Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do, a gyflwynwyd ledled Prydain Fawr ym mis Rhagfyr ac sy’n un o ystod o fesurau i atal ffliw adar rhag lledaenu, wedi cael eu codi heddiw [o 23:59 31 Mawrth 2021 ymlaen].

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Mae’r gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do yn cael ei godi
  • Mae safonau uchel o ran bioddiogelwch yn parhau’n hanfodol gan fod risg ffliw adar yn parhau.
  • Mae mesurau bioddiogelwch gorfodol newydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer unrhyw adar a gedwir y tu allan

Mae'r mesurau gorfodol i gadw dofednod ac adar caeth dan do, a gyflwynwyd ledled Prydain Fawr ym mis Rhagfyr ac sy’n un o ystod o fesurau i atal ffliw adar rhag lledaenu, wedi cael eu codi heddiw [o 23:59 31 Mawrth 2021 ymlaen].

Ni fydd angen cadw dofednod ac adar caeth eraill dan do bellach oni bai eu bod mewn Parth Gwarchod ac, erbyn hyn, caniateir iddynt gael eu cadw y tu allan. Fodd bynnag, mae'r Parthau Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym ac mae mesurau bioddiogelwch gorfodol ychwanegol wedi cael eu cyflwyno hefyd oherwydd y gallai'r haint barhau yn yr amgylchedd am sawl wythnos arall.

Rhaid i'r rheini sy'n bwriadu caniatáu i'w hadar fynd allan o heddiw ymlaen ddilyn canllawiau a chymryd camau i baratoi'r mannau y tu allan. Pan gaiff yr adar eu rhyddhau, dylai perchnogion barhau i gymryd rhagofalon ychwanegol a dylai’r adar gael eu cadw mewn mannau awyr agored sydd wedi'u ffensio neu eu hamgáu. Rhaid darparu bwyd a dŵr o dan do mewn man lle na all adar gwyllt fynd iddo.

Bioddiogelwch da yw'r ffordd fwyaf effeithiol o reoli clefydau, a dylai ceidwaid adar ddefnyddio mesurau ychwanegol bob amser er mwyn atal a lliniaru'r risg o achosion yn y dyfodol.

Mae tri Phrif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr wedi atgoffa pawb sy’n berchen ar adar i beidio â gorffwys ar eu rhwyfau, beth bynnag y bo maint yr haid.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd tri Phrif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr:

Er bod diddymu’r gorchymyn gorfodol i gadw adar dan do yn newyddion i'w groesawu, bioddiogelwch trwyadl yw'r peth pwysicaf gall ceidwaid adar ei wneud o hyd i gadw’u hadar yn ddiogel.

Gwaith caled ceidwaid adar, wrth iddyn nhw chwarae’u rhan nhw a chadw’u heidiau’n ddiogel dros y gaeaf, sy’n golygu ein bod yn gallu cymryd y camau hyn heddiw. Ond wedi dweud hynny, mae'r achosion diweddar o ffliw adar yn dangos ei bod yn bwysicach nag erioed bod ceidwaid adar yn parhau’n wyliadwrus am arwyddion o glefydau a’u bod yn cynnal safonau bioddiogelwch llym.

Rhaid i bawb sy’n cadw adar (p'un a oes ganddynt adar anwes, haid fasnachol neu haid yn yr iard gefn) barhau i fynd ati’n ddiwyd ac yn ofalus i gymryd camau bioddiogelwch effeithiol, gan gynnwys glanhau a diheintio offer, dillad a cherbydau, cyfyngu ar fynediad i’w safleoedd i bobl nad ydynt yn hanfodol, a sicrhau bod gweithwyr yn newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i fannau lle cedwir adar.

Er mwyn helpu i sicrhau bod ceidwaid adar yn bodloni'r gofynion sydd i’w gweld yn y datganiad ar Barthau Atal Ffliw Adar (AIPZ) ac yn diogelu eu adar rhag y feirws heintus iawn hwn, mae'r Llywodraeth wedi darparu canllawiau bioddiogelwch ac wedi cyhoeddi rhestr wirio ar gyfer hunanasesu bioddiogelwch, yn ogystal â'r camau y dylai ceidwaid eu cymryd cyn iddynt ryddhau eu hadar.

Mae hyn yn cynnwys y gofyniad cyfreithiol newydd mewn Parthau Atal Ffliw Adar i gadw adar maes mewn ardaloedd sydd wedi'u ffensio, a sicrhau bod pyllau dŵr, cyrsiau dŵr a merddwr  parhaol yn cael eu ffensio i leihau unrhyw gyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol ag adar gwyllt.

Rhagor o wybodaeth

Mae’n parhau’n orfodol i unrhyw ddofednod ac adar caeth sydd yn y Parth Gwarchod 3km o amgylch safle heintiedig gael eu cadw dan do. Gall ceidwaid adar ddefnyddio map rhyngweithiol Defra ac APHA i weld lle mae’r parthau rheoli clefydau ar hyn o bryd ac a ydynt mewn un o’r parthau hynny.

Gweler asesiadau risg ac achosion Defra ac APHA i gael rhagor o wybodaeth am y dystiolaeth sy'n cefnogi’r lefelau risg a bennwyd mewn perthynas â ffliw adar ar GOV.UK, gan gynnwys yr asesiad risg cyflym ar ymlediad HPAI H5N8 i heidiau dofednod sydd dan do neu yn yr awyr agored ac i adar caeth (diweddarwyd 29 Mawrth 2021).