Neidio i'r prif gynnwy

4. Pan na allwch ofyn am adolygiad neu apêl

Ni allwn adolygu penderfyniad treth os:

  • nad yw eich apêl i'r tribiwnlys wedi’i dynnu’n ôl
  • ydych chi wedi gwneud cytundeb setliad parhaus gyda ni
  • ydych chi’n gwneud cais am adolygiad i newid eich ffurflen dreth tra byddwn yn ymholi iddi

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad treth os:

  • nad oes modd apelio yn erbyn y penderfyniad
  • nad ydym wedi gorffen adolygu penderfyniad
  • ydym yn dal i ymholi i’ch ffurflen dreth
  • ydych chi wedi gwneud cytundeb setliad parhaus gyda ni

Gweler canllawiau pellach ar benderfyniadau sy'n rhai y gellir apelio yn eu herbyn ac yn rhai nad oes modd apelio yn eu herbyn.