Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Caiff angladdau iechyd y cyhoedd eu cynnal gan awdurdodau lleol ar gyfer pobl sydd wedi marw ac sydd heb berthynas agosaf, neu y mae eu perthynas agosaf, perthnasau eraill neu ffrindiau yn methu neu'n anfodlon gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer angladd. Cânt eu cynllunio mewn ffordd sy'n diogelu iechyd y cyhoedd ac maent yn bwysig er mwyn sicrhau y caiff pob unigolyn ei drin ag urddas a pharch, ni waeth beth fo'i amgylchiadau.

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (‘y Ddeddf’) yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i drefnu claddedigaeth neu amlosgiad lle na chaiff trefniadau amgen addas eu gwneud. Fodd bynnag, nid yw'r Ddeddf yn diffinio sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni'r ddyletswydd hon – gan olygu bod cryn dipyn o hyblygrwydd yn y ffordd y caiff yr angladdau hyn eu cynnal.

Lluniwyd y canllawiau anstatudol hyn yn dilyn adborth gan rai awdurdodau lleol yn dweud y byddent yn gwerthfawrogi gwybodaeth am arferion da a chanllawiau a awgrymir y gallant eu defnyddio i lywio eu polisïau lleol. Er y bydd gwahaniaethau lleol yn golygu na fydd pob adran yn berthnasol i bob awdurdod lleol, mae'n bwysig y caiff yr holl drefniadau ar gyfer angladdau iechyd y cyhoedd eu rhoi ar waith gyda pharch a gofal.

Drwy gydol y canllawiau hyn, bydd y term ‘angladd iechyd y cyhoedd’ yn cyfeirio at weithgarwch gan awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau yn unol â'r Ddeddf – ond bydd dulliau awdurdodau lleol unigol o gynnal angladdau iechyd y cyhoedd yn amrywio.

Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys rhai o'r ystyriaethau ar gyfer cynnal angladdau iechyd y cyhoedd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dylid eu darllen ochr yn ochr â chanllawiau eraill sydd â'r nod o gynorthwyo pobl sy'n ymwneud â gofalu am yr ymadawedig neu reoli neu drefnu angladd sy'n gysylltiedig â marwolaeth o unrhyw achos yn ystod pandemig COVID-19.

Ar gyfer pwy y mae'r canllawiau hyn?

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol i bobl eraill sydd â diddordeb mewn angladdau iechyd y cyhoedd , er enghraifft trefnwyr angladdau, Ymddiriedolaethau'r GIG, arweinwyr ffydd neu ffrindiau neu berthnasau pobl y cynhelir angladdau iechyd y cyhoedd ar eu cyfer.

Deddfwriaeth berthnasol

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal angladdau iechyd y cyhoedd o dan adran 46 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Hefyd, efallai yr hoffai awdurdodau lleol gyfeirio at Ddeddf y Coronafeirws 2020 ac unrhyw reoliadau dilynol a all effeithio ar y ffordd y caiff angladdau eu rheoli neu eu trefnu.

Sut y gellir defnyddio'r canllawiau hyn?

Lluniwyd y canllawiau hyn i gael eu defnyddio gan bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth sy'n sail iddynt yn cynnig hyblygrwydd ac felly efallai y bydd awdurdodau lleol am ystyried sut mae'r canllawiau hyn yn cyd-fynd â'u trefniadau a'u hamgylchiadau lleol eu hunain.

Gan mai canllawiau anstatudol yw'r rhain, nid ydynt yn creu unrhyw ofynion newydd y tu hwnt i'r rhai yn y Ddeddf. Lle bo arferion sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, nodir hyn yn glir yn y canllawiau.

Adran 1: Trosolwg o angladdau iechyd y cyhoedd a'r egwyddorion arweiniol

Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o angladdau iechyd y cyhoedd, y gofynion cyfreithiol a rhai egwyddorion arweiniol y gellir eu defnyddio er mwyn helpu i lywio dulliau gweithredu.

Trosolwg – angladdau iechyd y cyhoedd

Datblygwyd y darpariaethau yn adran 46 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 er mwyn diogelu'r cyhoedd a chyfyngu ar ledaeniad clefydau heintus – eu prif amcan yw diogelu iechyd y cyhoedd.

Caiff angladdau iechyd y cyhoedd eu cynnal a'u hariannu gan awdurdodau lleol (er y gall awdurdodau lleol adennill y costau o ystad yr ymadawedig). Yn achos marwolaethau yn yr ysbyty, cynghorir Ymddiriedolaethau'r GIG i lunio eu polisi eu hunain sy'n ystyried protocol eu hawdurdod lleol, a chydweithio er mwyn sicrhau claddedigaeth neu amlosgiad parchus, a hynny mor effeithlon â phosibl.

Beth yw'r gofynion cyfreithiol ar awdurdodau lleol?

Mae Adran 46 o'r Ddeddf, ‘Burial and Cremation’, yn gwneud y canlynol yn ofynnol:

It shall be the duty of a local authority to cause to be buried or cremated the body of any person who has died or been found dead in their area, in any case where it appears to the authority that no suitable arrangements for the disposal of the body have been or are being made otherwise than by the authority.

Felly, mae awdurdodau lleol, fel y'u diffinnir yn Adran 1 o'r Ddeddf, yn gyfrifol am drefnu claddedigaeth neu amlosgiad ar gyfer person a fu farw neu a gafwyd yn farw yn eu hardal (hyd yn oed os nad yw'n byw yno), os yw'n amlwg na fydd hyn yn digwydd fel arall. Mae gan awdurdodau lleol hefyd gyfrifoldebau os oedd llety'n cael ei ddarparu i'r ymadawedig mewn lleoliad gofal.

Mae'r Ddeddf hefyd yn rhagnodi'r canlynol:

  • Ni ddylid amlosgi'r ymadawedig os oes gan yr awdurdod lleol reswm dros gredu y byddai hynny'n groes i ddymuniadau'r ymadawedig. Felly, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o unrhyw arwyddion o'r dull claddu ac amlosgi a ffefrir gan yr ymadawedig, gan gynnwys unrhyw ofynion a oedd ganddo mewn perthynas â'i grefydd neu ei gred. Ceir rhagor o fanylion yn adran 4.
  • Gall awdurdod lleol adennill, o ystad yr ymadawedig, y costau yr eir iddynt wrth gynnal angladd iechyd y cyhoedd. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhagnodi bod y costau hyn yn adenilladwy fel dyled sifil drwy achos a gychwynnir o fewn tair blynedd ar ôl i'r swm ddod yn ddyledus.  Ceir rhagor o fanylion am adennill costau'r angladd yn adran 6.

Egwyddorion arweiniol

Bydd awdurdod lleol yn mynd ati i fodloni'r gofynion cyfreithiol a nodir isod mewn ffyrdd amrywiol ac ni fydd rhai arferion a ddilynir mewn un awdurdod o reidrwydd yn addas i awdurdod arall gan y bydd amgylchiadau lleol yn dylanwadu ar bolisïau. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r egwyddorion arweiniol canlynol i gefnogi arferion da mewn unrhyw drefniadau lleol, a lluniwyd y ddogfen hon gyda'r egwyddorion hyn mewn golwg.

Sicrhau y caiff y bobl ymadawedig eu trin ag urddas a pharch

Mae sicrhau y caiff y bobl ymadawedig eu trin ag urddas a pharch, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau, o'r pwys mwyaf wrth gynnal angladdau iechyd y cyhoedd. Fel rhan o hyn, mae'n arfer dda i awdurdodau lleol ystyried amgylchiadau personol unigolion (gweler adrannau 4 a 5).

Sicrhewch fod cyn lleied â phosibl o risgiau i iechyd y cyhoedd

Mae angladdau iechyd y cyhoedd yn cyflawni rôl allweddol ym maes iechyd y cyhoedd, ac mae'n bwysig cadw ystyriaethau iechyd y cyhoedd mewn cof pan gaiff cynlluniau eu datblygu. Mae hyn yn cynnwys dilyn canllawiau priodol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England, gan gynnwys ar gyfer COVID-19, gofalu am yr ymadawedig a rheoli angladd yn ystod pandemig y coronafeirws.

Byddwch yn ystyriol o'r galarwyr; ceisiwch ddod o hyd i'r perthynas agosaf a rhoi gwybod iddo am y trefniadau

Lle bynnag y bo modd, cymerwch gamau i ddod o hyd i'r perthynas agosaf. Mae ymgysylltu â pherthnasau agosaf mewn modd sensitif a rhoi gwybod iddynt am y trefniadau yn bwysig iddyn nhw ac yn bwysig er mwyn sicrhau y caiff y bobl ymadawedig eu trin ag urddas a pharch. Ceir rhagor o wybodaeth yn adrannau 3 a 4.

Adenillwch y costau cyn belled ag y bo modd

Lle bynnag y bo modd, mae'n bwysig ceisio adennill costau angladdau iechyd y cyhoedd er mwyn lleihau'r costau i'r trethdalwr cymaint â phosibl. Heblaw am ddyledion sicredig (e.e. morgeisi), costau angladd yw'r arwystl cyntaf ar ystad ac mae Deddf 1984 yn galluogi adennill costau. Ceir rhagor o fanylion yn adran 6.

Byddwch yn dryloyw

Mae'n arfer dda sicrhau bod polisi'r awdurdod lleol ar angladdau iechyd y cyhoedd ar gael i'r cyhoedd ac yn hawdd ei ddarllen, a rhoi gwybodaeth am drefniadau lleol i unrhyw un sy'n gofyn amdani. Ceir rhagor o fanylion yn adran 7.

At ddibenion Adran 46, mae gan awdurdodau lleol yn Lloegr, fel y'u diffinnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 neu, yng Nghymru, Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, hefyd gyfrifoldebau os oedd llety'n cael ei ddarparu i'r ymadawedig o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014 yn Lloegr, neu Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yng Nghymru.

Rolau allweddol: angladdau iechyd y cyhoedd

Sefydliad Rôl
Awdurdodau lleol

Mae dyletswydd arnynt i amlosgi neu gladdu'r ymadawedig yn unol â darpariaethau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Trefnwyr angladdau Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd trefnwyr angladdau'n gweinyddu'r angladd iechyd y cyhoedd ar ran yr awdurdod lleol. Dylai trefnwyr angladdau hysbysu awdurdodau lleol cyn gynted â phosibl os byddant yn credu bod ganddynt rywun yn eu gofal y gall fod angen iddo gael angladd iechyd y cyhoedd, er enghraifft os nad oes perthynas agosaf wedi dod i'r amlwg.
Ymddiriedolaethau'r GIG

Yn achos marwolaethau yn yr ysbyty, dylai Ymddiriedolaethau'r GIG lunio eu polisi eu hunain sy'n ystyried protocol eu hawdurdod lleol, a chydweithio er mwyn sicrhau y cynhelir claddedigaeth neu amlosgiad parchus mor effeithlon â phosibl.

Crwneriaid Byddant yn rhyddhau'r corff i'r perthynas agosaf pan na fydd ei angen arnynt ar gyfer eu hymchwiliad mwyach. Os nad oes perthynas agosaf adnabyddedig neu berson arall a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am waredu'r corff, bydd y crwner yn atgyfeirio'r ymadawedig at yr awdurdod lleol.
Cartrefi gofal a chartrefi nyrsio Byddant yn atgyfeirio'r ymadawedig at yr awdurdod lleol ar gyfer angladd iechyd y cyhoedd os nad oes ganddo berthynas agosaf hysbys. Byddai'n ddefnyddiol hysbysu cartrefi gofal a nyrsio lleol os oes trefnydd angladdau wedi'i gontractio ar gyfer angladdau iechyd y cyhoedd.
Ysgutorion yr ymadawedig Byddant yn gweinyddu'r ystad ac yn gyfrifol am drefnu angladd os oes ewyllys ddilys a dim perthynas agosaf.

Public health funerals – steps in this guidance

It is important that the local authority is notified as soon as possible where there is reason to believe a public health funeral may be required. Notification can be given by the family or a friend of the deceased, nursing or care home, coroner or the police.

The steps taken will then vary depending on the referral route and specifics of the case.

This guidance does not seek to cover all scenarios but includes the main steps that local authorities can take, from the point of notification through to the funeral.

Angladdau iechyd y cyhoedd – camau yn y canllawiau hyn

Mae'n bwysig hysbysu'r awdurdod lleol cyn gynted â phosibl os oes rheswm dros gredu y gall fod angen cynnal angladd iechyd y cyhoedd. Gall teulu neu ffrindiau'r ymadawedig, cartref gofal neu nyrsio, crwner neu'r heddlu wneud hyn.

Wedyn, bydd y camau a gymerir yn amrywio yn dibynnu ar y llwybr atgyfeirio a manylion penodol yr achos.

Nid yw'r canllawiau hyn yn ceisio cwmpasu pob senario ond maent yn cynnwys y prif gamau y gall awdurdodau lleol eu cymryd, o'r adeg hysbysu tan yr angladd ei hun

Image
Public health funerals decision process

Adran 2. Gwneud ymdrech resymol i ddod o hyd i'r perthynas agosaf

Mae'r adran hon yn nodi'r camau y gall awdurdod lleol eu cymryd i ddod o hyd i berthynas agosaf yr ymadawedig os nad yw'n hysbys.

Beth yw'r gofynion cyfreithiol ar awdurdodau lleol?

Nid oes gofyniad cyfreithiol i ddod o hyd i'r perthynas agosaf, ond mae'n arfer dda ceisio gwneud hynny er mwyn rhoi gwybod i deulu'r ymadawedig bod eu perthynas wedi marw, a rhoi'r opsiwn i deuluoedd drefnu'r angladd eu hunain petaent yn dymuno gwneud hynny.

Gall y perthynas agosaf hefyd gyflawni rôl bwysig wrth roi gwybod i'r awdurdodau am ddymuniadau personol yr ymadawedig, gan gynnwys unrhyw ofynion a oedd ganddo mewn perthynas â'i grefydd neu ei gredoau, a all helpu i benderfynu ai claddedigaeth neu amlosgiad fyddai fwyaf priodol.

Pa gamau y gellir eu cymryd i ddod o hyd i'r perthynas agosaf?

Mae dulliau gwahanol ar gael i awdurdodau lleol ddod o hyd i deulu'r ymadawedig – mae'r rhain wedi'u nodi isod, ond bydd y dull penodol a ddefnyddir yn dibynnu ar yr amgylchiadau lleol a phob achos unigol.

Chwilio drwy gofnodion lleol

Mae chwilio drwy unrhyw gofnodion a ddelir gan yr awdurdod lleol neu gan sefydliadau lleol eraill am yr ymadawedig yn gam cyntaf defnyddiol er mwyn dod o hyd i'r perthynas agosaf. Gall y rhain gynnwys unrhyw gofnodion a ddelir yn lleol, er enghraifft:

  • Cofnodion meddygol sydd gan ysbytai neu feddyg teulu'r ymadawedig
  • Cofnodion tai – gwasanaethau tai, y Gofrestrfa Tir
  • Gwasanaethau cymdeithasol
  • Cartref gofal neu nyrsio (os yw'n berthnasol)
  • Manylion geni / priodi gan swyddfa'r cofrestrydd
  • Y Dreth Gyngor
  • Y gofrestr etholwyr
  • Cofrestri mynwentydd ac amlosgfeydd
  • Cyfeiriadur ffôn lleol
  • Cofrestri unigolion coll

Os bu farw'r ymadawedig yn lleol ond gwyddys iddo fyw mewn ardal arall, gellir gwneud cais i'r awdurdod lleol perthnasol am unrhyw gofnodion.

Nid ystyrir bod data sy'n ymwneud â'r ymadawedig yn ddata personol o dan ddeddfwriaeth diogelu data.  Fodd bynnag, ystyrir bod data sy'n ymwneud ag unrhyw unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy, fel perthynas agosaf, yn ddata personol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.  Rhaid i awdurdodau lleol ac unrhyw sefydliadau eraill sy'n rhan o chwiliadau, neu weithgareddau eraill lle y caiff data personol eu prosesu at y dibenion a ddisgrifir yn y canllawiau hyn, sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018.

Siarad â ffrindiau neu gydnabod yr ymadawedig

Mae'n bosibl y gall unrhyw ffrindiau, cydnabod neu gymdogion hysbys i'r ymadawedig hefyd helpu drwy roi manylion am y perthynas agosaf.

Chwilio am ddogfennau neu gofnodion yn eiddo neu breswylfa'r ymadawedig

Dan rai amgylchiadau, gall fod angen i awdurdodau lleol fynd i mewn i eiddo neu breswylfa'r ymadawedig, a all hefyd fod yn ddefnyddiol o ran dod o hyd i wybodaeth am y perthynas agosaf, canfod a oes ewyllys (os felly, byddai disgwyl i'r ysgutor wneud y trefniadau ar gyfer yr angladd), neu ddod o hyd i unrhyw wybodaeth arall a all helpu i lywio trefniadau'r angladd.

Bydd y ffordd yr eir ati i gael mynediad i'r eiddo a'r pwerau mynediad yn dibynnu ar natur yr achos. Dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod wedi cael cyngor cyfreithiol a'u bod yn glir ynghylch eu rhesymau dros gael mynediad wrth fynd i mewn i unrhyw eiddo.

Mae'n arfer dda cynnal unrhyw chwiliadau mewn parau a datblygu polisi chwilio lleol sy'n nodi protocolau ar gyfer mynd i mewn i'r eiddo a'i chwilio'n ddiogel, gan gynnwys trefniadau lleol ar gyfer symud a storio unrhyw eitemau a chadw cofnodion.

Wrth fynd i mewn i eiddo a'i chwilio, mae'n bwysig trin meddiannau'r ymadawedig â pharch. Ymhlith y dogfennau y byddai'n ddefnyddiol chwilio amdanynt mae llythyrau, cadarnhad o apwyntiadau, pasbortau, llyfrau cyfeiriadau, biliau, ewyllys neu ddogfennau swyddogol eraill, megis tystysgrifau geni neu briodas.

Bydd awdurdodau lleol ac eraill sy'n mynd i mewn i eiddo am sicrhau y caiff gweithdrefnau priodol eu dilyn wrth fynd i mewn i unrhyw leoedd lle y gallant gael eu heintio â COVID-19, yn unol â'r canllawiau ar ofalu am yr ymadawedig yn ystod COVID-19.

Ymchwil ar-lein

Ymhlith yr adnoddau defnyddiol y gall awdurdodau lleol gyfeirio atynt wrth geisio dod o hyd i'r perthynas agosaf mae canllawiau gan yr Archifau Gwladol ar olrhain pobl fyw, gwefannau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau cadw dogfennau personol. 

Defnyddio achrestrydd

Bydd rhai awdurdodau lleol yn dewis defnyddio gwasanaethau achrestrydd neu ymchwilydd proffesiynol. Os byddwch yn defnyddio achrestrydd, mae'n bwysig arfer diwydrwydd dyladwy er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn fodlon ar y darparwr.

Cysylltu ag unrhyw grŵp, cymuned neu sefydliad crefydd neu gred perthnasol

Os oedd credoau'r ymadawedig yn hysbys a'i fod yn rhan o gymuned neu grŵp cysylltiedig, mae'n bosibl y gall grwpiau lleol gefnogi ymdrechion i ddod o hyd i'r perthynas agosaf. Mae'n fuddiol sefydlu perthynas waith â grwpiau lleol; gallant roi cymorth a chyngor ac, mewn rhai achosion, gallant gymryd y cyfrifoldeb am gynnal yr angladd oddi ar yr awdurdod lleol. Dylid dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar reoli angladd yn ystod pandemig COVID-19 yn ystod COVID-19.

Trefniadau ar gyfer plant mewn gofal

Pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal, bydd cyfrifoldeb a dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ofalu am y plentyn, ei ddiogelu, hybu ei les a dod yn ‘rhiant corfforaethol’ iddo. Os, yn anffodus, mai plentyn neu rywun dan oed yw'r unig berthynas agosaf hysbys, mae'n arfer dda ymgynghori â'r plentyn a'r gweithiwr cymdeithasol er mwyn sicrhau bod rhwydwaith cefnogi sy'n ymwybodol o'r sefyllfa ac sy'n gallu helpu'r plentyn, a thrafod trefniadau'r angladd os yw hynny'n briodol.

Os bydd plentyn yn marw mewn gofal, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol, fel y ‘rhiant corfforaethol’ fydd trefnu'r angladd a thalu costau'r angladd. Mae'n arfer dda ceisio dod o hyd i'r perthynas agosaf, yn ogystal ag ymgynghori â gweithiwr cymdeithasol a rhwydwaith cefnogi'r plentyn mewn perthynas â threfniadau'r angladd.

Beth sy'n gyfystyr ag ymdrech ‘resymol’?

Er ei bod yn arfer dda dod o hyd i'r perthynas agosaf, nid oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny, ac felly bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu a ddylid gwneud hyn ac, os felly, faint o amser ac adnoddau i'w buddsoddi ar sail natur yr achos a'r sefyllfa yn lleol. Awgrymir y dylai awdurdodau lleol bennu terfyn amser targed ar gyfer dod o hyd i'r perthynas agosaf a'i gynnwys mewn unrhyw bolisi ysgrifenedig ar angladdau iechyd y cyhoedd.

Mae'n bwysig cadw cofnodion o unrhyw gamau a gymerir a'r sail resymegol dros unrhyw benderfyniadau a wneir, hyd yn oed os penderfynir peidio â chwilio am y perthynas agosaf. Mewn rhai achosion, gall y perthynas agosaf gysylltu ag awdurdod lleol flynyddoedd yn ddiweddarach i holi am yr ymadawedig (gweler adran 7).

Adran 3. Sgyrsiau â'r perthynas agosaf – eu hopsiynau

Mae'r adran hon yn trafod yr opsiynau sydd ar gael i'r perthynas agosaf cyn cytuno i gynnal angladd iechyd y cyhoedd, os yw'n fodlon ac yn gallu trafod trefniadau angladd yr ymadawedig.

Mewn unrhyw sgyrsiau â'r perthynas agosaf, mae'n bwysig rhoi gwybod iddo am yr opsiynau sydd ar gael iddo a'r hyn y bydd angladd iechyd y cyhoedd yn ei olygu – ni fwriedir iddynt fod yn fudd-dal lles nac yn ddewis amgen am ddim yn lle trefniadau angladd preifat.

Opsiynau'r perthynas agosaf

Mae'n arfer dda annog y perthynas agosaf i ystyried yr opsiynau sydd gael i'w alluogi i drefnu'r angladd ei hun. Lle y bo modd, gallai hyn gynnwys helpu pobl i ddefnyddio cynlluniau cymorth ariannol (gweler y blwch isod) ac opsiynau rhatach.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd trefniadau'r awdurdod lleol ar gyfer angladdau iechyd y cyhoedd wedi'u safoni ac felly bydd angladd preifat yn rhoi ymreolaeth i deulu'r ymadawedig dros drefniadau'r angladd mewn ffordd na fydd yn bosibl yn achos angladd iechyd y cyhoedd.

Senario 1: Perthynas agosaf yn trefnu'r angladd ac yn talu amdano

Os bydd y perthynas agosaf yn fodlon ac yn gallu talu am yr angladd, gall yr awdurdod lleol drosglwyddo cyfrifoldeb am yr ymadawedig i'r perthynas agosaf er mwyn iddo wneud ei drefniadau ei hun. Ni fydd gan yr awdurdod lleol gyfrifoldebau statudol am gladdu neu amlosgi'r ymadawedig mwyach, ac ni fydd yn ymwneud â'r achos ar ôl hyn, fwy na thebyg.

Mae'n arfer dda cael cytundeb ysgrifenedig ffurfiol gan y perthynas agosaf y bydd yn cymryd cyfrifoldeb am yr angladd.

Hefyd, efallai y bydd awdurdodau lleol am dynnu sylw'r perthynas agosaf at ganllawiau ‘What to do when someone dies’ ar GOV.UK, a rhoi gwybod i'r sawl a atgyfeiriodd yr ymadawedig bod yr achos wedi cael ei drosglwyddo i'r perthynas agosaf (neu ffrind neu berthynas arall).

Senario 2: Mae'r perthynas agosaf yn fodlon trefnu'r angladd, ond ni all fforddio'r costau disgwyliedig

Mewn rhai achosion, bydd y perthynas agosaf yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am drefnu'r angladd, ond efallai na fydd yn teimlo y gall dalu amdano.  Lle bo cost yn broblem, gellir trafod amrywiaeth o opsiynau â'r perthynas agosaf i gael cyllid neu weithio o fewn cyllideb gyfyngedig:

  • Cynlluniau cymorth ariannol a ddarperir gan y llywodraeth neu'r awdurdod lleol – ceir rhagor o fanylion yn y blwch isod. Mewn rhai achosion, gall hefyd fod yn fuddiol cefnogi'r perthynas agosaf wrth iddo wneud cais am gymorth drwy'r cynlluniau isod.
  • Cyllid gan elusennau: Mae rhai elusennau'n cynnig cyllid i deuluoedd pobl ymadawedig er mwyn helpu i dalu costau angladd, er enghraifft cymdeithasau buddiannol.
  • Opsiynau rhatach ar gyfer trefnu angladd: Mae llawer o drefnwyr angladdau'n cynnig pecyn angladd ‘syml’ neu ‘sylfaenol’ sy'n cynnwys nodweddion hanfodol angladd ond am bris rhatach na'r opsiynau eraill.  Os yw'r awdurdod lleol yn cynnig opsiynau amlosgi neu gladdu fforddiadwy, gellir eu trafod.
  • Rhannu'r costau â pherthnasau eraill neu ffrindiau'r ymadawedig.

Os oedd credoau'r ymadawedig yn hysbys a'i fod yn rhan o gymuned neu grŵp cysylltiedig, mae'n bosibl, mewn rhai achosion, y gall y grŵp helpu i drefnu ac ariannu'r angladd.

Cynlluniau cymorth ariannol

Cynllun cymorth ariannol Disgrifiad

Taliad Costau Angladd

Mae Taliad Costau Angladd yn helpu pobl sy'n derbyn budd-daliadau cymwys i dalu costau trefnu angladd.  Gellir ei ddefnyddio i dalu costau, gan gynnwys prynu bedd; ffioedd claddu neu amlosgi angenrheidiol; a chostau teithio'r ymgeisydd ar gyfer trefnu'r angladd a mynd iddo.  Gall hefyd dalu costau eraill angladd, fel yr arch neu ffioedd trefnydd angladdau, hyd at uchafswm o £1000. Mae manylion llawn am gymhwysedd a sut i gael Taliad Costau Angladd i'w gweld ar GOV.UK.

Taliad Cymorth Profedigaeth

Budd-dal cyfrannol sy'n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol y person ymadawedig yw'r Taliad Cymorth Profedigaeth,. Mae'n rhoi cymorth ariannol yn y tymor byr er mwyn helpu i dalu'r costau cychwynnol sy'n gysylltiedig â phrofedigaeth. Mae ar gael i helpu pobl o oedran gweithio sy'n colli priod neu bartner sifil drwy'r cyfnod cychwynnol yn dilyn profedigaeth. Ceir rhagor o fanylion yn GOV.UK.

Cronfa Angladdau Plant Lloegr

Gall awdurdodau claddu ac amlosgi wneud cais i Gronfa Angladdau Plant Lloegr am ad-dalu'r ffioedd a fyddai fel arall yn cael eu codi ar deulu'r ymadawedig am gladdu neu amlosgi plentyn o dan 18 oed, neu faban marwanedig ar ôl 24ain wythnos beichiogrwydd, yn Lloegr. Mae cyllid ar gael ni waeth beth fo incwm teulu'r ymadawedig. Mae'r Gronfa hefyd yn darparu i drefnwyr angladdau neu'r sawl sy'n trefnu'r angladd wneud cais am ad-daliad o'r costau cysylltiedig penodol. Ceir rhagor o fanylion yn GOV.UK.

Cronfeydd caledi awdurdodau lleol

Mae gan rai awdurdodau lleol gronfeydd caledi y gellir eu defnyddio i dalu costau, gan gynnwys costau angladdau, yn dilyn profedigaeth.

Senario 3: Angladd iechyd y cyhoedd

Os na all y perthynas agosaf fforddio costau angladd, neu os yw'n anfodlon neu'n methu gwneud trefniadau o'r fath, bydd angen i'r awdurdod lleol drefnu angladd iechyd y cyhoedd.

Mae'n hanfodol rhoi gwybod i'r perthynas agosaf beth fydd angladd iechyd y cyhoedd yn ei olygu o dan drefniadau safonedig yr awdurdod lleol a'i fod yn deall beth fydd hyn yn ei olygu iddo ef. Yn benodol, mae'n bwysig sicrhau bod y perthynas agosaf yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Y bydd dewis angladd iechyd y cyhoedd yn golygu ei fod yn ildio'r cyfrifoldeb am yr angladd, ac felly reolaeth drosto, i'r awdurdod lleol Cynghorir y dylai'r perthynas agosaf lofnodi ffurflen gydsynio yn cadarnhau ei fod yn deall y pwynt hwn.
  • Trefniadau lleol yr angladd. Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys rhyw lefel o bersonoli (os caiff hynny ei gynnig – gweler adran 5) ond, yn y pen draw, yr awdurdod lleol, yn hytrach na'r perthynas agosaf, fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am gynnwys a ffurf yr angladd. 
  • Unrhyw drefniadau yn dilyn yr angladd, er enghraifft mewn perthynas â chasglu'r llwch neu'r hyn a ddarperir o ran coffau.
  • Mae gan yr awdurdod lleol hawl statudol i adennill cost yr angladd o ystad yr ymadawedig (ond nid oddi wrth y perthynas agosaf). Gweler adran 6 ar adennill costau.

Adran 4. Cadarnhau dymuniadau'r ymadawedig

Mae'r adran hon yn trafod y camau y gall awdurdod lleol eu cymryd i gael gwybod ai claddu neu amlosgi a ffefrir gan yr ymadawedig, gan gynnwys unrhyw ofynion a oedd ganddo mewn perthynas â'i grefydd neu ei gred.  Gall hyn helpu i sicrhau na fydd yr ymadawedig yn cael angladd sy'n groes i'w ddymuniadau hysbys a gellir defnyddio hyn i lywio unrhyw ofynion eraill mewn perthynas â chrefydd neu gred ar gyfer yr angladd, lle y gellir darparu ar gyfer y rhain yn lleol.

Beth yw'r gofynion cyfreithiol ar awdurdodau lleol?

Mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i beidio ag amlosgi corff os oes ganddynt reswm dros gredu y byddai hynny'n groes i ddymuniadau'r ymadawedig.

Y tu hwnt i'r dull claddu neu amlosgi, nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol fodloni unrhyw ofynion a oedd gan yr ymadawedig o bosibl mewn perthynas â'i grefydd a'i gred, ond efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn dewis adlewyrchu'r rhain yn eu trefniadau ar gyfer angladd iechyd y cyhoedd.

Opsiynau ar gyfer cadarnhau dymuniadau'r ymadawedig

Mae p'un a ddylid claddu neu amlosgi'r ymadawedig o'r pwys mwyaf i lawer o bobl, gan gynnwys y rhai sydd â chrefyddau neu gredoau penodol. Lle y bo modd, mae'n arfer dda i awdurdodau lleol wneud ymdrech resymol i gadarnhau dymuniadau'r ymadawedig, gan gynnwys unrhyw ofynion a oedd ganddo mewn perthynas â'i grefydd neu ei gred cyn ei gladdu neu ei amlosgi, os nad yw'r rhain eisoes yn hysbys.

Ymhlith yr opsiynau sydd ar gael i awdurdodau lleol a all eu helpu i gadarnhau dymuniadau olaf yr ymadawedig mae:

  • Trafod dymuniadau'r ymadawedig â'r perthynas agosaf, teulu agos neu ffrindiau.
  • Ymgysylltu â grwpiau cred crefyddol neu anghrefyddol lleol. Mewn rhai achosion gall grwpiau lleol gymryd cyfrifoldeb am gynnal yr angladd oddi ar yr awdurdod lleol.
  • Edrych ar gyfryngau cymdeithasol yr ymadawedig, lle y gall fod wedi mynegi ei ddymuniadau neu ei gredoau.
  • Edrych ar gofnodion ysbyty.
  • Chwilio am unrhyw arwydd o ddymuniadau, crefydd neu gredoau'r unigolyn wrth chwilio drwy eiddo'r ymadawedig (gweler adran 2 a 6).
  • Edrych ar gofnodion claddu'r awdurdod lleol i weld a oedd yr ymadawedig yn berchen ar hawliau claddu mewn mynwent leol.
  • Edrych ar gofnodion amlosgi'r awdurdod lleol i weld a fu'r ymadawedig yn Ymgeisydd am Amlosgiad ar ran unrhyw aelod arall o'r teulu.
  • Manylion mewn unrhyw ewyllys a thestament olaf y gall yr ymadawedig fod wedi'i gwneud (os yw'r ysgutor wedi ildio ei rôl yn ffurfiol). 

Ymgorffori dymuniadau'r ymadawedig

Os yw'n hysbys mai dymuniad yr ymadawedig oedd cael ei gladdu yn hytrach na'i amlosgi, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff ei gladdu. Mae hefyd yn bwysig darparu ar gyfer unrhyw ddewisiadau sy'n hysbys ar gyfer amlosgi. 

Mae'n arfer dda ystyried unrhyw ddewisiadau personol ar gyfer agweddau eraill ar y broses gladdu neu amlosgi, gan gynnwys unrhyw ofynion a oedd gan yr ymadawedig mewn perthynas â'i grefydd neu ei gredoau. Fodd bynnag, er eu bod yn bwysig, bydd angen taro cydbwysedd rhwng yr ystyriaethau hyn a ffactorau lleol fel cost, adnoddau a gofynion gweithredol.

Ymhlith yr enghreifftiau o ymgorffori dymuniadau'r ymadawedig, gan gynnwys gofynion a oedd ganddo mewn perthynas â'i grefydd neu ei gred mae:

  • Defodau cyn claddu neu amlosgi, fel golchi neu amwisgo corff. Mae'n bosibl y gall cynrychiolydd ffydd lleol helpu i wneud y trefniadau angenrheidiol. Mae'r canllawiau ar ofalu am yr ymadawedig yn ystod COVID-19 yn cynnwys canllawiau ar arferion ffydd a chred sy'n golygu dod i gysylltiad agos â'r ymadawedig.
  • Ymgynghori â chynrychiolydd neu weinydd o grŵp crefydd neu gred yr ymadawedig a gofyn iddo fod yn bresennol yn yr angladd. Mae'n fuddiol sefydlu perthynas waith â grwpiau lleol.
  • Claddu'r ymadawedig neu gladdu llwch a amlosgwyd yn y rhan briodol o dir claddu neu fynwent benodedig, neu daenu llwch yn seiliedig ar ddymuniadau personol yr ymadawedig, gan gynnwys unrhyw ofynion a oedd ganddo mewn perthynas â'i grefydd neu ei gredoau.

Os nad yw dymuniadau'r ymadawedig yn hysbys

Os na all awdurdodau lleol gadarnhau dymuniadau'r ymadawedig ac nad oes dewis hysbys, gall yr awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau yn unol â'i arferion safonol.

Adran 5: Arferion da ar gyfer angladdau

Mae'r adran hon yn nodi arferion da a awgrymir ar gyfer angladdau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys unrhyw wasanaeth sy'n cynnal angladdau o'r fath. Ni waeth pa drefniadau sydd ar waith – boed yn seremoni angladd lawn neu'n amlosgiad neu gladdedigaeth uniongyrchol (lle na chynhelir gwasanaeth) – mae'n bwysig y caiff y trefniadau eu gwneud â gofal a pharch.

Beth yw'r gofynion cyfreithiol ar awdurdodau lleol?

Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer y gladdedigaeth neu'r amlosgiad ac ni chaiff amlosgi'r unigolyn os oes rheswm dros gredu nad yw hyn yn cyd-fynd â dymuniadau'r ymadawedig. Fodd bynnag, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am benderfynu ar y ffordd y bydd yn cyflawni'r ddyletswydd i gynnal y gladdedigaeth neu'r amlosgiad, a'r trefniadau cysylltiedig – nid oes gofyniad i gynnal gwasanaeth angladd, er y bydd rhai'n gwneud hynny.

Arferion da ar gyfer seremonïau

Bydd rhai awdurdodau lleol yn cynnig seremoni syml ar gyfer angladd yr ymadawedig. Os cynigir seremoni, mae'n bwysig i awdurdodau lleol roi gwybod i'r perthynas agosaf pryd a ble y caiff ei chynnal, a hynny mewn da bryd cyn yr angladd. Efallai y byddant hefyd am wneud y canlynol:

  • cynnal angladd sy'n agored i bawb ac, os bydd yr adnoddau'n caniatáu, rhoi hysbysiad yn y papur newydd lleol neu ar wefan yr awdurdod lleol yn nodi manylion yr amser a'r lleoliad – yn enwedig os nad oes gan yr ymadawedig berthynas agosaf. Gall hyn helpu i sicrhau y bydd unrhyw ffrindiau neu gydnabod sydd am fod yn bresennol yn ymwybodol o'r trefniadau. Tra bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol COVID-19 ar waith, dylid dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar reoli angladd yn ystod pandemig COVID-19
  • cynnal seremoni syml yn unol â chredoau crefyddol neu anghrefyddol yr ymadawedig, os ydynt yn hysbys, neu unrhyw amgylchiadau personol perthnasol – er enghraifft, trefnu bod un o gynrychiolwyr neu weinyddwyr grŵp crefydd neu gred yr ymadawedig yn bresennol ac yn helpu i gynghori ar unrhyw ofynion ffydd, neu drwy gynnwys defodau eraill fel y rhai ar gyfer cyn-filwyr, lle y byddai'n rhesymol darparu ar gyfer y rhain.
  • caniatáu i'r perthynas agosaf, ffrindiau neu berthnasau eraill ddewis cerddoriaeth neu ddarlleniad, lle y gellir darparu ar gyfer hyn heb fynd i gost ychwanegol.

Mae'n bwysig bod yr holl gostau yr eir iddynt yn rhesymol (gweler adran 7) ac felly ni chynghorir yr awdurdod lleol i gynnwys pethau ychwanegol fel cludiant i'r seremoni ar gyfer y perthynas agosaf, blodau, gwylnos neu ddigwyddiad coffa pellach.

Arferion da ar ôl y seremoni

Amlosgiadau

Awgrymir y dylai'r awdurdod lleol bennu terfyn amser ar gyfer cadw llwch yr ymadawedig er mwyn i'r perthynas agosaf (neu ffrind neu berthynas arall) ei hawlio os yw'n dymuno. Mae'n ddefnyddiol cynnwys yr wybodaeth hon mewn unrhyw bolisi ysgrifenedig ar angladdau iechyd y cyhoedd, a sicrhau y rhoddir gwybod i'r perthynas agosaf.

Bydd rhai awdurdodau lleol yn codi tâl am gasglu'r llwch. Mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gweithredu mewn modd sensitif a didwyll, a dylai unrhyw ffi a godir dalu'r costau yn unig, er enghraifft talu am yr wrn neu'r blwch.

Os na fydd neb yn hawlio'r llwch yn ystod y cyfnod penodedig, yna gall awdurdodau lleol wneud eu trefniadau eu hunain, er enghraifft taenu'r llwch yng ngardd goffa'r awdurdod lleol neu mewn lle cyfatebol. Mae'n arfer dda rhoi gwybod i'r perthynas agosaf am y penderfyniad hwn, ac ystyried unrhyw ddymuniadau hysbys a oedd gan yr ymadawedig lle y bo modd. Cynghorir y dylid cadw cofnodion am y trefniadau a wneir, fel y nodir yn adran 7.

Claddedigaethau

Nid yw'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu carreg fedd ar gyfer claddedigaethau, y tu hwnt i unrhyw lechen neu arwydd a ddarperir yn lleol i nodi'r bedd. Efallai y bydd awdurdodau lleol am ganiatáu i'r perthynas agosaf osod eitemau coffa bach neu wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer carreg fedd, lle y gellir darparu ar gyfer y rhain yn lleol.  

Lle y bo modd, mae'n arfer dda cynnal claddedigaeth yn unol ag unrhyw ddymuniadau hysbys a oedd gan yr ymadawedig, gan gynnwys unrhyw ofynion a oedd ganddo mewn perthynas â'i grefydd neu ei gred.

Costau rhesymol

Cynghorir awdurdodau lleol i sicrhau mai'r trefniadau mwyaf costeffeithiol sy'n cynnig y gwerth mwyaf am arian yw'r holl rai a wneir ar gyfer angladdau, a'u bod yn cynnal urddas yr ymadawedig a'r galarwyr ar yr un pryd.

Adran 6: Adennill costau

Mae'r adran hon yn nodi hawliau awdurdodau lleol mewn perthynas ag adennill costau angladd iechyd y cyhoedd, a chanllawiau ar adennill y costau hynny. Mae'n bwysig adennill costau lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o gostau i'r awdurdod lleol ac, yn y pen draw, i'r trethdalwr.

Ariannu angladd iechyd y cyhoedd

Gellir adennill costau angladd iechyd y cyhoedd o ystad yr ymadawedig. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae'n bosibl na fydd gan yr ymadawedig ystad y gellir adennill costau ohoni, gan olygu y bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol dalu holl gostau'r angladd.

O'r adeg y caiff person ymadawedig ei atgyfeirio at yr awdurdod lleol ar gyfer angladd iechyd y cyhoedd posibl, mae'n bwysig cadw cofnodion sy'n cynnwys manylion yr holl gostau yr eir iddynt, a'r holl weithgarwch y gellir pennu ei werth a'i hawlio, e.e. defnyddio adnoddau ac amser staff awdurdod lleol.

Hawl gyfreithiol awdurdodau lleol i adennill costau

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn rhoi hawl gyfreithiol i'r awdurdod lleol adennill cost angladd iechyd y cyhoedd o ystad yr ymadawedig. O dan y Ddeddf, gellir hawlio'r costau fel dyled sifil, ar yr amod y caiff achos ei gychwyn o fewn tair blynedd ar ôl i'r swm ddod yn ddyledus (dyddiad yr angladd).

Nid yw awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli ystad yr ymadawedig, y tu hwnt i'w hawl i adennill costau angladd.

Beth sy'n gyfystyr â chostau cymwys?

Mae gan awdurdodau lleol hawl i adennill ‘costau yr eir iddynt’ wrth gynnal angladd yr ymadawedig, ac mae'n bwysig bod yr holl gostau yn rhesymol. Ni all awdurdodau lleol hawlio arian ychwanegol i draws-gymorthdalu costau angladdau eraill.  Gall costau gynnwys unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'r gladdedigaeth neu'r amlosgiad, yn ogystal â chostau ategol rhesymol. Er enghraifft:

  • cost yr angladd gan gynnwys ffioedd claddu/amlosgi;
  • yr amser a dreulir yn cofrestru marwolaeth;
  • yr amser a dreulir yn trefnu angladd;
  • costau gweinyddol cyffredinol;
  • ffioedd trefnydd angladdau – mewn rhai achosion bydd angen cyfrifo cost addas fesul uned, er enghraifft os yw'r trefnydd angladdau'n gweithio ar sail contract blynyddol.

Adennill costau ac ystad yr ymadawedig

Er bod gan awdurdodau lleol hawl i adennill costau, nid oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny, ac felly bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu ar y lefel briodol o weithgarwch ar gyfer ceisio adennill unrhyw gostau, yn seiliedig ar amgylchiadau'r achos.

Bydd y broses ar gyfer adennill costau yn dibynnu ar werth ystad yr ymadawedig. Gall dogfennau o fewn eiddo'r ymadawedig helpu drwy gynnwys gwybodaeth am yr ystad, er enghraifft cyfriflenni banc. Fel y nodir yn adran 2, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol, wrth chwilio unrhyw eiddo, yn sicrhau eu bod yn fodlon, ar sail cyngor cyfreithiol, fod ganddynt reswm dros gael mynediad iddo. Mae'n arfer dda rhoi polisi chwilio lleol ar waith sy'n nodi sut y caiff y chwiliadau eu cynnal yn ddiogel, a sut y caiff meddiannau ac unrhyw arian parod y deuir o hyd iddynt yn yr eiddo eu storio.

Costau angladd yw'r arwystl cyntaf ar yr ystad a rhoddir blaenoriaeth iddynt dros rwymedigaethau eraill ac eithrio dyledion sicredig (e.e. morgeisi), a gall awdurdodau lleol gysylltu â banciau neu ddeiliaid asedau eraill i glirio cyfrif yr angladd neu geisio ad-daliad amdano. Mae gan lawer o fanciau a chymdeithasau adeiladu dimau profedigaeth penodedig a all helpu gyda'r broses hon, a bydd rhai'n darparu gwasanaeth mewn canghennau lleol, lle y caiff yr arian ei ryddhau ar ôl i'r gwaith papur perthnasol gael ei gyflwyno, fel copi o'r dystysgrif farwolaeth a phrawf o daliadau cymwys.

Bona Vacantia

Mae Is-adran Bona Vacantia Adran Gyfreithiol Llywodraeth y DU yn gweinyddu ystadau solfent pobl a oedd yn byw yng Nghymru neu Loegr sydd, yn ôl pob golwg, wedi marw heb adael ewyllys ddilys na pherthnasau sydd â hawl i ran o'u hystad â blaenoriaeth dros y Goron. Os bydd awdurdodau lleol yn credu bod hyn yn wir, dylai achosion gael eu hatgyfeirio cyn gynted â phosibl.

Ar ôl i atgyfeiriad ystad gael ei dderbyn a'i hysbysebu ar ei gwefan am tua 90 diwrnod, ac os na fydd perthnasau sydd â hawl wedi dod i'r amlwg, bydd Bona Vacantia wedyn yn gallu cael anfonebau yn nodi dadansoddiad o unrhyw gostau angladd a chostau gweinyddol, ynghyd â chadarnhad os yw unrhyw rai o'r rhain eisoes wedi cael eu clirio, er enghraifft gan y banc.

Mae canllawiau ar atgyfeirio ystadau, ac ar bwy sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ystad lle nad yw'r ymadawedig wedi gadael ewyllys, ar gael ar GOV.UK. Hefyd, gall awdurdodau lleol gysylltu â Bona Vacantia i drafod a ddylent atgyfeirio ystad benodol.

Ystadau ansolfent

Ni all Bona Vacantia ddelio ag unrhyw ystad yr ystyrir ei bod yn ansolfent, gan gynnwys unrhyw ystad sy'n werth llai na £500 ar ôl i'r rhwymedigaethau gael eu talu. Yn y senario hwn, gall awdurdodau lleol geisio adennill costau drwy'r banc neu'r gymdeithas adeiladu berthnasol, neu drwy unrhyw asedau a oedd gan yr ymadawedig.

Os daw ewyllys neu ystad i'r amlwg ar ôl yr angladd

Yn yr achosion hyn, gall awdurdodau lleol geisio adennill y costau sy'n gysylltiedig â chynnal yr angladd drwy weinyddwr yr ystad.

Adran 7: Ystyriaethau gweinyddol

Mae'r adran hon yn nodi materion gweinyddol y bydd awdurdodau lleol am eu hystyried o bosibl wrth lunio unrhyw bolisïau neu drefniadau ar gyfer angladdau iechyd y cyhoedd a'u rhoi ar waith.

Polisi ysgrifenedig ar angladdau iechyd y cyhoedd

Mae'n ddefnyddiol llunio polisi ysgrifenedig ar angladdau iechyd y cyhoedd y gellir ei rannu'n gyhoeddus ar wefan yr awdurdod lleol. Efallai y bydd awdurdodau lleol am ystyried sicrhau bod yr wybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, er mwyn i bob grŵp allu cael gafael arni, er enghraifft unigolion nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, a Braille ar gyfer unigolion sy'n ddall neu'n rhannol ddall.

Mae'n arfer dda adolygu'r polisi bob blwyddyn, ond gallai fod yn briodol ei adolygu'n fwy rheolaidd yn unol ag amgylchiadau lleol, neu os bydd pandemig neu risg sylweddol i iechyd y cyhoedd.

Mewn unrhyw bolisi, mae'n ddefnyddiol cynnwys y canlynol:

  • Esboniad o'r amgylchiadau ar gyfer cynnig angladd.
  • Sut i hysbysu'r awdurdod lleol am farwolaeth y gall fod angen cynnal angladd iechyd y cyhoedd ar ei chyfer, gan gynnwys manylion cyswllt.
  • Trefniadau lleol ar gyfer claddedigaeth neu amlosgiad iechyd y cyhoedd a nodweddion unrhyw wasanaeth (os caiff ei gynnig) – gan gynnwys y ffordd yr ymdrinnir ag unrhyw ystyriaethau mewn perthynas â chrefydd neu gred. Gall fod yn ddefnyddiol ymgynghori â sefydliadau ffydd lleol fel rhan o'r broses hon.
  • Yr amserlenni ar gyfer pob cam o'r broses, o roi gwybod am yr angen posibl am angladd iechyd y cyhoedd i'r claddu neu amlosgi ac unrhyw drefniadau ar ôl yr angladd (gweler isod).
  • Yr hyn nad yw'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdano ac na chaiff ei gynnwys mewn unrhyw drefniadau. 
  • Manylion unrhyw drefniadau i ysbytai – dylai Ymddiriedolaethau'r GIG lunio eu polisi eu hunain sy'n ystyried protocol eu hawdurdod lleol, a chydweithio er mwyn sicrhau claddedigaeth neu amlosgiad parchus, a hynny mor effeithlon â phosibl.

Fel rhan o'r gwaith hwn, gall fod yn ddefnyddiol datblygu llythyrau safonedig ar gyfer prosesau gwahanol (er enghraifft, i ofyn am benderfyniad terfynol gan y perthynas agosaf), neu ffurflenni (er enghraifft, i gael cydsyniad y perthynas agosaf).

Amserlenni

Wrth lunio unrhyw bolisi ar angladdau iechyd y cyhoedd, mae'n ddefnyddiol cynnwys amserlenni targed ar gyfer pob cam yn y broses er mwyn helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd, sicrhau y caiff yr ymadawedig ei drin ag urddas, a rhoi eglurder i'r perthynas agosaf.

Bydd angen i'r amserlenni ar gyfer pob cam o'r broses gael eu pennu gan yr awdurdod lleol unigol yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a'r amgylchiadau lleol. Mae'n bwysig bod unrhyw amserlenni cyn angladd yn ystyried canllawiau gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol ar storio cyrff. Mae'r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn cynghori y dylai cyrff gael eu symud i storfa rewedig ar ôl 30 diwrnod mewn storfa reweiddiedig os nad oes arwydd y cânt eu rhyddhau cyn bo hir ar gyfer angladd iechyd y cyhoedd, neu i gael eu harchwilio ymhellach (neu cyn hynny, yn dibynnu ar gyflwr y corff). Y rheswm dros hyn yw er mwyn lleihau'r risg y bydd cyflwr y corff yn dirywio. Felly, bydd angen i awdurdodau lleol neu drefnwyr angladdau sicrhau bod storfeydd priodol ar gael wrth bennu unrhyw amserlenni.

Mae'n arfer dda ystyried ffydd neu gredoau’r ymadawedig wrth greu neu addasu amserlenni.

Os oes crwner yn rhan o'r broses, ni ellir claddu nac amlosgi'r corff tan ar ôl iddo gael ei ryddhau.

Dewis trefnydd angladdau

Mae rhai awdurdodau lleol wedi sefydlu eu swyddogaeth trefnu angladdau eu hunain, ac mae eraill wedi ymrwymo i gontractau neu drefniadau gyda threfnwyr angladdau i weinyddu angladdau iechyd y cyhoedd ar ran yr awdurdod lleol.

Os defnyddir trefnydd angladdau, bydd angen caffael y gwasanaeth yn unol â rheolau caffael yr awdurdod lleol sy'n briodol i werth y contract er mwyn sicrhau gwerth am arian. Mae hefyd yn ddefnyddiol pennu pwyntiau adolygu penodol ar gyfer y trefniadau.

Gall fod yn ddefnyddiol rhoi manylion y trefnydd angladdau a ddefnyddir i gartrefi gofal a nyrsio lleol, er mwyn osgoi sefyllfa lle y cysylltir â threfnydd angladdau arall os bydd marwolaeth y gall fod angen cynnal angladd iechyd y cyhoedd ar ei chyfer.

Cadw cofnodion

O'r adeg atgyfeirio, mae'n bwysig cadw cofnodion cynhwysfawr o bob angladd iechyd y cyhoedd. Mae'n ddefnyddiol cynnwys manylion unrhyw waith i ddod o hyd i'r perthynas agosaf, unrhyw gostau yr eir iddynt a threfniadau'r angladd.

Argymhellir y dylid cadw cofnodion yr ymadawedig am 10 mlynedd o leiaf. Fodd bynnag, o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel y'i gweithredwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018, ni ddylid cadw data personol, fel manylion y perthynas agosaf, am gyfnod hwy nag sydd ei angen.  Pan na fydd angen data yn unol ag unrhyw ofynion cadw mwyach, ni ddylid parhau i'w cadw a dylid eu dinistrio'n ddiogel.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 209 KB.

Maint Ffeil 209 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.