Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), sydd weithiau'n cael ei alw yn 'enwaedu benywod' neu 'dorri benywod', yn drosedd.
Mae'n anghyfreithlon mynd â gwladolyn Prydeinig neu breswylydd parhaol dramor ar gyfer FGM, neu i gynorthwyo rhywun sy'n ceisio gwneud hynny.
Cael help os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef o hyn
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer:
- unrhyw un sy'n dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol
- pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth
- ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol
Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.