Mae bydwraig o Gymru yn teithio i Affrica yr wythnos hon i addysgu bydwragedd lleol sut i sicrhau bod menywod yn cael beichiogrwydd a genedigaethau mwy diogel – diolch i anrheg Priodas Frenhinol arbennig gan bobl Cymru.
Y llynedd, nodwyd priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle, Dug a Duges Sussex, gan Lywodraeth Cymru gyda chyfraniad o £1,500 i'r elusen Gymreig, Life for African Mothers.
Mae'r cyfraniad a gafodd ei roi ar ran pobl Cymru, yn ariannu taith Sam Falloon, bydwraig o Gaerffili sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, i Liberia, ar arfordir gorllewinol Affrica, lle bydd yn helpu i hyfforddi 15 o fydwragedd lleol ar sut i wella gofal ar gyfer mamau a'u babanod.
Mae Sam yn fam i chwech o blant. Cafodd hyfforddiant fel bydwraig 5 mlynedd yn ôl, a hynny pan oedd ei phlentyn ieuengaf dim ond yn 3 mlwydd oed.
Mae ei hymweliad yn cael ei drefnu drwy Life for African Mothers, sydd wedi bod yn cefnogi ysbytai yn Affrica Is-Sahara am y 12 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru:
“Wrth i Harry a Meghan pataroi i groesawu eu plentyn cyntaf i'r byd, rydw i mor falch bod ein hanrheg i nodi eu priodas y llynedd yn ariannu ymweliad Sam i Liberia. Bydd yr ymweliad yn caniatáu i Sam rannu ei gwybodaeth a'i harbenigedd, a bydd hyn yn helpu bydwragedd lleol i sicrhau bod beichiogrwydd a genedigaethau yn fwy diogel, gan helpu i achub bywydau mwy o famau a babanod.
“Bydd y profiad hwn o fudd enfawr i'n ffrindiau yn Liberia. Ond bydd hefyd yn cynnig profiad a fydd yn newid bywyd i Sam, a bydd hynny o fantais i'r Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru.
"Rydw i am i Gymru fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae hon yn enghraifft wych o'r ffordd rydyn ni'n cyflawni'r nod hwnnw yn barod."
Dywedodd Sam:
“Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at fynd. Mae meddwl am y sgiliau newydd y byddaf i'n eu dysgu wir yn gyffrous ac alla i ddim aros tan imi allu rhannu'r addysg bydwreigiaeth rydw i wedi'i chael yma yng Nghymru.”
Dywedodd Angela Gorman, Prif Weithredwr Life for African Mothers:
"Mae cael bod yn rhan o achub bywydau mamau yn Affrica yn fraint ac anrhydedd imi ac rydw i'n arbennig o falch o'r cyfraniad y mae Cymru yn ei wneud i'n gwaith. Bu farw fy mam-gu wrth iddi roi genedigaeth 104 o flynyddoedd yn ôl. Un o'r teyrngedau mwyaf y gallaf ei thalu iddi yw cyflawni'r gwaith hanfodol bwysig hwn."