Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyn-aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru yn cael eu hannog i roi gwybod i'w meddyg teulu eu bod wedi gwasanaethu eu gwlad, gan y gallai hynny olygu bod ganddynt yr hawl i gael eu blaenoriaethu o ran cael mynediad at driniaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Amcangyfrifir bod oddeutu 149,000 o ddynion a menywod sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn byw yng Nghymru, ac mae ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ceisio sicrhau bod pob cyn-filwr yn cael y gwasanaethau y mae ganddo'r hawl iddynt.  

Mae gan gyn-filwyr yr hawl i gael eu blaenoriaethu o ran cael mynediad at driniaeth y GIG am unrhyw gyflyrau sy'n ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol. Mae hynny’n cynnwys milwyr rheolaidd, milwyr wrth gefn, ynghyd â'r rheini sydd wedi gwneud gwasanaeth cenedlaethol. 

Mae'n bosibl nad yw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwybodol o statws milwrol blaenorol eu cleifion neu eu cleientiaid, ond mae'n bwysig eu bod yn gwybod amdano er mwyn rhoi'r cymorth priodol iddynt. Nid yw rhai cyn-filwyr yn meddwl ei bod yn berthnasol datgelu hynny, neu mae'n bosibl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn gyn-filwyr hyd yn oed.

Cyn-filwyr yw cyn-aelodau'r Llynges Frenhinol, y Fyddin, y Môr-filwyr Brenhinol, y Llu Awyr Brenhinol, neu'r Llynges Fasnachol, yn ogystal â physgotwyr sydd wedi gwasanaethu ar gwch neu long sydd wedi cefnogi gweithgarwch milwrol gan Luoedd Ei Mawrhydi.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: 

Yng Nghymru rydyn ni wedi ymrwymo i Gyfamod y Gwasanaethau Arfog sy'n cydnabod bod gan y genedl gyfan rwymedigaeth foesol tuag at aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, ac mae'r cyfamod hwn yn nodi sut y dylen nhw ddisgwyl cael eu trin.

Rhan o'r rhwymedigaeth yw sicrhau bod y dynion a'r menywod, sydd wedi ymateb i'r galw i wasanaethu eu gwlad, yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a'u teuluoedd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:   

Os bydd gwasanaethau iechyd yn gallu adnabod cyn-filwyr, gallan nhw wedyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n effeithiol. Yn ogystal â chael eu blaenoriaethu o ran cael triniaeth, gallan nhw ddefnyddio GIG Cymru i Gyn-filwyr, sef gwasanaeth iechyd meddwl pwrpasol ar eu cyfer.  Hefyd mae gwasanaethau penodol ar gael yng Nghymru i gyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes, yn ogystal â gwasanaethau eraill. Mae'n hanfodol bod cyn-filwyr yn dweud wrth weithwyr gofal iechyd eu bod wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, er mwyn iddyn nhw allu cael y cymorth priodol pan fo'i angen.

Mewn achosion lle mae'r ymgynghorydd a'r meddyg teulu sydd wedi atgyfeirio'r cyn-filwr yn cytuno bod cyflwr y claf yn gysylltiedig â'i wasanaeth milwrol, rydym wedi gofyn iddynt flaenoriaethu’r cyn-filwr dros gleifion eraill sydd â'r un lefel o angen clinigol. Ni fydd cyn-filwyr yn cael blaenoriaeth dros gleifion eraill sydd ag anghenion clinigol mwy brys.

Gall adnabod unigolyn fel cyn-filwr helpu i flaenoriaethu'n briodol o ran cael mynediad at wasanaethau'r GIG, gan sicrhau bod unrhyw broblemau corfforol, iechyd meddwl, a chymdeithasol yn cael y sylw priodol. 

Mae'r ymgyrch hon yn cael ei chefnogi gan y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Rhanbarth y Lleng yng Nghymru

Mae hawl gan gyn-filwyr gael eu blaenoriaethu o ran cael mynediad at ofal y GIG am gyflyrau sy'n gysylltiedig â'u hamser yn y Lluoedd Arfog. Hoffwn annog pob cyn-filwr i dynnu sylw ei feddyg teulu a darparwyr gofal iechyd eraill at ei amser yn y gwasanaeth arfog er mwyn sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried.