Neidio i'r prif gynnwy

Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2016-17, roedd data a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos bod 21 o achosion lle'r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthynas i roi organau, neu wedi gwrthod cefnogi'r caniatâd tybiedig.  

O ystyried y cafwyd  3.3 o organau ar gyfartaledd fesul rhoddwr yn y DU yn 2016-17, gallai hynny fod wedi golygu cynifer â 69 o drawsblaniadau ychwanegol.

Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau. O dan y system hon, os nad yw unigolyn wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – gelwir hyn yn ganiatâd tybiedig.  

O ganlyniad i'r newid, disgwylir y bydd cynnydd yn nifer yr organau a roddir dros gyfnod o amser. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu gostyngiad o 18.5% yn nifer y cleifion sydd wedi marw tra’n disgwyl trawsblaniad ar y rhestr aros. 

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

 

“Tra bod pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach i gynyddu canran y boblogaeth sy'n cydsynio er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad. 

“Dw i'n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. Er ein bod yn gwybod bod mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, mae'n hynod bwysig bod pobl Cymru yn egluro eu penderfyniad wrth eu teuluoedd.

“Y cyfan sydd ei angen i sicrhau y bydd eich teulu a'ch ffrindiau yn gallu anrhydeddu eich dymuniad pan fyddwch yn marw, yw cael sgwrs gyda nhw ynghylch eich penderfyniad.” 

Gall un sgwrs fel hon ddod â budd i bobl Cymru a'r DU drwy leihau nifer y bobl sy'n marw tra'n disgwyl i organ addas ddod ar gael, a thrawsnewid bywydau pobl eraill. 

Gallwch gofrestru penderfyniad unrhyw bryd drwy wneud un o’r canlynol: