Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ysgrifennu anghenion defnyddwyr ar gyfer LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw anghenion defnyddwyr?

‘Anghenion defnyddwyr’ yw’r anghenion sydd gan y cyhoedd, busnesau a phartneriaid gan Lywodraeth Cymru. Defnyddwyr LLYW.CYMRU yw’r rhain.

Dylai pob rhan o LLYW.CYMRU fod ag anghenion defnyddwyr dilys. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn adeiladu gwasanaethau a chynnwys ar gyfer y defnyddwyr hyn.

Bydd pobl yn ymweld â LLYW.CYMRU gyda thasg benodol dan sylw. Er enghraifft, darganfod sut i wneud cais am bàs bws, neu brynu a gwerthu tŷ yng Nghymru.

Mae creu anghenion defnyddwyr da yn golygu y gallwn gynhyrchu cynnwys sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y bobl hynny sy’n defnyddio ein gwefan. Bydd hyn yn eu helpu i ddod o hyd i’r pethau y maent eu hangen ar LLYW.CYMRU.

Pwy yw’r defnyddiwr

Dyma eich cynulleidfa. Byddwch yn benodol – peidiwch â chyfeirio at eich defnyddwyr fel ‘pawb’ neu ‘ddinasyddion Cymru’. Bydd gan bob maes polisi grŵp penodol o bobl ac unigolion sydd â diddordeb yn y testun neu’r pwnc. Bydd ganddynt wahanol anghenion yn dibynnu ar yr hyn y maent eisiau ei wneud.

Er enghraifft, rhywun sy’n bwriadu gwneud cais am ofal plant am ddim. Mae hyn yn cynnwys rhieni neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant, fel neiniau a theidiau. Nid oes angen gwahanol anghenion defnyddwyr ar y rhain.

Sut i ysgrifennu anghenion defnyddwyr

I greu cynnwys ar gyfer LLYW.CYMRU mae’n rhaid dechrau gydag anghenion y defnyddiwr.

Gweithiwch gyda thimau eraill a pherchnogion y cynnwys i ddatblygu’r rhain. Eisteddwch a siaradwch gyda nhw am yr anghenion sydd gan y defnyddiwr o’u cynnwys ac amlinellwch y rhesymau dros yr agwedd hon. Mae hyn yn helpu i annog timau i feddwl pwy y mae’r cynnwys hwn yn effeithio arnynt. Trafodwch beth y mae angen i ddefnyddwyr ei wneud â’r cynnwys. Mae hyn yn osgoi canolbwyntio ar y cynnyrch terfynol, fel adroddiad i’w gyhoeddi ar LLYW.CYMRU.

Mae’n rhaid i’r holl gynnwys ar LLYW.CYMRU ddilyn y templed canlynol:

Fel… [pwy yw’r defnyddiwr?]
Rwyf angen… [beth mae’r defnyddiwr eisiau ei wneud?]
Fel y gallaf… [pam mae’r defnyddiwr eisiau gwneud hyn?]

Enghraifft dda

‘Fel tenant sy’n byw mewn eiddo, rwyf angen dod o hyd i gymorth ynglŷn â phroblem gyda fy mhrydles, fel y gallaf ei datrys.’

Mae hwn yn angen dilys gan ddefnyddiwr oherwydd nid yw’n cynnwys ateb i’r broblem. Efallai y bydd angen cynnwys mwy nag un peth i sicrhau bod anghenion y defnyddiwr yn cael eu diwallu. Gall hyn gynnwys:

  • canllawiau
  • cyhoeddiadau ar wahân wedi’u rhestru mewn casgliad
  • canllaw aml dudalen

Enghraifft wael

‘Fel tenant sy’n byw mewn eiddo, mae angen i mi gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau er mwyn nodi fy mhroblem a’i datrys.’

Mae hon yn enghraifft wael oherwydd ei bod yn awgrymu ateb na fydd bob amser yn gywir. Drwy ragdybio pethau yn ystod y broses dylunio, gallwch yn aml fod yn anghywir. Chwiliwch am y dewis gorau bob amser i ddiwallu anghenion y defnyddiwr.

Meini prawf derbyn

Ysgrifennwch restr o’r pethau sydd angen eu gwneud i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Er enghraifft, yn seiliedig ar yr enghraifft uchod:

  • deall sut mae lesddaliad yn gweithio yn Nghymru
  • gwybod beth i’w wneud os oes problem gyda’r lesddaliad neu os am brynu un
  • deall sut i ddatrys problemau

Beth mae angen i ddefnyddwyr ei wneud

Mae’n rhaid i anghenion defnyddwyr a chynnwys ar LLYW.CYMRU fod yn seiliedig ar gamau gweithredu neu dasgau. Meddyliwch beth y mae angen i ddefnyddwyr ei wneud.

Mae anghenion defnyddwyr yn cynnwys:

  • gwneud cais
  • apelio
  • talu am rywbeth
  • cyflwyno
  • gofyn am rywbeth

Dylech osgoi defnyddio’r geiriau:

  • deall
  • gwybod
  • bod yn ymwybodol o

Dylech ddefnyddio’r gair ‘deall’ dim ond os oes angen i’r defnyddiwr ei wybod i gwblhau tasg, fel gofyniad cyfreithiol.

Enghraifft dda

Fel rheolwr cartref gofal, rwyf angen gwybod beth yw’r safon ofynnol genedlaethol ar gyfer fy ngwasanaeth. Rwyf angen gwybod fel y gallaf sicrhau bod y gofal a’r gwasanaeth yr wyf yn ei ddarparu i’r bobl yr wyf yn gofalu amdanynt yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Enghraifft wael

Fel rheolwr cartref gofal, rwyf angen gwybod beth yw’r safon ofynnol genedlaethol ar gyfer fy ngwasanaeth, fel bod gen i’r wybodaeth angenrheidiol.