Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn penderfyniad cynnal a chadw tir.
Cynnwys
Pryd y gallwch apelio
Gallai eich awdurdod cynllunio lleol anfon hysbysiad cynnal a chadw tir atoch os ydych yn berchen ar dir neu’n meddiannu tir sydd wedi mynd yn ddiffaith neu’n anniben.
Gallwch apelio yn erbyn hysbysiad cynnal a chadw tir os ydych yn berchen ar yr eiddo neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu’n ei rentu neu’n ei feddiannu’n gyfreithlon.
Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl.
Ni chodir ffi am apelio.
Terfyn amser ar gyfer apelio
Mae’n rhaid i’ch apêl gael ei derbyn cyn y dyddiad y daw’r hysbysiad i rym.
Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad
Pan fydd eich apêl wedi cael ei dechrau, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.
Sut i apelio
Cyflwynwch eich apêl i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un penderfyniad, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un.
Anfonwch gopi o’ch apêl, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn dweud wrthych sut i wneud hyn.
Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu
Bydd angen i chi gyflwyno copïau o’r canlynol:
- Copi o’r hysbysiad cynnal a chadw tir
- Unrhyw ohebiaeth berthnasol â’r awdurdod cynllunio lleol
- Eich ffurflen apelio, os ydych yn apelio drwy’r post neu’r e-bost
- Unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi eich apêl yn uniongyrchol, er enghraifft eich datganiad llawn o’r achos
Gallwch eu hanfon at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru drwy’r post neu’r e-bost.
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Gwneud sylwadau ar apêl
Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl yn erbyn hysbysiad cynnal a chadw tir.
Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r apêl.
Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un a allai fod â buddiant (‘partïon â buddiant’) fod apêl wedi cael ei chyflwyno.
Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Darllenwch y canllaw manwl ar gyflwyno eich cynrychiolaethau.
Ar ôl i chi apelio
Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.
Yna, bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos o’r dyddiad dechrau fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.
Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol
Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.
Gallwch gwyno am y ffordd y mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.
Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl
Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.
Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.