Mae anemia heintus y ceffylau yn glefyd feirysol mewn ceffylau, mulod ac asynod. Mae'n glefyd hysbysadwy.
Nid yw'r clefyd yn gyffredin ym Mhrydain Fawr ond mae'n bresennol yn rhannau eraill y byd.
Amheuon a chadarnhad
Os ydych chi'n amau anemia heintus y ceffylau cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio achosion tybiedig.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- colli archwaeth
- troethi yn aml
- dolur rhydd
- gwendid
- parlys yn y pen ôl
- yr haen mwcosaidd yn welw
- y llygaid yn felyn
- gwaedu pen pin o dan y tafod
- anadlu'n gyflym a churiad calon cyflym
- gall cesyg beichio golli ebol
Trosglwyddo ac atal
Caiff anaemia heintus y ceffylau ei drosglwyddo fel arfer gan bryfaid sy'n sugno gwaed. Mae'n bosibl ei drosglwyddo hefyd:
- drwy waed wedi ei heintio neu gynnyrch gwaed
- drwy offer wedi'u heintio neu nodwyddau
- o gesyg beichiog i'w ebolion pan yn y groth
Mae gwaith ymchwil yn parhau i geisio creu brechlyn addas.