Helpu i gefnogi olrhain cysylltiadau drwy arddangos posteri QR swyddogol y GIG wrth fynedfeydd o 24 Medi 2020.
Cynnwys
Trosolwg
Mae defnyddwyr ap Covid-19 y GIG yn gallu sganio (mewngofnodi) wrth iddynt fynd i leoliad. Os bydd pobl a ymwelodd â'r lleoliad yn profi'n bositif am coronafeirws, gellir anfon rhybudd at ddefnyddwyr eraill yr ap a oedd yno ar yr un pryd.
Ni fydd hysbysiad yr ap yn cyfeirio at enw eich lleoliad, dim ond rhoi gwybod i ddefnyddwyr yr ap y gallent fod wedi dod i gysylltiad â coronafeirws.
Mae’n gyflym, yn syml ac yn ddiogel, a bydd yn helpu swyddogion olrhain cysylltiadau i gysylltu â defnyddwyr yn gyflym os oes angen.
Nid yw hyn yn disodli’r gofyniad cyfreithiol i fusnesau risg uchel penodol yng Nghymru gasglu gwybodaeth gan gwsmeriaid, staff ac ymwelwyr. Rhaid i safleoedd y mae'n ofynnol iddynt cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu barhau i wneud hynny, gan gynnwys pobl sy'n mewngofnodi drwy'r ap.
Paratowch drwy greu eich posteri
Crëwch eich posteri yn barod i'w harddangos o 24 Medi (ar GOV.UK).
O 24 Medi dangoswch eich posteri:
- argraffwch y poster cyfan, gan gynnwys y pennawd a'r troedyn, yn faint A4 o leiaf
- rhowch un poster o leiaf 130cm (i frig y poster) oddi ar y ddaear ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- os yw'n bosibl, rhowch eich posteri ar ochr chwith eich ffenestr flaen neu'ch mynedfa
- dangoswch y poster ym mhob mynedfa, yn ogystal â’r rhai y tu fewn os oes modd
- sicrhewch fod eich posteri mewn lle gweladwy a diogel, lle na ellir eu tynnu'n hawdd
- gosodwch y posteri mewn mannau hawdd eu cyrraedd, lle gall pobl gerdded heibio heb greu rhwystr
- ystyriwch y rhai a allai fod yn llai abl i estyn uwchlaw, dros ben neu o amgylch gwrthrychau