Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad pwysig sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn datgelu’r ffactorau cymhleth a hirsefydlog sy’n cyfrannu at y ffaith fod y coronafeirws yn cael effaith amghymesur ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lluniwyd yr adroddiad gan y grŵp cynghori arbenigol ar BAME a COVID-19, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford. Mae’r grŵp yn gwneud dros 30 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â’r risgiau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad.

Sefydlwyd y grŵp cynghori i edrych ar y rhesymau pam y mae pobl o gymunedau BAME yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau difrifol yn sgil y coronafeirws. Mae’n cael ei gadeirio ar y cyd gan y Barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne, ac mae iddo dau is-grŵp – un ohonynt â’r dasg o ymchwilio i’r rhesymau economaidd-gymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna, a gadeiriodd yr is-grŵp: “Mae thema gyffredin yn rhedeg drwy ein hymchwil ar gyfer yr adroddiad hwn.

“Mae’n ymwneud â hiliaeth ac anfantais sy’n ymestyn yn ôl i’r gorffennol, a diffyg cynrychiolwyr BAME o fewn y broses benderfynu.  

“Mae’r pandemig coronafeirws, ar un agwedd, yn datgelu canlyniadau’r diffyg gweithredu ar gydraddoldeb hiliol.  

“Mae llawer o’r materion yr ydym wedi tynnu sylw atynt wedi cael eu nodi a’u trafod o’r blaen, ond ni fu gweithredu i’w datrys mewn unrhyw ffordd systematig na chynaliadwy.”

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn nodi nifer o ffactorau risg economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol allweddol, gan gynnwys:

  • Cyfathrebu gwybodaeth am iechyd, ac effeithiolrwydd yr wybodaeth honno
  • Materion diwylliannol o ran pa mor addas yw gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer cymunedau BAME
  • Ansicrwydd incwm a chyflogaeth, sy’n effeithio mewn modd anghymesur ar gymunedau BAME
  • Ansawdd gwael data ethnigrwydd, sy’n llesteirio gwaith dadansoddi manwl a chywir.
  • Tai gorlawn a’r amgylchedd
  • Y baich ariannol sy’n cael ei greu gan statws mudo
  • Rôl hiliaeth ac anfantais strwythurol a systemig.


Yn ei ymateb cychwynnol i adroddiad yr Athro Ogbonna, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Cafodd y grŵp cynghori ei sefydlu i ymchwilio i’r gwahanol ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl o gefndiroedd BAME.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Athro Ogbonna ac aelodau’r is-grŵp am eu gwaith prydlon a manwl a hefyd eu hargymhellion.”

Roedd dadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ledled Cymru a Lloegr, yn ôl ethnigrwydd, yn dangos bod pobl o gefndir ethnig Du mewn mwy o berygl o farwolaeth am resymau yn cynnwys COVID-19 na'r holl grwpiau ethnig eraill. Mae'r risg i wrywod duon wedi bod fwy na theirgwaith yn uwch nag i wrywod gwynion a bron i ddwywaith a hanner yn uwch i fenywod duon nag i fenywod gwynion.

Mae addasu ar gyfer ffactorau economaidd-gymdeithasol a lleoliad daearyddol yn esbonio'r risg gynyddol yn rhannol, ond mae’r risg yn dal ddwywaith yn uwch i wrywod duon thua un a hanner gwaith yn uwch i fenywod duon. Mae gwahaniaethau arwyddocaol hefyd ar gyfer dynion Bangladeshaidd, Pacistanaidd ac Indiaidd

Lansiodd y Prif Weinidog ymchwiliad brys fis Ebrill i ddeall pam mae’r coronafeirws yn peri mwy o risg i gymunedau BAME.

Datblygodd yr ail is-grŵp, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Keshav Singhal, asesiad risg dau gam, a gafodd ei lansio yn y Gwasanaeth Iechyd ac yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod y mis diwethaf. Ei nod yw helpu pobl i asesu eu risg mewn perthynas â’r coronafeirws, er mwyn iddynt allu cymryd camau, mewn ymgynghoriad â’u cyflogwyr, i leihau’r perygl o ddod i gysylltiad â’r haint – camau a allai gynnwys defnyddio mwy o gyfarpar diogelu personol a newid eu rolau.