Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio neu roi sylwadau ar hysbysiad gorfodi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Gallai eich awdurdod cynllunio lleol anfon hysbysiad gorfodi atoch os ydych wedi adeiladu neu newid rhywbeth heb ganiatâd cynllunio.

Gallwch apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi os ydych yn berchen ar yr eiddo neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu’n ei rentu neu’n ei feddiannu’n gyfreithlon.

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl.

Ni chodir ffi am apelio, oni bai eich bod chi eisiau i ganiatâd cynllunio gael ei roi.

Terfyn amser ar gyfer apelio

Mae’n rhaid i’ch apêl gael ei derbyn cyn y dyddiad y daw’r hysbysiad gorfodi i rym.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi dechrau, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 27 wythnos fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser. 

Sut i apelio

Sut i gwblhau a chyflwyno eich apêl

Mae ffurflenni apêl ar gael yma.  Gall ffurflenni apêl wedi’u llenwi gael eu hanfon trwy e-bost at PEDW.Casework@gov.wales  

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un hysbysiad gorfodi, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un. Dylai pob unigolyn apelio ar wahân.

Bydd hefyd angen i chi anfon copi o’ch apêl, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu

Bydd angen i chi gyflwyno:

  • datganiad llawn o’r achos
  • unrhyw ddogfennau ategol sy’n cefnogi eich apêl yn uniongyrchol neu yr hoffech eu defnyddio fel tystiolaeth, er enghraifft yr hysbysiad gorfodi

Gallwch eu hanfon at  Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru drwy’r post neu’r e-bost.

Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru
2il Lawr Gorllewin
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

ebost PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru
Ffon 0300 0604400.  

Gwneud sylwadau ar apêl

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl hysbysiad gorfodi. Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r apêl.  

Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw bartïon â buddiant fod apêl wedi cael ei chyflwyno. Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru.

Darllenwch y canllaw manwl ar gymryd rhan mewn apêl.

Ar ôl i chi apelio

Bydd  Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth yw’r dyddiad dechrau, beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 27 wythnos o’r dyddiad dechrau fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.
Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod  Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.