Neidio i'r prif gynnwy

Ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio ledled Cymru, cyfle rhad ac am ddim i annog plant i ddarllen a mwynhau dros wyliau’r haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall pob plentyn 4 i 11 oed fynd i’w llyfrgell leol, cofrestru ar gyfer y sialens, dewis 6 llyfr, ac unwaith y byddant wedi cwblhau’r sialens, gan ennill gwobrau bob cam o’r ffordd, byddant yn cael tystysgrif. Mae fersiwn ar-lein o’r sialens ar gael hefyd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Dw i’n gwybod beth yw’r pleser mawr sy’n dod o ymgolli mewn llyfr. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wirioneddol wych i blant ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad angerddol at lyfrau a fydd yn para am byth.

Dyna pam ein bod ni’n cyllido’r cynllun hwn unwaith eto eleni, i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael cyfle i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf.

Thema’r sialens eleni yw ‘Crefftwyr Campus’ ac mae llyfrau newydd i’w darganfod, gan gynnwys rhestr newydd o lyfrau Cymraeg gan Gyngor Llyfrau Cymru sy’n gweithredu’r cynllun sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Ddarllen.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn trefnu digwyddiad i nodi Sialens Ddarllen yr Haf yn Llyfrgell Dinbych ddydd Mercher 10 Gorffennaf, a bydd yr awdur Leisa Mererid yn siarad am ei llyfr newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau ioga gyda phlant o ysgol gynradd leol, Ysgol Twm o’r Nant.

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yng Nghyngor Llyfrau Cymru:

Rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio ochr yn ochr â’r Asiantaeth Ddarllen i ddatblygu adnoddau dwyieithog ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2024. Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod ni’n gallu creu adnoddau dwyieithog a thynnu sylw at deitlau Cymraeg perthnasol i ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith plant a phobl ifanc.

Eleni, mae thema wych i Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n sicr o ryddhau grym creadigol drwy ddarllen. Mae’r Sialens yn gyfle bendigedig i ddarganfod llyfrau, awduron ac arlunwyr newydd yn ogystal â gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau a’r gweithdai rhagorol o fewn y Llyfrgell leol – a’r cyfan yn rhad ac am ddim!

Mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi Sialens Fach y Gaeaf sy’n cael ei chynnal yn ystod gwyliau’r gaeaf.

Mae llawer o lyfrgelloedd yn cynnig amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau i blant a theuluoedd eu mwynhau yn rhad ac am ddim drwy gydol yr haf. Chwiliwch am eich llyfrgell leol.