Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn lansio Dewis Dda, Dewis Fferylliaeth yr ymgyrch Gaeaf hwn gyda galwad i'r cynllun ymlaen llaw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Un elfen o’r ymgyrch eleni yw canolbwyntio ar rôl fferyllwyr cymunedol ledled Cymru. Mae’r fferyllwyr yn cynnig cyngor i bobl, yn hyrwyddo negeseuon allweddol am iechyd ac yn helpu pobl sydd â chyflyrau meddygol cymhleth i lenwi cynllun iechyd personol er mwyn paratoi at y gaeaf. 

Nod yr ymgyrch ‘Dewis Doeth yw dewis eich fferyllfa y gaeaf hwn’ yw tynnu sylw at yr amrywiaeth helaeth o wasanaethau, nad yw pobl yn gwybod amdanynt o bosibl, sydd ar gael yn agos at eu cartrefi ac ar adegau mwy cyfleus - fin nos ac ar benwythnosau.

Dywedodd Mr Gething: 

“Bydd dewis y gwasanaeth a’r cyngor iechyd cywir yn arbed amser ichi ac yn sicrhau eich bod chi a’ch teulu’n cael y gofal iawn yn gyflym. Yn aml, gall fferyllwyr roi cyngor a thriniaeth yn gyfrinachol heb fod angen gwneud apwyntiad.

“Bydd staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio’n galed y gaeaf hwn – a gallwn ni i gyd wneud ein rhan drwy ddewis yn ddoeth.”

Y bwriad wrth gynnig y pecyn Fy Iechyd y Gaeaf Hwn yw helpu pobl sydd â chyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor i roi gwybodaeth hanfodol i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n dod i’w gweld. Bydd hyn yn caniatáu i fwy o bobl gael eu gweld a’u trin gartref, gan osgoi taith ddiangen i’r adran damweiniau ac achosion brys.

Bydd fferyllwyr yn gallu helpu cleifion i lenwi’r ffurflen, sy’n cynnwys gwybodaeth megis rhestr o’u cyflyrau ac enwau’r rhai y dylid â nhw mewn argyfwng.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru i wneud yn siŵr bod pecynnau ar gael ym mhob fferyllfa gymunedol, y mae dros 700 ohonynt yng Nghymru. Mae’r pecynnau hefyd yn cynnwys cynghorion defnyddiol ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel, yn gynnes ac yn iach yn ystod y gaeaf, a bydd Age Cymru a’r byrddau iechyd yn eu dosbarthu hefyd.

Wrth lansio’r ymgyrch yn Fferyllfa Mayberry ym Mhenarth gyda’r fferyllydd Elaine Hill, dywedodd Vaughan Gething: 

“Bydd fferyllwyr cymunedol ledled Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth roi cyngor i chi a’ch teulu ynglŷn ag annwyd a pheswch a nifer o anhwylderau cyffredin eraill y gaeaf hwn.”

Dywedodd y fferyllydd Elaine Hill:

“Mae rôl fferyllwyr cymunedol yn dod yn un fwyfwy pwysig o ran darparu cymorth a chyngor i bobl mewn lleoliad cyfleus sy’n agosach at eu cartrefi.

“Un o’r gwasanaethau newydd y mae Mayberry yn ei gynnig eleni yw ymweld â chartrefi gofal i roi brechiadau ffliw i’r preswylwyr heb iddynt orfod gadael cysur y cartref.

“Gall fferyllfeydd fel hon ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys cyngor iechyd wyneb yn wyneb, heb fod angen gwneud apwyntiad. Gallwn hefyd gynnig triniaeth ar gyfer nifer o anhwylderau cyffredin fel peswch, annwyd, dolur gwddf, dolur rhydd, trwyn yn rhedeg, llau pen, salwch stumog a chur pen. Ry’n ni hefyd yn cynnig ymgynghoriad cyfrinachol gyda fferyllydd cymwysedig, a hynny mewn lle preifat yn y fferyllfa.”

Yn ôl Prif Weithredwr GIG Cymru, Andrew Goodall, mae’n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan wrth i’r gaeaf agosáu, drwy wneud dewis doeth a gwneud y penderfyniadau cywir ynghylch ble i gael cyngor a thriniaeth pan fyddwn yn anhwylus. Bydd hyn yn helpu i leddfu’r pwysau ar adrannau brys mewn ysbytai ac yn golygu ein bod yn cael cymorth yn gyflymach ac yn nes at adref. 

Dywedodd Dr Goodall: 

“Drwy wneud y dewis cywir, rydych chi nid yn unig yn arbed amser ac yn sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn ael y gofal iawn yn gyflym – rydych chi hefyd yn helpu staff y GIG a fydd yn gweithio’n galed y gaeaf hwn. 

“Mewn argyfwng difrifol lle mae bywyd mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys. Ond, fel arall, cofiwch ystyried y dewisiadau amrywiol eraill sydd ar gael.” 

Dywedodd Mark Griffiths, Cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru: 

“Mae Dewis Doeth yn esiampl wych o sut mae fferyllfeydd cymunedol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a chydweithwyr eraill ym maes gofal sylfaenol i wella iechyd pobl Cymru. Does dim rhaid ichi wneud apwyntiad – gallwch fynd draw pryd bynnag sy’n gyfleus i chi a byddwch bob amser yn cael cyngor gan fferyllydd cymwysedig mewn lle preifat yn y fferyllfa. Dyna pam mai Dewis Doeth yw’r dewis gorau i bobl y gaeaf hwn.”

Gall asesydd symptomau ar-lein Galw Iechyd Cymru roi cymorth defnyddiol ichi hefyd ynglŷn â pha driniaeth neu wasanaeth sydd ei angen arnoch - Galw Iechyd Cymru neu gallwch siarad â rhywun drwy ffonio 0845 46 47, neu 111 os yw ar gael. Gall rhieni plant o dan 12 oed droi at wefan Dewis Doeth am gyngor.