Roedd Ken Skates Gweinidog yr Economi ar safle antur diweddaraf Cymru heddiw, sef Zip World Fforest, Betws y Coed, i agor y Fforest Coaster yn swyddogol.
Dyma’r unig Alpine Coaster ym Mhrydain, a bydd yn debygol o roi hwb arall i Ogledd Cymru fel cyrchfan gwyliau antur o safon ryngwladol. Yma hefyd y ceir lleoliad diweddaraf yr arwydd EPIC.
Mae’r Fforest Coaster wedi derbyn cyllid drwy Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Croeso Cymru. Yn dilyn Blwyddyn Antur 2016 – mae’r buddsoddiad yn y sector yn dangos mwy o dwf a datblygiad mewn twristiaeth Antur yng Nghymru.
Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod y Flwyddyn Antur – y cyntaf o flynyddoedd themâu Cymru – wedi bod yn llwyddiant mawr i’r diwydiant. Bu i weithgarwch marchnata Croeso Cymru ar gyfer 2016 greu £370 miliwn yn ychwanegol i economi Cymru – sy’n gynnydd o 18% o gymharu â 2015. Dengys hyn bod ymwelwyr yn bendant wedi’u dylanwadu gan farchnata Croeso Cymru cyn dod i Gymru.
Yn dilyn yr agoriad swyddogol, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae’r Flwyddyn Antur wedi dangos bod Cymru yn gyrchfan o safon fyd-eang, ac roedd y ffaith i’r Lonely Planet gynnwys gogledd Cymru fel rhif pedwar ar eu rhestr o’r deg cyrchfan antur gorau yn y byd yn 2017 yn goron ar y cwbl, yn enwedig gan iddynt grybwyll y ffordd y mae’r tirwedd diwydiannol wedi ei ail-greu er mwyn cynnig cyfres o atyniadau o safon uchel.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ymrwymiad y sector cyhoeddus a phreifat a’r cydweithio fu rhyngddynt i ddarparu profiad i’r ymwelydd o safon fyd-eang. Bydd yr ychwanegiad cyffrous hwn i’r atyniad Zip World yn bendant yn denu mwy i’r ardal. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Zip World yn y tymor a ddaw ac yn eu llongyfarch ar eu hymroddiad i fuddsoddi mewn cynnyrch arloesol”
Meddai cyd-sylfaenydd Zip World, Sean Taylor:
“Mae twristiaeht antur yn boblogaidd iawn yng Ngogledd Cymru. Yn wir, rydym mor hyderus yn ei ddyfodol fel ein bod wedi buddsoddi dros £5.5 miliwn yn y 12 mis diwethaf i helpu i sefydlu yr ardal fel canolfan anturiaethau.
“Dangosodd astudiaeth ddiweddar o effaith Zip World ar yr economi bod atyniadau Zip World, ers 2013, wedi dod â £121 miliwn i economi Gogledd Cymru ac wedi creu dros 218 o swyddi gyda dros 93% o’r swyddi hyn i bobl leol. Rydym yn creud bod gennym gyfuniad perffaith - ein gwasanaeth i gwsmeriaid o’r safon uchaf; anturiaethau arloesol a’n gallu i ddefnyddio prydferthwch Eryri i greu profiad bythgofiadwy i’r ymwelydd.”
Mae’r gosodiad EPIC hefyd wedi ymddangos ar safle Zip World Fforest ar gyfer yr agoriad swyddogol. Roedd EPIC yn rhan amlwg o’r ymgyrchoedd Blwyddyn Antur ac maent wedi newid dros y gaeaf i adlewyrchu thema Blwyddyn y Chwedlau ar gyfer 2017. Mae’r arwydd wedi ei adnewyddu a’i ail-orchuddio gyda darluniau o’n chwedlau mwyaf poblogaidd. Bydd ymwelwyr yn gallu darllen am y storïau sydd y tu ôl i’r chwedlau gan eu bod wedi eu disgrifio ar waelod yr arwydd sy’n 4 metr o uchder ac 11 metr o led. Mae ffilm yr ymgyrch eleni gyda Luke Evans hefyd yn rhan o’r arwydd, gyda cod QR y ffilm ar yr arwydd.