Gwahodd gweinidogion
Mae gweinidogion yn credu bod cyfarfod â sefydliadau ac unigolion, mynd ar ymweliadau a mynd i ddigwyddiadau ledled Cymru yn rhan allweddol o'u swydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Felly, mae ganddynt ddyddiaduron llawn iawn. Yn anffodus, mae hyn yn golygu ei bod yn anodd iddynt fynd i bob digwyddiad a chyfarfod â phob unigolyn sydd am eu gweld.
Fodd bynnag, cyn gwahodd gweinidog i ddigwyddiad, gallech ystyried ai'r Gweinidog yw'r unigolyn mwyaf priodol.
O ran rhai digwyddiadau neu achosion sy'n delio â materion lleol, mae'n bosibl mai eich Aelod o’r Senedd (AS) etholaethol fydd yr unigolyn mwyaf addas. Gallwch ddod o hyd i'ch AS ar wefan Senedd Cymru.
O ran digwyddiadau sy'n ymwneud â materion heb eu datganoli, dylech ystyried gwahodd eich Aelod Seneddol.
I gael manylion pob un o'ch cynrychiolwyr etholedig, gallwch fynd i wefan WriteToThem.
Dewis y gweinidog cywir
Mae'n bwysig gwahodd y gweinidog perthnasol. Gallwch ddod o hyd i bortffolio pob gweinidog ar ei dudalen bywgraffiad.
Mwy nag un gwahoddiad
Yn yr un modd â gohebiaeth, pan fydd yr un gwahoddiad yn cael ei anfon at sawl gweinidog, mae'n debygol mai un ateb y byddwch yn ei dderbyn. Yn anffodus, ni fydd anfon gwahoddiad at sawl gweinidog yn golygu bod y gweinidog yn fwy tebygol o’i dderbyn.
Rhybudd
Cofiwch fod dyddiaduron gweinidogion yn llawn iawn ac yn cael eu trefnu ymhell ymlaen llaw. Felly, mae'n annhebygol y bydd gweinidog yn gallu mynd i ddigwyddiad ar fyr rybudd.
Argaeledd
Gan fod busnes y Llywodraeth a'r Senedd yn mynd rhagddo ar brynhawniau Mawrth a Mercher, er bod y dyddiaduron yn cael eu trefnu ymhell ymlaen llaw, bydd busnes y Llywodraeth a'r Senedd yn cael blaenoriaeth, ac efallai y bydd gweinidog yn tynnu'n ôl ar fyr rybudd. Rydym yn osgoi hyn pan fo'n bosibl ac yn rhoi gwybod ichi am newidiadau cyn gynted ag y bo modd. Er hynny, efallai y byddai'n well osgoi diwrnodau o’r fath.
Llunio gwahoddiad
Dylai gwahoddiadau fod yn ysgrifenedig (naill ai drwy'r post neu ar e-bost) a dylent gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl.
I wneud cais am gyfarfod â'r gweinidog, dylech nodi'n glir beth yw'r diben, hy yr hyn yr hoffech ei drafod, gan gynnwys gwybodaeth gefndir.
Pan fyddwch yn gwahodd gweinidog i ddigwyddiad, dylech gynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
- dyddiad ac amser
- lleoliad (gyda chod post llawn)
- hyd y digwyddiad
- diben (ee agoriad swyddogol, cynhadledd [gan gynnwys thema])
- yr hyn yr hoffech i'r gweinidog ei wneud (ee rhoi araith [gan gynnwys ei thestun], ateb cwestiynau, ac ati)
Anfonwch agenda ddrafft os oes un ar gael.
Gellir dod o hyd i gyfeiriadau ar gyfer gohebu â’r gweinidogion ar dudalennau bywgraffiad y gweinidogion (cofiwch nad oes arnom angen copïau caled o wahoddiadau e-bost).
Neu, os nad ydych chi am anfon e-bost, gallwch anfon eich gwahoddiad at:
Teitl y gweinidog ...
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Pierhead Street
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Ymatebion
Dylech dderbyn ateb cyn pen 17 o ddiwrnodau gwaith.