Neidio i'r prif gynnwy

Bydd proffil Cymru fel lleoliad rhyngwladol allweddol ar gyfer datblygu a lleoli dyfeisiau a thechnolegau ynni môr yn cael ei hyrwyddo mewn cynhadledd rloesol ym Mrwsel yr wythnos nesaf/hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn arddangos ac yn arwain taith fasnach i Ocean Energy Europe 2016 (8-9 Tachwedd) gyda naw busnes a sefydliad arloesol a blaengar iawn ym maes ynni’r môr i amlygu'r datblygiadau sydd ar waith yng Nghymru a'r hyn y gall Cymru ei gynnig i'r sector diwydiannol newydd hwn.

Y busnesau hynny yw: 

  • Mainstay Marine Energy Solutions (Doc Penfro)
  • Ynni Môr Cymru (Doc Penfro)
  • Marine Power Systems (Swansea)
  • MarineSpace (Doc Penfro)
  • Morlais Energy (Ynys Môn)
  • Mona Lifting (Ynys Môn)
  • Nova Innovation (Doc Penfro)
  • Port of Milford Haven a 
  • Tidal Lagoon Power (Abertawe).

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae arfordir Cymru gyda'i donnau a llanw mawr a'i phorthladdoedd dwfn, yn cynnig potensial mawr i greu ynni môr ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i wneud y mwyaf ohono a'i ecsbloetio'n gynaliadwy.

"Mae gennym ddau barth arddangos tonnau a cherrynt llanw newydd yng Nghymru lle mae nifer o raglenni mawr yn yr arfaeth. Byddant yn magu diddordeb rhyngwladol ac yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchwyr, buddsoddwyr a'r sector technoleg. 

"Mae sector ynni môr Cymru yn cael ei gynnal gan arbenigedd academaidd, a gefnogir gan ganolfan gynhyrchu arloesol a Llywodraeth sy'n benderfynol o arwain y byd o ran ynni cynaliadwy.

"Mae'n ymdrech ar y cyd rhwng y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru sy'n ddeniadol iawn i ddatblygwyr a chwmnïau megis Minesto. Mae gan y cwmni hwn o Sweden drwydded Ystad y Goron i ddatblygu technoleg llanw 'Deep Green' oddi ar arfordir Ynys Môn. Mae'n cael ei ariannu gan £9.5 miliwn o gyllid yr UE.

"Mae digwyddiadau fel Ocean Energy Europe yn rhoi llwyfan gwych i ni ddangos yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru a'r cyfleoedd sydd ar gael." 

Roedd Mr Skates hefyd yn croesawu lansiad Ynni Môr Cymru (MEW) yn Ocean Energy Europe. Menter gydweithredol, flaengar, newydd o dan arweiniad diwydiant yw Ynni Môr Cymru. Bydd yn caniatáu i Gymru chwarae rôl arloesol yn y diwydiant byd-eang hwn. Drwy adeiladu ar lwyddiant Marine Energy Pembrokeshire, nod MEW yw creu cyfleoedd newydd i fusnesau, swyddi a thwf drwy Gymru gyfan.