Neidio i'r prif gynnwy

Mae enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni wedi cael eu datgelu mewn seremoni arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y gwobrau blynyddol, sydd bellach yn eu chweched blwyddyn, eu creu i gydnabod y llwyddiannau a’r gweithredoedd gwych, a’r cyfraniadau eithriadol y mae pobl o bob cefndir yn eu gwneud ledled Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae enillwyr Gwobrau Dewi Sant wir yn seintiau – dyma’r bobl yn ein cymunedau sy’n gweithio i sicrhau newid. Dyma’r sefydliadau sy’n cefnogi pobl eraill i wireddu eu breuddwydion, a dyma’r bobl sy’n dod ar draws sefyllfaoedd hollol newydd wrth gerdded lawr y stryd.

“Mae Gwobrau Dewi Sant yn ffordd wych i gydnabod a dathlu’r straeon eithriadol a’r dalent ysbrydoledig sydd gennym ym mhob cwr o Gymru. Mae pob un o’r terfynwyr yn ymgorffori’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymro – maen nhw’n newid bywydau.”

Dyma gategorïau’r gwobrau: Dewrder, Dinasyddiaeth, Diwylliant, Menter, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Rhyngwladol, Chwaraeon, Person Ifanc a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.

Dewiswyd enillydd y wobr arbennig eleni gan y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. Cyflwynwyd y wobr i’r hanesydd nodedig yr Athro Syr Deian Hopkin.

Penodwyd Syr Hopkin yn gynghorydd arbenigol Llywodraeth Cymru ar brosiect coffau y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘Cymru’n Cofio - Wales Remembers 1914-1918’. 

Arweiniodd y ffordd o ran cynllunio a threfnu digwyddiadau coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, gan sicrhau bod y canmlwyddiant yn cael y sylw haeddiannol, a rhoi gwell dealltwriaeth i bobl o’r hyn a arweiniodd at y Rhyfel Mawr, a’i effaith ar deuluoedd a chymunedau Cymru. 

Dyma enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2019:

Dewrder - Andrew Niinemae

Cyhoeddir gan Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Matt Jukes.

Peryglodd Andrew ei fywyd ei hun yn ceisio atal car rhag gyrru i mewn i griw o oddeutu 20 o bobl y tu allan i dafarn yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Cafodd niwed difrifol i'w goes, ond llwyddodd i atal niwed difrifol i bobl eraill yn y digwyddiad. Roedd ymateb Andrew yn reddfol ac yn ddewr gan roi bywydau pobl eraill cyn ei fywyd ei hun. Dywed llygad-dystion y gallai nifer o bobl fod wedi cael niwed ac o bosibl eu lladd pe na bai Andrew wedi ymyrryd. 

Dinasyddiaeth - Bugeiliaid y Stryd Caerdydd

Cyhoeddir gan Phil George.

Mae Bugeiliaid y Stryd Caerdydd yn fenter gan 25 o eglwysi lleol.  Mae gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi yn mynd o amgylch Canol Dinas Caerdydd ar nos Wener a Sadwrn i helpu'r rhai sydd mewn angen. Mae’r tîm o dros 60 o fugeiliaid stryd yn cydweithio â Heddlu De Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a busnesau lleol, ac maent wedi rhoi miloedd o oriau o wasanaeth i economi gyda'r nos yng Nghaerdydd. 

Diwylliant - Cwmni Theatr Hijinx

Cyhoeddir gan Mathew Milsom.

Mae Hijinx yn gwmni theatr ledled Cymru sydd bob amser yn defnyddio actorion ag anawsterau niwrolegol ac actorion sydd ag anableddau dysgu yn eu cynyrchiadau theatr llwyddiannus. Mae Hijinx yn defnyddio'r theatr i fynd i'r afael â'r broblem gymdeithasol gymhleth o integreiddio anabledd dysgu yn y gweithle ac o fewn cymdeithas. Nod Hijinx yw lleihau anghydraddoldeb. Maent yn credu y dylai pawb gael yr hawl i addysg ddiwylliannol ac i ddilyn bywyd deinamig, creadigol. 

Menter - Hilltop Honey

Cyhoeddir gan Phil Henfrey. [Nid oedd Scott yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni – derbyniwyd y wobr ar ei ran gan ei dîm marchnata].

Sefydlodd Scott Hilltop Honey yn 2011, ac mae'r cwmni wedi profi twf anhygoel yn y blynyddoedd ers hynny, gyda'r trosiant yn cynyddu o £234,000 i dros £4 miliwn. Hilltop Honey oedd y cwmni cyntaf i werthu mêl organig Masnach Deg, ac mae eu holl gynnyrch ar gael mewn potiau gwydr y mae modd eu hail-ddefnyddio a photeli y gellir eu hailgylchu 100%. Mae'r cwmni hefyd yn cyfrannu 25% o'i elw i elusen blant.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Canolfan Arloesi Cerebra

Cyhoeddir gan Deb Barber.

Mae Cerebra yn elusen sy'n gweithio i helpu teuluoedd â phlant sydd â chyflyrau ar yr ymennydd i ganfod bywyd gwell gyda'i gilydd. Maent wedi sefydlu partneriaeth gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i sefydlu Canolfan Arloesi Cerebra (CIC). Gyda'u canolfan yng Ngholeg Celf Abertawe, mae tîm o beirianwyr yn cynllunio ac yn creu cynnyrch arloesol, pwrpasol i helpu plant anabl i ddarganfod y byd o'u hamgylch. Mae’r cynlluniau’n gyffrous ac yn defnyddiol, gan hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac yn golygu bod yn plant yn cael eu derbyn gan blant eraill. Mae'r cynnyrch a'r cymorth yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim.

Rhyngwladol - Liam Rahman

Cyhoeddir gan Uzo Uwobi.

Yn dod o Sir Gaerfyrddin, astudiodd Liam yng Ngholeg Yale-NUS (Singapôr) a Phrifysgol Yale (USA), gan raddio mewn athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg.  Dychwelodd i Gymru yn 2017, gan ddod yn gyfarwyddwr E-Qual Education, cwmni a sefydlodd ar y cyd yn 2011 ac sydd bellach yn cyflogi dros 100 o bobl. Mae Liam yn gefnogwr brŵd i'r Rhwydwaith Seren, menter arloesol Llywodraeth Cymru i helpu disgyblion gael lle yn y prifysgolion gorau, ac mae'n fentor i fyfyrwyr ac yn arwain ysgolion i ddysgu mwy am gyfleoedd rhyngwladol.

Chwaraeon - Geraint Thomas OBE

Cyhoeddir gan Catrin Heledd. [Nid oedd Geraint yn gallu bod yn bresennol - derbyniodd ei rieni’r wobr ar ei ran].

Roedd y llynedd yn flwyddyn wych i'r beiciwr Geraint Thomas a enillodd y ras eiconig Tour de France yn yr haf. Ef oedd y Cymro cyntaf i ennill y digwyddiad a dim ond y trydydd beiciwr o Brydain, ynghyd â Syr Bradley Wiggins a Chris Froome. Cafodd groeso mawr adref mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, gyda dros 10,000 o bobl yn bresennol i’w longyfarch ar ei lwyddiant. Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd wedi cael ei ail-enwi yn Felodrom Geraint Thomas. 

Person Ifanc - Bethan Owen

Cyhoeddir gan Sian Lewis.

Mae Bethan yn ddisgybl chweched dosbarth ond ers oedd yn ifanc, mae wedi bod yn helpu ei thad i ofalu am ei Mam sy'n dioddef o epilepsi. Pan oedd yn chwe mlwydd oed, cafodd Bethan ei chyflwyno i karate gan ei rhieni i roi ffocws iddi i ffwrdd o gyfrifoldebau y cartref. Erbyn iddi fod yn 12 oed, roedd gan Bethan wregys du ac roedd yn hyfforddwr karate cymwys. Unwaith yr oedd wedi cymhwyso, agorodd Bethan ei chlwb karate di-elw cyntaf i ofalwyr ifanc eraill rhwng chwech a naw oed. Mae'r clwb yn helpu i ddatblygu hyder, hunan-barch ac yn cynnig seibiant o gyfrifoldebau gofalu.

Darlledir rhaglen arbennig am Wobrau Dewi Sant ar ITV Wales am 10.40pm nos Fawrth 2 Ebrill 2019.