Bydd y Prif Weinidog yn dweud wrth wleidyddion am roi'r gorau i chwarae gêm wleidyddol â Brexit ac yn eu herio i gydweithio er mwyn sicrhau bargen
I nodi Diwrnod Ewrop, bydd y Prif Weinidog yn annerch digwyddiad a gynhelir yn adeilad y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd. Ar ôl 42 mlynedd o gynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Ewrop yn y brif ddinas, dyma'r tro olaf y bydd Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn cynnal digwyddiad o'r fath.
Bydd y Prif Weinidog yn siarad am y berthynas sydd wedi datblygu rhwng Cymru a'r UE dros yr hanner canrif diwethaf, ac yn edrych ymlaen at berthynas gadarnhaol â'n partneriaid Ewropeaidd dros yr hanner can mlynedd nesaf. Bydd yn dweud:
"Prin saith deg mlynedd yn ôl, cododd Ewrop o un o'r brwydrau mwyaf gwaedlyd yn hanes y byd. Yr hyn a flagurodd o ddinistr rhyfel oedd penderfyniad newydd ac ewyllys gwleidyddol na fyddai'n rhaid i'r genhedlaeth nesaf wynebu’r tywallt gwaed a’r aberth a ddioddefodd y genhedlaeth o’i blaen.
"Mae'r cyfnod hwnnw o sefydlogrwydd wedi para ac er bod sawl rheswm dros hynny, efallai mai'r rheswm pwysicaf un yw ewyllys gwleidyddol. Ewyllys a welwyd drwy bartneriaethau ac undeb economaidd newydd – gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd – sydd wedi sicrhau bod ein bywydau'n fwy heddychlon, ffyniannus a sefydlog nag erioed.
"Yn 2016, penderfynodd y Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac fel Llywodraeth, rydyn ni wedi chwarae ein rhan yn y drafodaeth genedlaethol am ein dyfodol y tu allan i'r strwythurau gwleidyddol hynny.
"Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cytuno ar sefyllfa synhwyrol a rhesymol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn diogelu pwerau datganoledig ar ôl inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni wedi cael ein beirniadu am hynny, am negodi â llywodraeth o liw gwleidyddol gwahanol. Ond rydyn ni wedi dod i gytundeb gan mai dyma'r peth iawn i Gymru a'n heconomi.
"Nid ydyn ni wedi ennill pob dadl eto, a byddwn yn parhau i frwydro drostynt. Ond mae mwy i Ddiwrnod Ewrop na hynny. Er mor bwysig yw'r papurau sefyllfa, y trefniadau cyfansoddiadol a'r ffiniau masnachu, mae'r hyn rydyn ni'n ei drafod wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn llawer mwy sylfaenol. Yr hyn sy'n bwysig yw'r math o wlad rydyn ni am ei gadael i'n plant.
"Ar ôl 1945, bu'n rhaid i'r genhedlaeth newydd wynebu dewisiadau gwleidyddol anodd er mwyn llunio dyfodol newydd, ac rwy'n credu bod y penderfyniad sy'n ein hwynebu nawr yr un mor bwysig. Mae mwy yn ein huno nag sy'n ein gwahanu. Mae mwy i Ewrop na chasgliad o wladwriaethau coch a glas. Rydyn ni'n gyfandir sy'n rhannu'r un nodau yn y bôn, sef heddwch, ffyniant a gwell yfory.
"A dyna fy neges syml ar Ddiwrnod Ewrop 2018. Rydyn ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ond dydyn ni ddim yn gadael Ewrop. Rwy'n credu y gall y Deyrnas Unedig ddewis y cyfle hwn i ail-lunio ein perthynas â'n partneriaid Ewropeaidd mewn ffordd sy'n diogelu’r dolenni cyswllt sy’n gyffredin rhyngom. Wrth wneud hynny, bydd yn ein helpu i wireddu ein huchelgais o sicrhau gwleidyddiaeth decach a mwy caredig.
"Drwy sicrhau bargen i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd sy'n cynnal y gallu i fusnesau fasnachu'n rhydd â'u partneriaid Ewropeaidd er budd i bawb. Bargen sy'n cadw hawliau pobl ifanc i deithio, i weithio ac i astudio'n rhydd gyda’u cyfoedion Ewropeaidd. Drwy sicrhau bargen sy'n parhau i fuddsoddi a sicrhau tegwch i gyrion rhanbarthol Ewrop, er mwyn mynd i'r afael ag anghyfiawnderau economaidd a’r problemau sy’n deillio o ddad-ddiwydiannu.
"Felly, rwy'n herio pob plaid wleidyddol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i roi gwleidyddiaeth o'r neilltu ac edrych ar Brexit o safbwynt ehangach. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd i ddatblygu perthynas fwy cadarnhaol â'n partneriaid Ewropeaidd dros y deuddeg mis nesaf, a sicrhau bargen y gall y genhedlaeth nesaf fod yn falch ohoni."