Andy Richardson Partner – Partneriaethau Bwyd a Ffermio Ewropeaidd (EFFP)
Mae Andy Richardson yn bartner yn Partneriaethau Bwyd a Ffermio Ewropeaidd (EFFP).
Mae gan Andy Richardson dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd a diod yn y DU. Mae Andy yn teimlo’n wirioneddol angerddol am y diwydiant llaeth a'r sector bwyd-amaeth. Mae wedi gweithio mewn swyddi masnachol yn y diwydiant bwyd anifeiliaid ar gyfer BOCM PAULS. Yn ddiweddar gadawodd Volac lle bu'n Gyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Chynaliadwyedd.
Ar hyn o bryd mae'n Bartner yn EFFP, ymgynghoriaeth cadwyn gyflenwi yn y DU. Bu yn aelod o nifer o gyrff diwydiannol Llywodraeth y DU yn y gorffennol, gan gynnwys y Grŵp Cynghori ar Fasnach Strategol.
Bu Andy yn aelod allweddol o sawl fforwm strategaeth diwydiant gan gynnwys:
- Fforwm Cadwyn Gyflenwi Llaeth Westminster
- Tasglu Llaeth Cymru
- Tasglu Amaethyddiaeth Cynaliadwy Prifysgol Caergrawnt
- Rhaglen Caergrawnt ar gyfer Arweinyddiaeth Gynaliadwy
Mae Andy hefyd wedi cyd-sefydlu dau gydweithrediad rhyngwladol. Mae'r rhain yn ymwneud â datblygu cyflenwad a galw cynaliadwy ar gyfer protein a brasterau bwytadwy.