ein gorsaf newydd hyfryd gyda nhw.