Amserlenni ar gyfer apeliadau cynllunio, gorfodi ac apeliadau deiliaid tai.
Cynnwys
Y broses ymdrin ag apeliadau
Caiff mwyafrif yr apeliadau eu penderfynu trwy sylwadau ysgrifenedig yn unig.
Gall yr amser y mae’n ei gymryd i benderfynu ar apêl amrywio. Mae nifer yr apeliadau rydym yn eu derbyn bob mis yn amrywio, a gall effeithio ar yr amser y mae’n ei gymryd i gychwyn achos.
Apeliadau cynllunio (gan gynnwys adeiladau rhestredig)
Bydd yr apeliadau hyn yn ymwneud â phenderfyniad y mae’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) wedi’i wneud ar gais cynllunio. Nid yw’r rhain yn cynnwys apeliadau deiliaid tai nac apeliadau masnachol bach.
Apeliadau cynllunio | Dyddiad dechrau hyd at wneud penderfyniad | Amser penderfynu ar gyfartaledd |
---|---|---|
Sylwadau ysgrifenedig | 14 wythnos | 13.07 wythnos |
Gwrandawiadau | 21 wythnos | 19.27 wythnos |
Ymchwiliadau | 29 wythnos | 30 wythnos |
Apeliadau deiliaid tai (gan gynnwys caniatâd hysbyseb a datblygiadau masnachol bach eraill)
Apeliadau yw’r rhain sy’n ymwneud â gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad sy’n ymwneud â:
- thŷ
- gwrthod rhoi caniatâd i arddangos hysbyseb neu arwydd
- gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad masnachol bach
Apeliadau cynllunio | Dyddiad dechrau hyd at wneud penderfyniad | Amser penderfynu ar gyfartaledd |
---|---|---|
Sylwadau ysgrifenedig | 8 wythnos | 6.26 wythnos |
Apeliadau gorfodi a thystysgrif datblygiad cyfreithlon
Mae’r apeliadau hyn yn erbyn hysbysiad gorfodi (gan gynnwys gorfodi yn ymwneud ag adeilad rhestredig) neu dystysgrif datblygiad cyfreithlon mewn perthynas â’ch eiddo.
Apêl gorfori | Dyddiad dechrau hyd at wneud penderfyniad | Amser penderfynu ar gyfartaledd |
---|---|---|
Sylwadau ysgrifenedig | 27 wythnos | 21.53 wythnos |
Gwrandawiadau | 41 wythnos | 32.30 wythnos |
Ymchwiliadau | 41 wythnos | 30.46 wythnos |
Camau’r apêl
Derbyniad hyd at ddilysu
Byddwch yn cyflwyno apêl i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Ar ôl ei derbyn, byddwn yn gwirio ei bod yn apêl ddilys. Os caiff yr holl ddogfennaeth ei chyflwyno gyda’r apêl wreiddiol, bydd y cam dilysu yn cymryd 3 i 5 diwrnod gwaith.
Dilysu hyd at ddechrau
Wedi i’r apêl gael ei dilysu, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’r amserlen ar gyfer yr apêl. Bydd hon yn cynnwys dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno sylwadau a dogfennau ategol.
Dechrau hyd at y digwyddiad
Byddwn yn enwi arolygydd addas i ystyried cyflwyniadau’r apêl. Bydd yr arolygydd yn cynnwys ymweliad â’r safle, gwrandawiad neu ymchwiliad.
Digwyddiad hyd at y penderfyniad
Bydd yr arolygydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar eich apêl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd. Caiff y penderfyniad ei gyhoeddi ar y porth apeliadau.