Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu rhai o'r materion ynghylch y cymorth i bobl ifanc sydd ag AAA yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Cynhwysir cynllun gweithredu a dogfen ymatebion a fersiwn gryno i blant a phobl ifanc.

Yn ystod 2009, comisiynwyd Arad Consulting i gynnal dadansoddiad o'r cymorth i bobl ifanc sydd ag AAA yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Nod yr astudiaeth oedd ymchwilio i'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sydd ag AAA yn y system cyfiawnder ieuenctid. Roedd hefyd yn edrych ar y cymorth i ymarferwyr yn y sector.

Y brif ffynhonnell o wybodaeth am blant a phobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â'r sector cyfiawnder ieuenctid yw'r wybodaeth a ddarperir yn y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Nod yr asesiadau hyn yw nodi'r problemau penodol sy'n gwneud i'r person ifanc droseddu.

Maent yn cynnwys cwestiynau o ran a oes gan berson ifanc ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Maent hefyd yn gofyn cwestiynau ynglŷn â chyrhaeddiad ac a yw person ifanc wedi cael ei fwlio.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r materion i'w hystyried wrth wneud y gwaith ymchwil. Mae'n tynnu ar adolygiad o lenyddiaeth academaidd a pholisi ac ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid. Diben yr ymarfer hwn oedd cael barn ymarferwyr sy'n gweithio yn y sector cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu rhai o'r materion ynghylch y cymorth i bobl ifanc ag AAA yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Un canlyniad Adroddiad Arad oedd darparu hyfforddiant i Godi Ymwybyddiaeth o AAA i bersonél dethol y Timau Troseddau Ieuenctid ar draws Ardal Gydgyfeirio Cymru, ochr yn ochr â nifer o gydweithwyr sy’n gweithio o fewn mannau diogel.

Bwriad yr hyfforddiant hwn oedd dechrau codi ymwybyddiaeth a gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag AAA. Bydd hyn felly’n galluogi’r rhai hynny sy’n gweithio gyda plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru i nodi’r posibilrwydd hwn, gan wneud cysylltiadau mwy effeithiol, a datblygu dulliau o weithio i helpu i reoli hyn, ac yn y pen draw ddarparu gwasanaeth mwy unigoledig sy’n canolbwyntio ar y person.

Mae DVD a llyfryn gwaith wedi’u datblygu o’r hyfforddiant hwn, sydd â dolen iddynt isod, fydd yn dod yn adnodd effeithiol i nifer o bobl, ac yn cael eu defnyddio fel rhan o gwrs cynefino effeithiol i bersonél Timau Troseddau Ieuenctid newydd.

Adroddiadau

Trosolwg o Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer timau troseddau ieuenctid: cyflwyniad , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 885 KB

PDF
Saesneg yn unig
885 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Trosolwg o Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer timau troseddau ieuenctid: llawlyfr , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dadansoddiad o gefnogaeth i bobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig yn y sector cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 374 KB

PDF
374 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Anghenion Addysgol Arbennig yn y system cyfiawnder ieuenctid: cynllun gweithredu ac ymatebion , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 151 KB

PDF
Saesneg yn unig
151 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dadansoddiad o'r cymorth i bobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn y sector cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru: cynhyrchu crynodeb sy ' n ystyriol o bobl ifanc , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 421 KB

PDF
Saesneg yn unig
421 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.