Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru i gynnal prosiect ymchwil cydweithredol.

Fel rhan o’r ymchwil hwn bydd Prifysgol Bangor yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein wedi’i dargedu at ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, seicolegwyr addysg, ysgolion yng Ngogledd a De Cymru, therapyddion lleferydd ac iaith, a rhieni a gofalwyr.

Bydd yr arolwg hefyd yn cael ei ddefnyddio fel dull o recriwtio cyfranogwyr ar gyfer ymchwil grŵp ffocws dilynol.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil, fodd bynnag bydd tîm ymchwil Prifysgol Bangor yn gyfrifol am holl ymarferion casglu data. Byddant hefyd yn goruchwylio rheolaeth gyffredinol y grwpiau ffocws gan gynnwys gwahoddiadau i fynychu a thrawsgrifio. Bydd Prifysgol Bangor yn sicrhau fod yr holl ddata yn ddienw, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig i helpu i lywio’r prosiect ymchwil hwn gan Lywodraeth Cymru a Pholisïau Llywodraeth Cymru.

Cafwyd cymeradwyaeth foesegol ar gyfer yr astudiaeth ymchwil hon gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Addysg Prifysgol Bangor. Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hwn ym Mhrifysgol Bangor yw:

E-bost: educationproject@bangor.ac.uk

Hysbysiad preifatrwydd

Pa ddata personol sydd gennym a ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Bydd yr arolwg ar-lein yn cael ei ddosbarthu drwy'r rhwydweithiau presennol o aelodau panel cynghori'r prosiect.

Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu unrhyw ddata personol a thrwy gwblhau'r arolwg nid yw eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad OP yn cael eu dal yn awtomatig felly mae eich ymatebion yn ddienw. Fodd bynnag, hoffem archwilio materion yn fanylach mewn grwpiau ffocws ac os ydych yn fodlon cymryd rhan, darparwch eich manylion cyswllt os gwelwch yn dda (enw a chyfeiriad e-bost). Mae'r wybodaeth yma yn cael ei gofnodi ar ffurflen arolwg ar wahân fel bod eich ymatebion yn aros yn ddienw.

Os nad ydych wedi derbyn arolwg, mae’n bosibl bod trydydd parti sy’n gyfarwydd i chi wedi cysylltu i ofyn a fyddech yn fodlon cymryd rhan mewn grŵp ffocws. Rydych wedi cytuno i’r trydydd parti hwnnw rannu eich manylion (enw a chyfeiriad e-bost) â Phrifysgol Bangor.

Pe baech yn cytuno i gymryd rhan mewn grŵp ffocws, bydd y gwahoddiadau i gymryd rhan yn cael eu gwneud gan ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd a bydd e-byst a anfonir at y grŵp yn defnyddio'r adran Bcc i osgoi rhannu manylion cyswllt â holl aelodau eraill y grŵp.

Nid yw cymryd rhan mewn grŵp ffocws yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol oddi wrthych, ac eithrio eich delwedd os ydych yn cytuno i gyfarfod cael ei recordio ar fideo.

Efallai y byddwn am recordio trafodaethau grŵp ffocws am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i’r sesiwn ddechrau, a chewch gyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i’r drafodaeth gael ei recordio. Dim ond os yw holl aelodau'r grŵp yn fodlon caiff y grŵp ffocws ei recordio. Os bydd trafodaethau yn cael eu recordio, bydd unrhyw ddata personol a rennir yn cael ei ddileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y broses hon wedi'i chwblhau. Os na chaiff trafodaethau eu cofnodi, ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn nodiadau ysgrifenedig.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfraniad yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig i helpu i lywio’r prosiect ymchwil hwn gan Lywodraeth Cymru a Pholisïau Llywodraeth Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i Brifysgol Bangor bob amser yn cael ei gynnal yn ddiogel, wedi'i storio y tu ôl i system ddilysu 2-gam Microsoft. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Prifysgol Bangor yn defnyddio'r data hwn.

Mae gan Brifysgol Bangor weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri amodau, bydd Prifysgol Bangor yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae gofyniad cyfreithiol i wneud hynny.

Ni fydd y trawsgrifiadau o drafodaethau grwpiau ffocws yn cynnwys data personol a byddant yn cael eu dileu ar ddiwedd y prosiect. Lle mae'r adroddiadau ymchwil terfynol yn cyfeirio at ganfyddiadau grwpiau ffocws, bydd hyn mewn perthynas â'r holl gyfranogwyr ac ni chaiff unrhyw wybodaeth adnabyddadwy ei chynnwys.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol? 

Bydd Prifysgol Bangor yn cadw data personol am gyfnod y contract gyda Llywodraeth Cymru. Bydd Prifysgol Bangor yn dileu unrhyw ddata personol o fewn tri mis i ddiwedd y contract hwnnw. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r panel cynghori hwn, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at gopi o'ch data eich hun 
  • i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (o dan rai amgylchiadau)
  • i'ch data gael ei 'ddileu' (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Ffon: 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk (Saesneg yn unig)

Gwybodaeth Bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

E-bost: schoolsresearch@gov.wales

Rhif ffon: 0300 025 1015

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ 

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru