Yn y canllaw hwn
6. Talu treth yn ystod adolygiadau ac apeliadau
Bydd dal angen i chi dalu'r dreth sy'n ddyledus ac unrhyw log ar y swm hwnnw os byddwch yn gofyn am adolygiad neu apêl.
Yn erbyn cosb
Os ydych chi wedi gofyn am adolygiad neu wedi apelio i'r tribiwnlys ynghylch cosb, ni fyddwn yn gofyn i chi dalu nes bydd adolygiad neu apêl yn dod i ben.
Bydd dal angen i chi dalu ar amser os:
- oes gennych fwy nag un gosb
- rydych yn gofyn am adolygiad neu apêl ar ran o gosb
Gohirio talu treth
Os ydych chi'n meddwl bod y swm i'w dalu yn ormod, gallwch ofyn i ni ohirio ei adennill nes bod eich apêl wedi'i setlo. Bydd llog yn parhau i gynyddu ar y swm hwnnw yn y cyfamser.
Os ydych yn gofyn i ni ohirio adennill yr arian, dylech wneud hynny'r un pryd ag y byddwch yn gofyn am adolygiad neu apêl. Mae angen i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i dderbyn ein llythyr penderfyniad treth.
Bydd angen i chi neu'ch asiant ysgrifennu atom i ofyn a allwch chi ohirio talu treth a llog.
Os ydych chi'n gofyn am adolygiad, gallwch ofyn hefyd am ohirio talu yn yr un llythyr.
Rhaid i chi gynnwys:
- faint o dreth a llog y credwch sy'n ormod i'w dalu
- y rheswm pam eich bod chi'n meddwl bod y swm yn ormod i'w dalu
Byddwch yn derbyn llythyr gyda’n penderfyniad a ddylid gohirio'r swm cyfan, neu ran ohono. Os byddwn yn penderfynu peidio â gohirio, rhaid i chi dalu treth ac unrhyw log erbyn y dyddiad y mae’n ddyledus.
Anghytuno â'n penderfyniad
Gallwch wneud cais i'r tribiwnlys am adolygiad o'n penderfyniad i ohirio talu treth. Bydd angen i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i’n penderfyniad.