Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Cymhwystra

Rhaid i'r person yr ydych am ei recriwtio fodloni pob un o'r meini prawf canlynol:

  • bod yn 20 oed neu'n hŷn
  • bod yn anabl
  • byw yng Nghymru ar ddyddiad y diswyddo a dyddiad eich cais am gyllid
  • bod â'r hawl i fyw a gweithio yn y DU

Rhaid iddo hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:

  • bod wedi cael rhybudd diswyddo ffurfiol 
  • bod o fewn 6 mis i golli ei swydd

bod yn gyn-droseddwr neu'n droseddwr sy'n cyflawni ei ddedfryd yn y gymuned.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg. Anogir cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n cyd-fynd â'r egwyddorion hyn.

Rhaid i'r swydd rydych yn ei chynnig:

  • fod am 16 awr yr wythnos neu fwy
  • bod yn cael ei thalu ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n uwch. Rydym yn annog cyflogwyr sy'n recriwtio i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf i bob gweithiwr.
  • para o leiaf 12 mis
  • peidio â bod yn gontract 'dim oriau' neu 'oriau heb eu gwarantu'
  • peidio â chael ei chefnogi gan unrhyw gyllid cyhoeddus arall.

Ni ddylai eich busnes fod wedi cyrraedd trothwy Rheoli Cymhorthdal y DU sy'n cyfyngu ar faint o gyllid y gallwn ei ddarparu.

Bydd y gweithiwr yn cael ei wahardd o'r rhaglen os: 

  • bydd yn dechrau gweithio ichi cyn i’ch cais am gyllid gael ei gymeradwyo
  • yw wedi bod mewn cyflogaeth barhaus am 6 wythnos neu fwy rhwng dyddiad y diswyddo a dyddiad y cais am grant