Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ailadrodd ei rybuddion ynglŷn ag ‘argyfwng diamheuol’ Brexit heb gytundeb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mewn cyfarfod gyda Theresa May yn Stryd Downing ym mis Rhagfyr, fe wnaeth Mark Drakeford ddatgan ei wrthwynebiad clir i’r posibilrwydd o ddiffyg cytundeb ar Brexit, gan ddweud y byddai’n cael effaith ysgytwol ar Gymru.

Gyda dim ond 10 wythnos i fynd hyd nes y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, cadarnhaodd heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi dwysáu ei gwaith o baratoi cynlluniau wrth gefn rhag ofn na fydd cytundeb, wrth iddi ddod yn gynyddol amlwg fod Llywodraeth y DU wedi methu â negodi bargen dderbyniol.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Mae’n warthus bod y flwyddyn newydd hon yn dechrau gydag argyfwng diamheuol o ran Brexit.

“Llywodraeth y DU sydd wedi achosi’r sefyllfa hon, drwy roi mwy o flaenoriaeth i ymdrech ofer i gadw’r Blaid Geidwadol gyda’i gilydd nag i fuddiannau’r wlad. Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw ymdrech i greu consensws trawsbleidiol ar gyfer ei stategaeth ac nid yw wedi ceisio cael cytundeb y gweinyddiaethau datganoledig i ddull gweithredu ar gyfer y negodiadau. O’r herwydd, dim ond 81 diwrnod sydd i fynd nes byddwn yn cael ei rhwygo allan o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

“Byddai canlyniad o’r fath yn hynod niweidiol. Nonsens yw’r holl sôn am ‘reoli’ ymadawiad heb gytundeb. Byddai ymadael heb gytundeb yn creu niwed eithriadol, a rhaid ei osgoi.

“Mae ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, yn darparu sylfaen ar gyfer dull call a rhesymol o ymdrin ag ymadawiad â’r UE; ni allem gytuno â chanlyniad sy’n arwain at dariffau neu rwystrau eraill a fydd yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau yng Nghymru allforio, yn cynyddu chwyddiant drwy godi costau mewnforion, ac - yn fwyaf difrifol - yn amharu ar y cadwyni cyflenwi Ewropeaidd integredig y mae cynifer o’n cyflogwyr mawr yn dibynnu arnynt i ffynnu ac, mewn ambell achos, i oroesi.

“Byddai diffyg cytundeb ar Brexit yn amharu’n ddifrifol ar y Gwasanaeth Iechyd ac ar wasanaethau cyhoeddus eraill. Yn yr un modd, byddai ein sectorau economaidd allweddol – amaeth, cynhyrchu bwyd a’r diwydiant lletygarwch – ynghyd â’n prifysgolion a’n sectorau â gweithwyr tra medrus – yn cael eu peryglu gan bolisi mudo gwrthgynhyrchiol.

“Mae llawer o fusnesau wedi bod wrthi’n paratoi cynlluniau wrth gefn ers cryn amser. I’r rhai sydd heb wneud hynny, mae’n bryd iddynt fynd ati, a gall busnesau sydd am wybod rhagor droi at ein porthol Brexit fel man cychwyn. Yn yr un modd, bydd pob corff cyhoeddus yng Nghymru – yr awdurdodau lleol, y prifysgolion, y byrddau iechyd ac eraill – yn paratoi at sefyllfa o ddiffyg cytundeb.

“Fodd bynnag, heb unrhyw amheuaeth, byddai’n amhosib i effeithiau ymadael heb gytundeb gael eu lliniaru’n llwyr. Dyw hyn ddim yn opsiwn ymarferol a rhaid ei osgoi.

“Ers y refferendwm rydym wedi gweld arafwch a diffyg tryloywder gan Lywodraeth y DU, yn ogystal ag amharodrwydd i rannu gwybodaeth. Nawr yw’r amser i gydweithredu’n llawn a bod yn hollol dryloyw, ac mae Llywodraeth Cymru yn barod i fod yn bartner yn hynny.”