Bydd gwaith hanfodol ar danbont Kneeshaw Lupton ar gerbytffordd ddwyreiniol yr A55 yn dechrau. Mae hyn bron blwyddyn ar ôl y tro diweddaf i lonydd gael eu cau yn ystod y dydd, i wneud gwaith wedi’i gynllunio, rhwng Cyffordd 11 a'r ffin â Lloegr, mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, wedi dweud.
Yn dilyn gwaith llwyddiannus i atgyweirio cerbytffordd orllewinol Kneeshaw Lupton y llynedd, a gafodd ei orffen yn gynnar, mae bellach angen gwelliannau i'r ochr ddwyreiniol rhwng Cyffordd 23 yn Llanddulas a Chyffordd 22 yn Hen Golwyn.
Bydd gwaith i osod gwrthlif yn dechrau ar ddydd Sul 8 Medi yn hwyr gyda'r nos, ar ôl i lif y traffig leihau. Bydd gwrthlif yn golygu lôn draffig sengl yn mynd ym mhob cyfeiriad ar y gerbytffordd orllewinol, 24 awr y dydd am hyd at bum wythnos, wrth i waith gael ei wneud ar yr ochr ddwyreiniol.
Gwaith hanfodol ar danbont Kneeshaw Lupton yw'r unig waith wedi'i gynllunio sydd wedi arwain at gau lonydd ar yr A55 rhwng Cyffordd 11 ym Mangor a'r ffin â Lloegr ers mis Ebrill 2017.
Yn debyg i'r gwaith y llynedd, mae angen amodau tywydd ffafriol i adnewyddu'r deunydd gwrth-ddŵr ar y bont. Dyma pam y bydd gwelliannau'n cael eu gwneud yn ystod y cyfnod hwn. Mae hefyd yn dod ar ôl diwedd gwyliau haf yr ysgolion, a bydd wedi'i gwblhau erbyn 6AM ar ddydd Gwener 11 Hydref cyn dechrau hanner tymor yr ysgolion.
Bydd gwaith yn mynd rhagddo 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau cyn gynted ag y bo modd.
Oherwydd natur y gwelliannau, bydd bwrdd dau fedr o uchder yn cael ei osod a bydd y gwaith yn cael ei wneud y tu ôl i hwn. Mae'r gwaith yn cynnwys gwaith hanfodol i uniadau'r bont a fydd yn cynnwys blastio â dŵr pwysedd uchel a pharatoi'r arwyneb – mae'n rhaid gwneud y gwaith hwn y tu ôl i orchudd ac i ffwrdd o olwg y cyhoedd sicrhau eu diogelwch.
Bydd arwyddion yn cael eu codi i hysbysu gyrwyr am y gwaith, a bydd cyfyngiad cyflymder o 40 mya ar waith wrth i'r gwaith gael ei wneud.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates:
"Ar ôl cwblhau'r gwaith ar danbont Kneeshaw Lupton ar y gerbytffordd orllewinol yn llwyddiannus ym mis Hydref 2018 – yr oedd ei chyflwr yn llawer gwaeth nag o’n ni’n diswgyl pan ddechreuodd y gwaith – mae gwelliannau i'r gerbytffordd ddwyreiniol bellach yn hanfodol.
"Yn gynharach eleni, gwnes i addo na fyddai lonydd yn cael eu cau yn ystod y dydd ar gyfer gwaith wedi'i gynllunio rhwng Cyffordd 11 a'r ffin â Lloegr tan o leiaf mis Medi, a dw i wrth fy modd ein bod wedi cadw'r addewid hwnnw. Pan fydd y gwaith hwn yn dechrau bydd bron blwyddyn wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i lonydd gael eu cau yn ystod y dydd.
"Nid yw cerbytffyrdd yn cael eu cau yn llwyr oni bai bod hynny'n angenrheidiol, a'r brif flaenoriaeth ar bob adeg yw diogelwch y cyhoedd. Ar gyfer y gwaith hwn, yn yr un modd â'r gwaith y llynedd, heb os bydd rhaid inni gymryd y cam hwnnw – i ddiogelu pob defnyddiwr ffordd a'r gweithlu.
"Cafodd y gwaith i atgyweirio'r gerbytffordd orllewinol ei gwblhau’n gynnar, ac er nad ydyn ni'n gallu addo hynny y tro ‘ma, hoffwn i roi sicrwydd i bawb y bydd y gweithlu ymroddedig yn ceisio gwneud yr un peth eleni – ac yn gweithio bob awr dydd a nos nes bod y gwaith wedi ei gwblhau.
"Dw i'n deall yn llwyr nad oes neb yn mwynhau gwaith ffyrdd – sy'n gallu cael effaith ddifrifol ar lif y traffig. Ond mae rhaid gwneud y gwaith hwn i sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio'r ffordd – ac ar y mater hwn dw i ddim yn fodlon gwneud cyfaddawd.
"Dyma gam olaf y gwelliannau i danbont Kneeshaw Lupton a fydd yn effeithio ar ddefnyddwyr ffyrdd, a hoffwn i ofyn unwaith eto am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i'r gwaith hanfodol hwn fynd rhagddo – a dweud diolch yn fawr iawn am yr amynedd a'r ddealltwriaeth honno.
"Byddwn ni'n parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau bod unrhyw broblemau ar ein cefnffyrdd yn cael yr effaith leiaf posibl ar draffig ag y bo modd."
Bydd diweddariadau am y gwaith hanfodol hwn ar gael ar wefan Traffig Cymru ac ein tudalen Twitter (@TrafficWalesN).