Neidio i'r prif gynnwy

Prif Swyddog Meddygol Cymru, â cherddwyr a rhedwyr eraill ar gyfer parkrun 5k ar y thema pen-blwydd yn Ynys y Barri i ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn 70 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae parkrun UK yn gweithio gyda’r GIG i’w helpu i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon yn ei hanes drwy gynnal digwyddiadau arbennig ar draws y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhan o’u hymgyrch i annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff er mwyn gwneud y byd yn lle iachach a hapusach.

Mae cannoedd o ddigwyddiadau parkrun yn cael eu cynnal mewn parciau a mannau agored ar draws Cymru a gweddill y DU bob dydd Sadwrn. Mae’r digwyddiadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned wedi’u cynllunio ar gyfer pobl o bob oed a gallu – gan gynnwys cerddwyr – ac nid oes rhaid talu i gymryd rhan.  

Mae ymarfer corff rheolaidd yn un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw un ei wneud ar gyfer ei iechyd. Mae’n gallu helpu i reoli pwysau, mae’n lleihau’r perygl o ddioddef o glefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser. Felly, mae gwneud mwy o ymarfer corff yn ymrwymiad pwysig yn y strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.  

I gadw’n iach, mae canllawiau’r Prif Swyddog Meddygol yn dweud y dylai oedolion geisio gwneud ymarfer corff bob dydd a’r nod yw gwneud hynny am 150 o funudau yn ystod yr wythnos, a thrwy ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Ond, ar hyn o bryd, dim ond 54% o oedolion yng Nghymru sy’n gwneud digon o ymarfer corff.

Cyn cymryd ei le ar y llinell ddechrau, dywedodd Dr Atherton: “Mae cymryd rhan yn eich parkrun lleol yn ffordd wych o ddod yn ffit, a hynny yn rhad ac am ddim.

“Mae angen inni fel cenedl fod yn iachach a gwneud mwy o ymarfer corff. Bydd gwneud hyn yn ein helpu i leihau achosion o amrywiol gyflyrau iechyd fel gordewdra a chlefyd y galon, ac i wella ein hiechyd meddwl. Y rhain yw’r materion sy’n rhoi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, ond gallwn ni gymryd camau ein hunain i geisio gwella.”

Dywedodd y Farwnes Kelly Holmes, sydd wedi ennill dwy fedal aur yn y Gemau Olympaidd, ac sy’n cefnogi’r digwyddiadau parkrun i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed eleni: “Nid oes amheuaeth bod lefelau uwch o weithgarwch corfforol yn gwella hwyliau unigolion sy’n cymryd rhan, mae’n rhoi mwy o hunan-barch iddyn nhw yn ogystal ag amrywiaeth eang o fanteision iechyd. Rwy’n gwybod o’m profiad i fy hunan fod parkrun yn ddigwyddiad cymdeithasol a chroesawgar. Mae’n wych gweld, felly, ei fod wedi ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i annog hyd yn oed mwy o bobl i wneud ymarfer corff yn ystod y flwyddyn arbennig hon.”