Neidio i'r prif gynnwy

3. Apelio i'r tribiwnlys

Corff allanol yw'r tribiwnlys treth, sy’n annibynnol ar yr Awdurdod. Bydd yn gwrando ar y ddwy ochr cyn gwneud penderfyniad.

Gallwch apelio i'r tribiwnlys os ydych:

  • yn anghytuno â'n penderfyniad treth
  • yn anghytuno â chanlyniad adolygiad

Dyddiadau cau

Rhaid i chi apelio o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y byddwn yn cyhoeddi ein llythyr penderfyniad.

Os na fyddwch chi'n apelio erbyn y dyddiad cau, bydd angen i chi wneud cais i'r tribiwnlys am ganiatâd i wneud apêl hwyr. Ni allwn ni roi'r caniatâd hwn.

Os bydd y tribiwnlys yn dod i'r casgliad fod yn rhaid i chi dalu cosb, rhaid i chi dalu o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y cafodd yr apêl ei setlo.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses hon, gweler y canllawiau tribiwnlys treth.