Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei huchelgais hirdymor i weld oddeutu 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at eu cartrefi, a hyn yn golygu wedi i fygythiad Covid-19 leihau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy wneud newidiadau i ddiwylliant gweithio Cymru, a fyddai’n rhoi’r dewis i ragor o bobl weithio mewn ffordd sy’n helpu eu cynhyrchiant yn ogystal â’r cydbwysedd rhwng eu bywyd a’u gwaith. 

Mae cyfyngiadau y Coronafeirws wedi golygu bod llai o bobl yn gweithio mewn swyddfeydd, sydd wedi golygu llai o dagfeydd, llygredd a defnyddio ceir preifat. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr ledled Cymru weithio o bell, ac yn credu bod gan hyn y posibilrwydd o sbarduno adfywiad a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau. 

Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd dysgu gwersi ar faterion megis cymorth gyda iechyd meddwl, trefniadau gofal plant a bod yn fwy arloesol wrth ddylunio tai. 

Fel rhan o hyn, mae rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell hefyd yn cael eu hystyried sy’n cynnig dewisiadau y tu hwnt i ddewis rhwng y cartref a’r swyddfa.  Gallai’r canolfannau hyn, o fewn pellter cerdded a beicio i gartrefi pobl, gael eu defnyddio gan weithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd parti.  Gallent hefyd annog partneriaethau newydd i ddatblygu rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, diwydiant, ac eraill. 

Y bwriad yw datblygu model hybrid ar gyfer y gweithle, ble y gall staff weithio yn y swyddfa, gartref neu yn lleoliad y ganolfan.  Y nod yw y bydd hyn yn galluogi 30% neu ragor o weithwyr i weithio o bell, gan helpu i leihau tagfeydd a llygredd a gwella y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i weithwyr a chyflogwyr. 

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 

“Nid yw cyfarwyddiadau Llywodraeth y DU i bawb fynd yn ȏl i’r swyddfa yn un yr ydym yn eu hail-adrodd yng Nghymru.  Rydym yn credu y bydd nifer o bobl am barhau i weithio o bell yn yr hirdymor, a gallai hyn fod yn newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n gweithio yng Nghymru. 

“Rydym hefyd yn ymwybodol o anghenion y rhai hynny nad yw gweithio o gartref, am amrywiol resymau, yn opsiwn ymarferol, a byddwn yn edrych ar sut y gellid creu rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell o fewn cymunedau .   

“Mae gennym gyfle i wneud Cymru yn wlad ble y mae gweithio yn fwy hyblyg yn hanfodol i sut y mae ein heconomi yn gweithio, gan sefydlu diwylliant yn y gweithle sy’n rhoi gwerth ac yn cefnogi gweithio o bell.  Rydym yn anelu at weld oddeutu 30% o’r gweithlu yng Nghymru yn gweithio o bell yn rheolaidd.”

Meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Bydd gweithio o gartref yn newid sut yr ydym yn gweithio a chanol ein trefi a’n stryd fawr.  Fel rhan o’n cynllun Trawsnewid Trefi, rydym am edrych ar gyfleoedd newydd ar gyfer yr ardaloedd hyn, gan sicrhau bod mwy o bobl yn symud oddi wrth model manwerthu yn unig, ac un sy’n canolbwyntio ar ystod mwy amrywiol o weithgareddau a chyfleoedd.  Ein nod yw  gwneud canol ein trefi yn fywiog, perthnasol a hanfodol unwaith eto i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

 “Fel rhan o’n gwaith o gefnogi a bywiogi ein stryd fawr a chanol ein trefi, byddwn yn gofyn i sefydliadau, busnesau ac unigolion gyfrannu at waith sylweddol sydd wedi anelu at sicrhau bod mwy o bobl yn byw, gweithio, siopa a dysgu yma.”