Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gynlluniau heddiw ar gyfer cronfa gerdd unigryw fydd yn helpu i greu cyfleoedd newydd i blant a phobl ifanc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan gael ei chefnogi â buddsoddiad gwerth £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru, mae Anthem, Cronfa Gerdd Cymru, yn gronfa waddol arloesol ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru.

A hithau wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, nod Anthem yw helpu plant a phobl ifanc o oedran cyn ieuenged â thair blwydd oed hyd at 25 i gael at gyfleoedd cerddorol ac i ddatblygu’u sgiliau a’u doniau.

Dyma ffynhonnell ychwanegol o gyllid a sefydlwyd ar gyfer y cyfnod hir i wella’r gwaith presennol o gyllido cerddoriaeth yng Nghymru.  Yn dathlu’r lansiad yn Arena Motorpoint, Caerdydd, a gyflwynwyd gan Connie Fisher, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Aglwydd Elis-Thomas.

Rhoddodd y digwyddiad hefyd le amlwg i ddoniau newydd diweddaraf Cymru, sef y ddeuawd Into the Ark, y dyfarnwyd gwobr Cronfa Lansio Horizons / Gorwelion iddynt ac a gyrhaeddodd rownd derfynol The Voice yn 2017, fydd yn mynd ar daith i’r Unol Daleithiau yn o fuan gyda’u mentor, Syr Tom Jones.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: 

“Mae arnaf eisiau i’n holl bobl ifanc, beth bynnag fo’u cefndir neu’u gallu, fwynhau cerddoriaeth a gallu datblygu’u doniau a’u sgiliau.  Mae Anthem – Cronfa Cerdd Cymru, a sefydlwyd gydag £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru, yn fenter arloesol fydd nid yn unig yn cynyddu mynediad at brofiadau cerddorol ond fydd hefyd yn gwella gwasanaethau cerddoriaeth presennol. 

“Bydd hyn yn adeiladu ar yr addysg gerddoriaeth a ddarperir eisoes gan ysgolion fel rhan o’r cwricwlwm newydd ac fe fydd yn caniatáu i ddysgwyr gael at gyfleoedd newydd a chyffrous y tu allan i’r ysgol.”

Meddai’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas, AC, gan ychwanegu: 

“Rwy’n falch o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cydweithio er mwyn gwneud Anthem yn realiti, ond er mwyn adeiladu’r Gronfa, fe fydd arnom angen gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant cerddoriaeth ledled y Deyrnas Unedig.

“Dyna pam rwyf heddiw yn galw ar bob artist a busnes ledled Cymru i fod yn rhan o’r Gronfa ac i sicrhau y gall eraill ddarganfod a rhannu yn llawenydd cerddoriaeth.”

Deilliodd y gronfa, sy’n gwerthfawrogi treftadaeth gerddorol gyfoethog y genedl ac sy’n canolbwyntio’n gryf ar feithrin doniau’r dyfodol, o argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wasanaethau Cerdd annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.  

Fe wnaeth Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, ac a gafodd y gorchwyl gan y Llywodraeth o gyflawni uchelgais Anthem, groesawu cyhoeddiad heddiw, gan ddweud, 

''Nid oes amheuaeth nad oes ar ddinasyddion Cymru eisiau gweld ein pobl ifanc yn cyfoethogi’u bywydau drwy fynegiant cerddorol.  Mae’n rhaid inni i gyd obeithio y bydd rhoddwyr preifat a chorfforaethol yn bachu ar y cyfle newydd hwn i ymuno â Llywodraeth Cymru i feithrin doniau cerddorol ifainc ac i’w helpu i’n difyrru a’n rhyfeddu ni i gyd."    

Y buddsoddiad gwerth £1filiwn gan Lywodraeth Cymru yw’r cam cyntaf o greu cyfalaf y gronfa fydd yn sicr o dyfu dros y ddwy i dair blynedd nesaf, gyda phatrwm blynyddol targed o roi grantiau o hyd at £300,000 y flwyddyn wedi’i amserlennu o 2021 ymlaen.

Bydd Bwrdd Anthem yn datblygu meini prawf manwl ar gyfer ceisiadau, gan ystyried yn ofalus sut y gellir defnyddio’r cyllid i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru.  

Er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i genedlaethau’r dyfodol, fe fydd angen datblygu cronfa Anthem o amrywiaeth o ffynonellau – y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector – fydd yn buddsoddi ar gyfer y cyfnod hir.

Er mwyn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i amcanion Anthem ac i gefnogi’i hymdrech uchelgeisiol i godi arian, fe chwilir am lysgenhadon uchel eu proffil sy’n cynrychioli pob chwaeth gerddorol.  Bydd Llysgenhadon Anthem yn cefnogi nodau hirdymor y gronfa i wneud gwahaniaeth i ddawn gerddorol ac fe fyddant yn gweithredu fel wynebau amlwg i’w hymgyrchoedd.

Bydd Llysgengadon Anthem, ynghyd ag Aelodau’i Bwrdd, yn chwilio am gefnogwyr a phartneriaid sy’n angerddol dros sicrhau bod gan bobl ifanc drwy Gymru i gyd fynediad at gyfleoedd i ddatblygu’u sgiliau a’u doniau cerddorol i gynnal uchelgais y gronfa.

I gael rhagor o fanylion, gweler: www.anthem.wales