Neidio i'r prif gynnwy

Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru sy'n teithio i Baris ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn yn cael eu hannog i ymweld â stondin Croeso Cymru yn yr Hôtel de Ville cyn i'r gêm ddechrau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Disgwylir y bydd gêm rownd yr 16 olaf yn erbyn Gogledd Iwerddon, a fydd yn cael ei chwarae yn Parc des Princes am 6pm amser lleol, yn denu miloedd o gefnogwyr Cymru i brifddinas Ffrainc.

Mae gan Gymru, ynghyd â'r 23 gwlad arall sy'n cystadlu yn Ewro 2016, bresenoldeb yn y Pentref Ewropeaidd o flaen adeilad eiconig Hôtel de Ville, drwy gydol y gystadleuaeth. Mae'n agor rhwng 10am a 10pm.

Mae miloedd o gefnogwyr pêl-droed eisoes wedi ymweld â stondin Cymru sy'n dangos rhai o brofiadau antur anhygoel y wlad megis golygfa 360° o Zip World a hysbyseb sinema a theledu aml-sianel sinematig Gwlad Gwlad sy'n cynnwys golygfeydd godidog a phrin o dirlun Cymru ar sgrin 6m o led.

Mae gêm bêl-droed pen bwrdd wedi bod yn boblogaidd gyda chefnogwyr o bob gwlad ac mae hefyd gyfle i ennill crys Ewro 2016 Cymru wedi'i lofnodi.

Mae'r Pentref Ewropeaidd, sydd hefyd yn cynnwys bar awyr agored, arddangosiadau coginio a gweithgareddau diwylliannol, wedi'i leoli yng nghalon y ddinas ger Eglwys Gadeiriol hanesyddol y Notre-Dame ar yr afon Seine. Croesawir ac anogir pawb i ymuno a dathlu popeth sy'n ymwneud â Chymru.