Neidio i'r prif gynnwy

Amserlenni ar gyfer apeliadau cynllunio, gorfodi ac apeliadau deiliaid tai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y broses ymdrin ag apeliadau

Caiff mwyafrif yr apeliadau eu penderfynu trwy sylwadau ysgrifenedig yn unig.

Gall yr amser y mae’n ei gymryd i benderfynu ar apêl amrywio. Mae nifer yr apeliadau rydym yn eu derbyn bob mis yn amrywio, a gall effeithio ar yr amser y mae’n ei gymryd i gychwyn achos.

Apeliadau cynllunio (gan gynnwys adeiladau rhestredig)

Bydd yr apeliadau hyn yn ymwneud â phenderfyniad y mae’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) wedi’i wneud ar gais cynllunio. Nid yw’r rhain yn cynnwys apeliadau deiliaid tai nac apeliadau masnachol bach.

Apeliadau cynllunio Dyddiad dechrau hyd at wneud penderfyniad  Amser penderfynu ar gyfartaledd 
Sylwadau ysgrifenedig 14 wythnos  13.07 wythnos 
Gwrandawiadau 21 wythnos  19.27 wythnos 
Ymchwiliadau 29 wythnos   30 wythnos 

Apeliadau deiliaid tai (gan gynnwys caniatâd hysbyseb a datblygiadau masnachol bach eraill)

Apeliadau yw’r rhain sy’n ymwneud â gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad sy’n ymwneud â: 

  • thŷ 
  • gwrthod rhoi caniatâd i arddangos hysbyseb neu arwydd 
  • gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad masnachol bach 
Apeliadau cynllunio     Dyddiad dechrau hyd at wneud penderfyniad Amser penderfynu ar gyfartaledd
Sylwadau ysgrifenedig  8 wythnos  6.26 wythnos 

Apeliadau gorfodi a thystysgrif datblygiad cyfreithlon

Mae’r apeliadau hyn yn erbyn hysbysiad gorfodi (gan gynnwys gorfodi yn ymwneud ag adeilad rhestredig) neu dystysgrif datblygiad cyfreithlon mewn perthynas â’ch eiddo.

Apêl gorfori Dyddiad dechrau hyd at wneud penderfyniad Amser penderfynu ar gyfartaledd 
Sylwadau ysgrifenedig 27 wythnos  21.53 wythnos 
Gwrandawiadau 41 wythnos  32.30 wythnos 
Ymchwiliadau 41 wythnos  30.46 wythnos 

Camau’r apêl

Derbyniad hyd at ddilysu

Byddwch yn cyflwyno apêl i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Ar ôl ei derbyn, byddwn yn gwirio ei bod yn apêl ddilys. Os caiff yr holl ddogfennaeth ei chyflwyno gyda’r apêl wreiddiol, bydd y cam dilysu yn cymryd 3 i 5 diwrnod gwaith.

Dilysu hyd at ddechrau

Wedi i’r apêl gael ei dilysu, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’r amserlen ar gyfer yr apêl. Bydd hon yn cynnwys dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno sylwadau a dogfennau ategol.

Dechrau hyd at y digwyddiad

Byddwn yn enwi arolygydd addas i ystyried cyflwyniadau’r apêl. Bydd yr arolygydd yn cynnwys ymweliad â’r safle, gwrandawiad neu ymchwiliad.

Digwyddiad hyd at y penderfyniad

Bydd yr arolygydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar eich apêl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd. Caiff y penderfyniad ei gyhoeddi ar y porth apeliadau.